Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Clymblaid Mewn Peryg (Blog hanner byw)

Vaughan Roderick | 14:10, Dydd Mawrth, 24 Tachwedd 2009

Mae dyfodol Clymblaid Cymru'n Un yn y fantol yn ôl ffynonellau o fewn Plaid Cymru.

Deallir nad oedd Plaid Cymru yn gwybod am gynnwys datganiad newyddion y Blaid Lafur cyn ei gyhoeddi. Yn aelodau blaenllaw o'r blaid mae Llafur wedi torri ymddiriedaeth ac mae ymddygiad Rhodri Morgan yn "gwbwl annerbyniol. Yng ngeiriau un "ni fydd aelodau'r blaid yn caniatáu i'w gweinidogion eistedd wrth y bwrdd a Llafur os ydy hwn yn sefyll. Mae angen i Lafur gofio ei bod mewn clymblaid a Phlaid Cymru nid Peter Hain"

Mae'n anodd cyfleu cymaint yw dicter Plaid Cymru ynghylch y sefyllfa. Mae'r bygythiad yn un syml. Ni fydd Plaid Cymru yn pleidleisio dros olynydd Rhodri fel Prif Weinidog os nad yw Llafur yn newid ei safiad a hynny ar fyrder.

14.46 Fe fydd Rhodri ar ei draed i drafod y confensiwn mewn munud. Fe gytunodd y ddwy blaid ar gynnwys y datganiad ond a fydd e'n cadw at y sgript?

14. 52 Dim byd yn y datganiad ynghylch cynnwys y datganiad newyddion Llafur hyd yma. Ydy Rhodri'n meddwl nad oes neb wedi ei weld?!!!

14.55 Rhodri yn addo dadl yn y flwyddyn newydd. Mae hynny'n gwbl groes i'r hyn oedd yn y datganiad Llafur! Llanast.

14.58; Nick Bourne yn herio Rhodri i ymwrthod a'r datganiad newyddion Llafur. Ydy e'n cytuno a'r hyn a gyhoeddwyd yn ei enw? Cwestiwn da.

15.03; Rhodri yn gwadu bod y datganiad newyddion Llafur yn golygu'r hyn y mae pobol yn meddwl!

Amser a ddengys...

15.18 Araith rymus gan Kirsty Williams yn rhoi Rhodri ar y sbot a fydd e'n gallu sgwario'r ddau ddatganiad y tro hwn? Rhodri yn mynnu eto nad yw'r datganiad Llafur yn "cau ffenestri".

15.30;Beth sy'n mynd ymlaen fan hyn? Hyn, dwi'n meddwl. O fewn oriau i gyhoeddi adroddiad Comisiwn Richard fe ddrylliwyd unrhyw obaith o'i wireddu yn ei gyfanrwydd gan sylwadau talcen slip Rhodri Morgan.

I rwystro hynny rhag digwydd eto fe fynnodd Plaid Cymru nad oedd Rhodri yn gwneud unrhyw sylw ynghylch y Confensiwn heb gydsyniad y Dirprwy Brif Weinidog. Ym marn Plaid Cymru mae Rhodri wedi torri'r cytundeb hwnnw trwy gytunod i ddatganiad y Blaid Lafur. A fydd ei ymdrechion i droi'r sgwâr yn gylch yn y siambr yn ddigon i dawelu'r dyfroedd? Fe ddylwn ni wybod yn ystod yr oriau nesaf.

15.37; Nerys Evans yn dweud yn blwmp yn blaen " Ni fydd Plaid Cymru yn gadael i Lafur lusgo traed ar y mater hwn".

15.40 Y gair gan Blaid Cymru yw "nad yw Rhodri wedi gwneud digon i achub ei lywodraeth". Dim eto o leiaf.

15.46; Nid Plaid Cymru yn unig sy'n grac. Yn ol un AC Llafur "des dim hawl gan Rhodri i glymu dwylo ei olynydd. Ni all y datganiad yma sefyll. Mae'r grŵp Llafur yn gynddeiriog."

15.57 Y ddadl ar ben. Cyfarfodydd brys ym mhob man...ac mae Peter Hain yma fory! A fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gorfod gwisgo sachliain a lludw?

17.11 Rhodri wedi ildio "all options for the timing of a referndum remain open". Popcorn ar gyfer PH yfory!

Dyma'r ddadl yn ei chyfanrwydd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:26 ar 24 Tachwedd 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    Damia, liociwn i weld hyn yn fyw - tyd'r Senedd ddim yn gweld llawer o bethau fel hyn!

  • 2. Am 16:00 ar 24 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Os yw'r Blaid i dynnu'r llywodraeth i lawr beth yw'r tebygrwydd o gael y 40 pleidlais sy angen i gynnal refferendwm tybed? Buasai angen 6 pleidlais Llafur + Trish Law - anodd gweld hynny'n digwydd i fod yn onest.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.