Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Adda'n gadael Eden

Vaughan Roderick | 10:40, Dydd Iau, 26 Tachwedd 2009

66364.jpgI'r rheiny oedd yn credu mai rhyw storom fach wedi ei heipio gan newyddiadurwyr oedd y ffrae rhwng pleidiau'r glymblaid yr wythnos hon fe ddylai geiriau fod yn ddigon i brofi nad stori greu oedd hon. Dyma oedd ganddo i ddweud;

"Fi'n credu daeth hi'n agos iawn at ddiwedd y glymblaid yma. Mae hynny'n ddigon clir ac mae 'na niwed wedi bod i'n hymddiriedaeth ni yn arweinyddiaeth y Blaid Lafur"

Roedd yr hyn ddywedodd Adam nesaf hyd yn oed yn fwy diddorol;

"Nid Plaid Cymru fyddai wedi aros yn wrthblaid (pe bai'r glymblaid wedi ei thorri) ond y Blaid Lafur. Dw i ddim yn credu mai Plaid Cymru fyddai'r wrthblaid ond Llafur"

Nawr os oes 'na un person oedd yn fwy cyfrifol na neb arall am y ffaith mai clymbleidio a Llafur wnaeth Plaid Cymru yn hytrach na gyda'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol Adam Price yw hwnnw. Mae'n werth ystyried ei eiriau'n ofalus felly.

Y pwynt oedd Adam yn gwneud, dwi'n meddwl, oedd hwn. Roedd y ffrae yn digwydd ar drothwy ymddeoliad y Prif Weinidog presennol. Ar ôl i Lafur ddewis ei harweinydd newydd fe fydd yn rhaid iddo fe neu hi wynebu etholiad yn y Cynulliad er mwyn cymryd awenau'r llywodraeth.

Yr awgrym cryf gan Adam oedd y byddai Plaid Cymru, pe bai'r glymblaid wedi chwalu, wedi enwebu Ieuan fel Prif Weinidog gan wahodd y gwrthbleidiau i'w gefnogi.

Dydw i ddim yn credu y byddai'r Torïaid na'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael eu temtio gan lywodraeth "enfys" ar hyn o bryd. Fyddai hynny ddim yn gwneud synnwyr gwleidyddol ar drothwy etholiad cyffredinol.

Rwy'n gallu dychmygu ar y llaw arall y byddai'r Ceidwadwyr yn arbennig yn cael eu temtio i bleidleisio dros Ieuan fel Prif Weinidog er mwyn clatsio Llafur a niwedio'i morâl ar gychwyn ymgyrch etholiad.

Fe fyddai Carwyn, Edwina neu Huw yn arweinydd yr wrthblaid felly gan adael Ieuan i arwain llywodraeth leiafrifol gyda chefnogaeth union chwarter aelodau'r cynulliad.

Fe fyddai hynny wedi bod yn sbort i wylio!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:13 ar 26 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Dwnim amdanat ti Vaughan, na neb arall, ond dwi'n meddwl un o'r rhesymau y bu i Lafur droi drosodd mor sydyn oedd oherwydd ei bod wedi dallt yn gyflym iawn y gallai golli ei gafael ar rym. Synnwn i ddim petae ambell un ym Mhlaid Cymru wedi gwneud hynny'n glir iawn iddynt.

  • 2. Am 13:49 ar 26 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Rwy'n amau dy fod yn iawn!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.