Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ceiniogau prin

Vaughan Roderick | 19:09, Dydd Mercher, 25 Tachwedd 2009

_40862664_fruit203bbc.jpgDim ond dyfalu ydw i wrth sgwennu'r pwt yma. Does gen i ddim gwybodaeth fewnol a dydw i ddim wedi clywed unrhyw sibrydion ond cafwyd un cyhoeddiad diddorol gan Peter Hain heddiw. Cyhoeddiad ynghylch cyhoeddiad oedd hwn mewn gwirionedd. Dywedodd y byddai'n gwneud datganiad yfory yn San Steffan yn ymateb yn swyddogol i argymhellion Comisiwn Holtham, ymchwiliad a sefydlwyd o ganlyniad i gytundeb "Cymru'n Un".

Roedd hi'n amlwg o ymarweddiad Ysgrifennydd Cymru ei fod yn credu y bydd cyhoeddiad fory yn plesio'r Cynulliad a disgrifiad un ffynhonnell o'r cynnwys oedd "very newsworthy".

Adolygu fformiwla Barnett a'r ffordd mae'r cynulliad yn cael ei ariannu oedd maes llafur Comisiwn Holtham a'r casgliad oedd bod Cymru'n derbyn llau na'i haeddiant.

Nawr go brin y bydd Peter Hain yfory yn cyhoeddi newidiadau sylweddol i'r fformiwla. Fe fydd 'na gythraul o ffeit rhwng gwahanol seneddau a llywodraethau'r Deyrnas Unedig cyn i hynny ddigwydd.

Ond roedd gan y Comisiwn un awgrym am fesur dros dro i ddiogelu Cymru yn ystod cyfnod o dorri yn ôl ar wariant cyhoeddus. Gosod "llawr" neu isafswm oedd hynny sef datgan na fydd Cymru yn derbyn llai na £X biliwn o bunnau hyd yn oed os ydy hynny'n fwy na'i haeddiant yn ôl y fformiwla.

Ai addo cyflwyno'r "llawr" y mae Peter Hain yn bwriadu gwneud yfory? Dydw i ddim yn gwybod ond mi ydw i'n synhwyro hyn. Pe na bai'r Ceidwadwyr yn matsio addewid felly fe fyddai gan Lafur Cymru arf etholiadol hynod effeithiol.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 00:41 ar 26 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Alwyn ap Huw:

    A'i gamgymeriad byseddu diniwed (mae'r U a'r I wrth ymyl ei gilydd ar ffwrdd cyfrifiadur), neu gamgymeriad Ffreudaidd sydd yn gyfrifol am ddefnyddio'r gair LLAU wrth drafod cyllideb Cymru?

  • 2. Am 07:01 ar 26 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Del Boio:

    O diar! Rhagor o 'hand-outs'! Ni fydd posib symud ymlaen!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.