Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cicio i'r ystlys

Vaughan Roderick | 12:53, Dydd Mawrth, 24 Tachwedd 2009

tn-DARE05.jpgFe fydd hwn yn gwylltio ambell un. Dyma ddatganiad sydd newydd ei gyhoeddi ar y cyd rhwng Peter Hain, Rhodri Morgan a Garry Owen (yr un arall!) ar ran y Llafur Cymru. Ymateb i adroddiad y confensiwn mae'r datganiad. Dyma'r paragraff allweddol.

"Welsh Labour's Welsh Joint Policy Committee has met, prioritised the need to campaign for a General Election victory, and agreed to start considering the All Wales Convention report in detail as a prelude to stepping-up wider Party consultation with AMs and MPs, councillors, trade unionists and members as soon as the General Election is over."

Mae hynny, mae'n ymddangos, yn tynnu'r gwynt o hwyliau'r rheiny oedd yn gobeithio y byddai'r cynulliad yn cyrraedd penderfyniad ynghylch refferendwm yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Does dim son chwaith am ddechrau ar y gwaith o ffurfio ymgyrch ie.

Beth fydd ymateb plaid arall y Glymblaid? Fe gawn weld ond cofiwch mai gallu'r Blaid Lafur i ddelifro refferendwm oedd y rheswm y gwnaeth Ieuan wrthod yr "enfys".

A beth tybed fydd ymateb pwy bynnag sy'n olynnu Rhodri? A fydd fe neu hi yn hapus bod Rhodri wedi clymu ei (d)dwylo?

Ydy gohirio penderfyniad tan ar ôl Etholiad Cyffredinol yn ei gwneud hi'n amhosib i refferendwm gael ei chynnal yn Hydref 2010? Nac ydy. Fe fyddai'r amserlen yn dyn yn enwedig os oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn defnyddio'r cyfan o'r 120 diwrnod o ymgynghori y mae'r mesur yn caniatau. Ar y llaw arall, beth sy 'na i ymgynghori yn ei gylch, mewn gwirionedd?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:34 ar 24 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Emyr:

    Ydi hi'n annheg i nodi eu bod felly yn bwriadu yn gwario eu hadnoddau a'u hegni i geiso llwyddo mewn pleidlais lle mae'r arolygon barn yn eu herbyn, yn hytrach nag un lle mae'r arolygon barn o'u plaid?

    Os felly, faint o betrol fydd ar ol yn y tanc i ymladd refferendwm, boed y Blaid lafur yn ffurfio llywodraeth nesaf y Deyrnas Gyfunol ai peidio?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.