Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yr Holl Saint

Vaughan Roderick | 18:17, Dydd Sul, 1 Tachwedd 2009

daviddove.jpgMae calan gaeaf yn beth llawer iawn mwy nac oedd e pan oeddwn i'n grwt. Noson Guto Ffowc oedd y peth mawr ers talwm. Dydw i ddim yn gwybod p'un ai dylanwad diwylliant America ai gwreiddiau gwrth Gatholig Tachwedd y pumed sydd wedi arwain at y newid. Yn sicr erbyn hyn mae Noson Tan Gwyllt yn teimlo fel ôl nodyn i firi'r gwrachod a'r corachod.

Y dathliad sy'n cael ei anghofio'n llwyr yw'r un sydd rhwng y ddau sef Dydd Gŵyl yr Holl Saint. Doedd hi fyth yn cael dathlu yn y capeli, wrth reswm. Hyd y gwelaf i dyw hi ddim yn cael fawr ddim sylw yn unlle erbyn hyn.

Mae dirywiad crefydd yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif yn un o'r newidiadau pwysicaf yn ein hanes ond prin yw'r sylw mae'n cael y tu allan i gylchoedd crefyddol, cylchoedd nad yw'r mwyafrif ohonom ni yn perthyn iddyn nhw bellach.

Ystyriwch hyn, canrif yn ôl roedd y Cymry yn ystyried nhw eu hun ymhlith y cenhedloedd mwyaf crefyddol yn y byd. Erbyn hyn Cymru yw'r darn mwyaf seciwlar o'r wlad fwyaf seciwlar ar gyfandir fwyaf seciwlar y byd. Does rhyfedd bod Affrica'n danfon Cenhadon i Gymru fach y dyddiau hyn!

Allforio'n crefydd yr oedd y Cymry'n arfer gwneud. Treuliodd yr ymerawdwr o Ethiopia rhan o'i alltudiaeth fel yn Abertawe lle'r oedd ei feibion yn fyfyrwyr. Mae hyd yn oed y hwnnw wedi troi cefn ar Gymru bellach gan symud i Rugby yn Swydd Warwick! Rhai blynyddoedd ar ôl cyfnod yr Ymerawdwr yn Abertawe cyrhaeddodd Ian Paisley y Barri i astudio yng Ngholeg Efengylaidd Cymru.

Fe aeth Ian Paisley ymlaen i fod yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Fe fu farw'r Ymerawdwr mewn amgylchiadau amheus ond nid cyn i'r Rastaffariaid ei ddyrchafu'n Dduw!

Mae'r newid yng nghrefyddoldeb Cymru wedi gwneud hi'n hawdd iawn i bobol o grefyddau eraill brynu i mewn i'r syniad o Gymru a Chymreictod. Mae'n nodweddiadol iawn bod Mwslimiaid yn fan hyn yn ddigon parod i ddisgrifio'u hun fel "Welsh Muslims". Yn Lloegr "British" nid "English" yw'r dewis. Hynny yw, mae modd uniaethu a'r wladwriaeth Brydeinig ond nid a'r genedl Seisnig.

Mae gan bost difyr iawn ynghylch hynny.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:29 ar 2 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Welbru:

    "Erbyn hyn Cymru yw'r darn mwyaf seciwlar o'r wlad fwyaf seciwlar ar gyfandir fwyaf seciwlar y byd"

    Ydy Cymru yn fwy seciwlar na Lloegr? Tramorwyr sydd yn byw yn Lloegr sy'n fwy crefyddol na ni? Mae'n anodd gen i gredu bod Saeson yn fwy crefyddol na Chymru. Er enghraifft mae'n anodd ffeidnio siaradwr Cymraeg fy oed (32)i na fuodd erioed i ysgol Sul...

    Neu sôn am y penderfyniad i ddarfod gwasanaethau crefyddol yn yr ysgol ydych chi?

  • 2. Am 12:46 ar 2 Tachwedd 2009, ysgrifennodd welbru:

    "Dydw i ddim yn gwybod p'un ai dylanwad diwylliant America ai gwreiddiau gwrth Gatholig Tachwedd y pumed sydd wedi arwain at y newid."

    Dylanwad Americanaid mae'n siwr. Pwy sy'n meddwl am yr elfen 'wrth-Gatholig" wrth wylio tân gwyllt y dyddiau yma? Beth bynnag, o'r hên draddodiadau Calan Gaeaf y daw coelcerth 5ed Tachwedd. Ymgais a Catholigion i fabwysiadu Calan Gaeaf/Samhain oedd dydd yr holl seintiau, ymgais y protestaniaid i gael pobol i anghofio Calan Gaeaf oedd pwylseisio 5ed Tachwedd a'r hen fersiwn o 'trick or treet/guising (calennig y Gaeaf?)' yn cael ei ddisodli gan 'penny for the guy'. Digon têg bod yr hên Galan Gaeaf yn dod yn ôl felly er yn ei ffurf marchnataidd Americanaidd.

  • 3. Am 13:40 ar 2 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'r canran sy'n mynychu addoldai yng Nghymru yn rheolaidd ychydig dros 6%. 6.3% yw'r ffigwr yn Lloegr, mymryn yn uwch. Y rheswm am y gwahaniaeth yw'r tramorwyr yna!

  • 4. Am 14:24 ar 2 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Capel y Garn!:

    Beth am niferoedd y plant sy'n mynychu Ysgolion Sul, tybed? Ro'n ni a chyfran helaeth o nghyfoedion yn Aberystwyth yn mynychu'r Ysgol Sul pan yn blentyn yn yr 80au - ond does dim un o fy ffrindiau o Loegr yn dweud eu bod wedi mynychu. Efallai fod hyn yn adlewyrchu'r ffaith mai canfod gweithgareddoedd drwy gyfrwng y Gymraeg oedd prif nod fy rhieni wrth fy nanfon yno, yn hytrach na chrefydd...

  • 5. Am 15:23 ar 2 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Y peth mwyaf trawiadol yn y dirywiad crefyddol i mi ydi ei bod wedi effeithio ar ffurfiau Protestanaidd llawer mwy nac unrhyw grefydd arall. Mae nifer y bobl nad ydynt yn Gristnogion sy'n dal i fynychu addoldai yn hynod uchel, ond hefyd dwi bron yn sicr bod o hyd draean o Gatholigion y DU yn mynychu eu heglwysi yn rheolaidd. Tybed pam mai Protestaniaeth sydd wedi dirywio fwyaf??

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.