Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rialtwch

Vaughan Roderick | 08:58, Dydd Sadwrn, 31 Hydref 2009

Does na ddim thema i ffilmiau'r wythnos hon.

Eich awgrymiadau chi yw rhain i gyd gan gychwyn gyda phwnc wnaeth godi ar y blog yn ddiweddar sef Romani Cymru.

Am wn i mae gan bob gwlad a phob iaith eiriau fel "josgin" a "hambon" termau sy'n cael ei defnyddio'n ddilornus gan bobol drefol ynghylch pobol cefn gwlad ac sy'n cael eu harddel a balchder gan y bobol hynny.

"Culchie" yw'r term yn Iwerddon. Mae'n cymryd rhai eiliadau i sylweddoli'r pwynt clyfar y mae'r ffilm yma'n ei wneud.

Un ar hugain o acenion mewn dwy funud a hanner.

Rwy'n ymweld a'r teulu ym Malaysia cyn bo hir. Wrth gwrs mae'r diwylliant yn y wlad fwyafrifol Fwslimaidd honno yn gwbwl wahanol i wledydd y gorllewin... neu efallai ddim!


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:55 ar 1 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Idris:

    Ma'r un acenion yn anhygoel. Bechod na fase hi wedi geneud rhai de a gogledd Cymru hefyd. Ar ymweliad diweddar a Newcastle, roedd pawb yn deall yn syth mai Cymraeg oedd fy ngharaiad (o Ferthyr) tra roedden nhw'n meddwl mai Albanwr oeddwn i ogleddwr!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.