Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nid pob arwr sydd angen asyn

Vaughan Roderick | 11:36, Dydd Llun, 14 Medi 2009

quixote_300.jpgMae gen i gyfaddefiad. O bryd i gilydd rwy'n teimlo'n rhwystredig nad ydwyf yn gallu dod o hyd i ryw ddyfyniad neu ddywediad bachog i gyfleu syniad neu i ddefnyddio fel pennawd. Ar adegau felly rwy'n estyn i fy nychymyg ac yn bathu rhywbeth sy'n swnio'n dda, yn hynafol ac sy'n cyfleu'r ystyr.

Ffug-ddywediadau a dyfyniadau yw'r rhain mewn gwirionedd, pethau fel "mwy o geffyl gwaith na cheffyl gwedd" neu " y gwas bach sy'n cael y geiniog". Yr un gorau i mi gofio oedd "codi caib i agor cocos"- fy fersiwn Gymraeg i o "sledge-hammer to crack a nut".

Dydw i ddim sicr p'un ai hanner cofio'r pethau 'ma ydw i ai eu creu nhw allan o nunlle! Serch hynny mae'n rhoi boddhad enfawr i mi pan welaf rywun arall yn defnyddio un ohonyn nhw misoedd neu flynyddoedd yn ddiweddarach.

Ta beth, ar y daith yn ôl o Landudno fe drafododd Betsan a finnau y syniad o fathu dywediadau gwbl ddiystyr a'u cynnwys yn ein blogs i weld a fyddai unrhyw un yn sylwi! Fyddai hynny ddim yn beth call yn yr hinsawdd bresennol ond dyma rai o'r ffug-ddywediadau y gwnaethom ni eu bathu.

"Nid hawdd yw twyllo gafr benddu"

"Nid ar gaws y mae codi buarth"

"Un wiwer ni wna goelcerth"

"Haul y bore yw hunllef yr hwyr"

Ydych chi'n gallu meddwl am rai gwell ac oni fyddai'n sbort cael cystadleuaeth fathu yn y Babell Len?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:24 ar 14 Medi 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Mae'n anodd cerdded heb goesau.

  • 2. Am 14:13 ar 14 Medi 2009, ysgrifennodd Geraint:

    'Y ceffyl a recho a dynn ei bwn.'- un a fathwyd gan 'nhad (dros beint) yn y 50au.

  • 3. Am 14:43 ar 14 Medi 2009, ysgrifennodd Mabon:

    Dyma ddywediad y bathodd Gwynfor:
    "Hanfod Celfyddyd - Cynildeb"

  • 4. Am 15:32 ar 14 Medi 2009, ysgrifennodd Penri James:

    'Dafad yw dafad ond nid buwch yw buwch' - aralleiriad o'r hyn ddywedodd Elin Jones yn ei araith ddydd Gwener diwethaf pan yn son am LCO cig coch.

  • 5. Am 16:46 ar 14 Medi 2009, ysgrifennodd Daniel:

    Yn falch i weld bod cynhadledd y Blaid weid esgor ar drafodaeth fywiog am ddyfodol y genedl!

  • 6. Am 04:01 ar 15 Medi 2009, ysgrifennodd Alwyn ap Huw:

    Yn araf bach a phob yn dipyn mae tynnu'r gwir o reportas BBibun

  • 7. Am 09:27 ar 15 Medi 2009, ysgrifennodd Aled:

    O ran bachu ymadroddion, beth am hyn, sydd ar hyn o bryd yn brif-bennawd newyddion Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd, a hefyd i'w weld ar y tudalen Saesneg, yn un o'r dolenni:

    'Dyw ef ddim, wrth gwrs, yn golygu dim yn Gymraeg, ond mae'n gyfieithiad gair-am-air o "Health: praise for telephone service" ond bod y sawl a ysgrifennodd y peth wedi edrych am y *ferf* 'praise' yn lle'r *enw* yng ngeiriadur y Ö÷²¥´óÐã (neu efallai wedi bod yn "google'o" gan ddefnyddio'r gwasanaeth cyfieithu-i'r-Gymraeg newydd, sydd ar y cyfan yn arbennig o dda er bod angen bod yn wyliadwrus).

    Mae gweddill yr erthygl hefyd yn frith o ysgrifennu (neu gyfieithu) gwael.

    Google'o gwael yw gwarth y gair.

  • 8. Am 16:07 ar 15 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Wedi ei gywiro. Diolch.

  • 9. Am 21:26 ar 15 Medi 2009, ysgrifennodd ³§¾±Ã¢²Ô:

    'Swn i'n anghytuno ag Aled. Mae "canmol" yn enw sy'n golygu "mawl, moliant, clod, ffafr, cymeradwyaeth" yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru. "Mae canmol mawr i'r prifathro newydd" "Roedd tipyn o ganmol ar y bregeth dydd Sul". (dw i ddim yn hollol siwr ydi "canmol i" yn iawn - ond mae "canmol ar" yn sicr yn iawn.)

    Cyn cywiro, tsheced!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.