Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Addewidion Gwag a Breuddwydion Gwrach

Vaughan Roderick | 10:01, Dydd Llun, 16 Tachwedd 2009

Oldlabour.pngMae 'na rywbeth wyneb i waered ynghylch yr etholiad i ddewis olynydd Rhodri Morgan! Mae sawl rhyfel mewn hanes wedi cynnwys cyfnod o ffug-ryfela ond yn ddieithriad bron ar gychwyn y rhyfel y mae'r cyfnod hwnnw yn dod. Mae'n rhyw hoe fach i baratoi byddinoedd, yn saib rhwng cyhoeddi rhyfel a'r brwydro go iawn. Y "phoney war" rhwng Medi,1939 a Mai, 1940 yw'r enghraifft orau.

Yr hyn sy'n rhyfedd yw bod ffug-ryfel Llafur Cymru yn dod ar ddiwedd yr ornest. Y gwir plaen yw bod y mwyafrif llethol o bleidleisiau fydd yn cael eu bwrw eisoes wedi eu bwrw. Cred y rhan fwyaf o bobol yn y Bae yw bod Carwyn Jones yn mynd i ennill ond does neb yn gallu bod yn gwbl sicr o hynny a ta beth mae maint y gefnogaeth i bob ymgeisydd yn bwysig ynddi ei hun o safbwynt awdurdod yr arweinydd newydd a statws a dyfodol yr ymgeiswyr aflwyddiannus. Does dim pall ar yr ymgyrchu felly.

Ta beth, mae'r cyfnod rhyfedd yma yn rhoi cyfle i ni edrych ar addewid neu darged sydd wedi nodweddi ymgyrchoedd y tri ymgeisydd sef yr honiad y gallai Llafur ffurfio llywodraeth fwyafrifol ar ôl etholiad 2011. Ar bapur mae'n darged ddigon realistig ond yn eu calonnau siawns bod Carwyn, Edwina a Huw yn gwybod ei bod hi bron mor anghyraeddadwy â "prosiect 31" y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae'r rheswm am hynny'n ddigon syml. I ennill mwyafrif mae'n rhaid i Lafur gipio 5-6 sedd etholaeth o'r gwrthbleidiau. Fel yn 2007 fe fydd unrhyw seddi rhestr a ddaw i Lafur ond yn ei digolledi am golli etholaethau. Gallai colli Bro Morgannwg a Dyffryn Clwyd, er enghraifft, arwain at ennill seddi ar y rhestr ond ni fyddai hynny'n newid y fathemateg yn y siambr.

O ble mae'r buddugoliaethau etholaethol i ddod? Gallaf ddychmygu, jyst, y gallai Alun Davies guro Trish Law ym Mlaenau Gwent. Mae'n bosib y gallai Llafur, o arllwys popeth i mewn i Lanelli, sicrhau ras agos yno ond fe fyddai ennill tre'r sosban yn golygu, mwy na thebyg, colli sedd restr.

O ble mae'r buddugoliaethau i ddod felly? Gorllewin Clwyd? Gogledd Caerdydd? Aberconwy? Yn 2015 neu 2019, efallai. Yn 2011, anghofiwch hi!

Rwy'n deall yn iawn pam y mae'r ymgeiswyr yn gorfod addo dyfodol disglair i'r aelodau. Go brin y gellid seilio ymgyrch am yr arweinyddiaeth ar y slogan "gyda lwc fe wnawn ni ddal ein tir"! Ond unwaith mae arweinydd newydd wedi ei ddewis fe fydd yn rhaid i fe neu hi lunio strategaeth ar gyfer 2011 a chyda ambell i eithriad fe fyddai'n rhyfeddod pe na bai'r strategaeth honno yn un amddiffynnol.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:15 ar 16 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Sylwadau cywilyddus gan Edwina Hart ynghylch y Gymraeg - am yr eildro yn ystod yr ymgyrch hon. Rhaid dweud na wyddwn i ddim am yr wythien gref hon o wrth-Gymreictod yn ei chymeriad tan yr wythnosau diwethaf yma. Nid oes ond gobeithio y bydd yn colli'r etholiad. Byddai'n gwbl anaddas fel Prif Weinidog.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.