Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Caewch y drysau...

Vaughan Roderick | 11:56, Dydd Gwener, 23 Hydref 2009

van226.jpgDydw i ddim wedi blogio cyn hyn ynghylch y busnes BNP yma. Mae bron popeth sy 'na i ddweud wedi cael ei ddweud ond efallai bod 'na werth mewn cymryd cam yn ôl ac edrych ar hanes a gobeithion y dde eithafol yng Nghymru.

Mae'n gamgymeriad i feddwl na allai'r garfan honno gael llwyddiant etholiadol yng Nghymru. Yn ôl yn 1931 fe lwyddodd un o gefnogwyr Syr Oswald Mosley i ennill dros ddeg mil o bleidleisiau ym Merthyr, er mai yn nyddiau'r "New Party" ac nid y BUF oedd hynny.

Yn fwy diweddar fe ddaeth y BNP o fewn rhyw fil o bleidleisiau i ennill sedd cynulliad yn rhanbarth y Gogledd yn 2007. O'r Gogledd Ddwyrain y daeth y rhan fwyaf o bleidleisiau'r blaid a theg yw awgrymu mai adlewyrchiad o gryfder y blaid yng Ngogledd Orllewin Lloegr oedd y bleidlais honno.

Mae pleidlais y blaid yn yr etholiadau Ewropeaidd eleni yn dangos patrwm hynod ddiddorol. Unwaith yn rhagor fe wnaeth y blaid yn gymharol dda yn y Gogledd Ddwyrain gan ennill dros fil o bleidleisiau yn Alun a Glannau Dyfrdwy, De Clwyd a Wrecsam.

Mae 'na dair ar ddeg o etholaethau eraill lle dderbyniodd y blaid dros fil o bleidleisiau sef Pen-y-bont, Castell Nedd, Dwyrain Abertawe, Gogledd Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth, Pontypridd, Bro Morgannwg, Blaenau Gwent, Caerffili, Islwyn, Gorllewin Casnewydd, Dwyrain Casnewydd a Thorfaen.

Mae'n ddiddorol bod yr etholaethau yna (ac eithrio Bro Morgannwg, efallai) i gyd yn rhai trefol. Mae'n fwy diddorol fyth nad oes 'na unrhyw gysylltiad amlwg rhwng cryfder y gefnogaeth i'r blaid a'r niferoedd o bobol o gefndiroedd ethnig yn yr etholaethau unigol.

Fe fethodd y BNP gyrraedd y mil yng Ngorllewin a Chanol Caerdydd, er enghraifft, tra'n llwyddo ym Mlaenau Gwent.

Dydw i ddim yn dweud nad yw hil yn ffactor yn y gefnogaeth i'r blaid ond mae 'na elfen arall hefyd. Mewn un ystyr mae pleidlais BNP yn bleidlais "twll eich tinau chi i gyd" a dyw hi ddim yn syndod efallai bod y blaid wedi gwneud yn dda yn sgil y sgandal treuliau.

Efallai y dylai rhai o'r gwleidyddion sydd wedi bod yn uchel eu cloch yn eu beirniadaeth o'r Ö÷²¥´óÐã ystyried ai eu trachwant ariannol nhw wnaeth osod y gorfforaeth yn y sefyllfa o orfod ystyried y gwahoddiad yn y lle cyntaf.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:54 ar 23 Hydref 2009, ysgrifennodd Mabon:

    Mae'r fideo bach yma yn crynhoi gwir gyfraniad Nick Griffin ar QT neithiwr:

  • 2. Am 22:32 ar 23 Hydref 2009, ysgrifennodd welbru:

    "o gefndiroedd ethnig"
    Ond mae pawb yn dod o ryw gefndir ethnig. Pobol sydd ddim yn wyn ydych chi'n feddwl?
    Dwi ddim yn hoffi "lleiafrifoedd ethnig" chwaith achos bod y Cymry Cymraeg yn leiafrif ethnig ond fford gwlediyddol gywir o ddweud pobol ddu neu 'coloured' ydy o.

  • 3. Am 01:35 ar 25 Hydref 2009, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Mae 'na ffactor arall hynod bwysig yn hyn oll. Mae cefnogaeth y BNP yng Nghymru a Lloegr ar ei hisaf yn yr etholaethau Cymraeg eu hiaith.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.