Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Iaith Pwy?

Vaughan Roderick | 19:35, Dydd Iau, 22 Hydref 2009

question_mark_203_203x152.gifSawl iaith gynhenid sy na yn yr ynysoedd hyn ar wahân i Saesneg a'r ieithoedd Celtaidd?

Mae 'na fwy na mae'r rhan fwyaf ohonom yn meddwl ac mae hynny cyn i ni ddechrau trafod pethau fel "Ulster Scots"!

Pa iaith, er enghraifft, sydd yn cael ei siarad gan ychydig dros fil o bobol, y rhan fwyaf yn oedrannus a sydd a'i bywyd yn troi o gwmpas eisteddfod flynyddol? Mae'r iaith honno ar fin cael ei dysgu yn yr ysgolion am y tro cyntaf yn ei hanes.

Pa iaith yw hi? Mae'r ateb yn ac mae'r stori am yr ymdrech i'w hachub yn .

Yn fwy ddiddorol byth mae'r ymdrech i ddiogelu'r iaith yn digwydd ar yr un pryd ac ymdrech i symud tuag at annibyniaeth. Gellir darllen am hynny yn fan hyn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:06 ar 22 Hydref 2009, ysgrifennodd Daniel:

    Diddorol mai Cymraes Gymraeg, Dr Mari Jones, yw un o'r prif arbenigwyr ar yr iaith yma.

  • 2. Am 22:34 ar 22 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Diolch am y ddolen. Doeddwn i ddim wedi gweld y stori yna.

  • 3. Am 11:59 ar 23 Hydref 2009, ysgrifennodd Rhodri:

    Sawl iaith gynhenid sydd yn y DU felly?

    ³Ò³Ü±ð°ù²Ôé²õ¾±²¹¾±²õ
    Saesneg
    Cymraeg
    Gwyddeleg (yng Gogledd Iwerddon wrth gwrs)
    Gaeleg
    Cernyweg
    Manaweg
    Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

    Hefyd...
    Scoteg
    Scoteg Gogledd Iwerddon

    10 galla'i gyfrif.

  • 4. Am 14:00 ar 23 Hydref 2009, ysgrifennodd Dylan Llyr:

    Jèrriais hefyd, sy'n perthyn i'r hen iaith Normanaidd

  • 5. Am 14:01 ar 23 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Off top fy mhen gallwn ychwanegu Romani Cymru, Romani Lloegr, Iaith Jersey, iaith teithwyr gwyddelig...rwy'n siwr bod 'na fwy

  • 6. Am 14:02 ar 23 Hydref 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Jerrais a Shelta yn ogystal i ddeg Rhodri.

    Hefyd darllenwch yr isod - rhyfeddol !!

  • 7. Am 14:04 ar 23 Hydref 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Wn i ddim am Romani Cymru Vaughan - dal yn fyw? Hanes hynod o ddiddorol.

  • 8. Am 14:12 ar 23 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dwn i ddim ydy hi'n cael ei siarad, Dewi. Y gwahaniaeth, mae'n debyg oedd bod Romani Cymru wedi benthyg yn helaeth o'r Gymraeg tra roedd Romani Lloegr wedi benthyg o'r Saesneg. Dyna'r rheswm, gyda llaw, y mae pobol Doglellau yn cael eu cael eu galw'n "chavs dre". Roedd na boblogaeth romani sywleddol yno. Yr un yw'r tarddiad a'r term "chav" ddaeth yn ffasiynol Saesneg yn ddiweddar. "Chavo" yw'r gair Romani am fachgen. Rwy'n eitha hoff o'r defnydd o'r gair yn Nolgeallau. Mae'n gas gen i'r llall!

  • 9. Am 22:38 ar 23 Hydref 2009, ysgrifennodd welbru:

    Sawl iaith gynhenid sydd yn y DU felly?

    ³Ò³Ü±ð°ù²Ôé²õ¾±²¹¾±²õ

    Dydy Gurnsey ddim yn y D.U. cyn belled a 'dwi'n gwybod. "Crown dependancy" ydy hi h.y. coloni yn te?

  • 10. Am 08:08 ar 24 Hydref 2009, ysgrifennodd Sion:

    Doric - iaith yn ardal Gogledd Ddwyrain yr Alban sydd a elfennau cryf o'r ieithoedd Scandinafaidd, yn ogystal a Gaeleg yr Alban a Scots.

  • 11. Am 12:54 ar 24 Hydref 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Doric...hmmm dros 100,000 o ymweliadau ar YouTube i'r isod:

  • 12. Am 12:13 ar 26 Hydref 2009, ysgrifennodd Hendre :

    Rych chi wedi anghofio un iaith - Cofi.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.