Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Barn y Blaenau

Vaughan Roderick | 09:48, Dydd Mawrth, 17 Tachwedd 2009

_45979246_blastfurnace01-1.jpgUn o'r bargenion hynny nad yw llawer o bobol ymwybodol ohoni yw tocyn dydd trenau'r cymoedd. Am lai na deg punt mae'n bosib cymryd trip i bron unrhyw le yn y de-ddwyrain a gwneud hynny heb oddef unrhyw deimlad o euogrwydd ynghylch yr amgylchfyd!

Y dydd o'r blaen es i ar lein newydd Glynebwy er mwyn cynnal arbrawf bach.

Trigain mlynedd yn ôl bu fy nhad yn athro Cymraeg yn yr ardal am gyfnod byr. Fe'i cyflogwyd gan gylch o ysgolion ond nid i ddysgu'r iaith fel y cyfryw, doedd dim digon o amser nac adnoddau i wneud hynny. Yn hytrach y bwriad oedd sicrhau bod plant y cylch yn ymwybodol o fodolaeth yr iaith ac yn gwybod rhywfaint amdani. Roedd y peth yn arloesol ar y pryd!

Trefnodd fy nhad gyfres o deithiau cerdded i wahanol ddosbarthiadau gan ofyn i'r disgyblion nodi geiriau Cymraeg oedd i'w gweld o'u cwmpas, yn enwau ar strydoedd, ar gerrig sylfaen capeli a beddrodau. Y rhyfeddod oedd faint o Gymraeg oedd i'w gweld o hyd. Yn ôl Dad roedd hi bron fel pe bai swîts wedi ei droi i newid iaith yr ardal.

Wrth gerdded o gwmpas y lle mae'n amlwg bod yr un peth yn wir heddiw. Er mai ychydig o Gymraeg sydd i'w chlywed ym Mlaenau Gwent mae hi i'w gweld ym mhobman, ar siopau ac ar ganolfannau gwirfoddol yn ogystal ag ar arwyddion swyddogol. Mae'r ardal yn un cwbwl Cymreig os yn ddi-Gymraeg ac mae'r ganran o'r boblogaeth sydd wedi eu geni yng Nghymru ymhlith yr uchaf o unrhyw ardal awdurdod lleol.

Yn ôl ar noson refferendwm 1997 canlyniadau Blaenau Gwent a Merthyr oedd yr arwyddion cyntaf o obaith i gefnogwyr datganoli ar ôl siomedigaethau mewn ardaloedd eraill. Doedd y mwyafrif ym Mlaenau Gwent ddim yn fawr ond mi oedd hi'n fwyafrif. Os oedd yr ochor "ie" i lwyddo mewn refferendwm arall fe fyddai ennill ym Mlaenau Gwent ac ardaloedd tebyg yn allweddol.

Ar un olwg fe ddylai pethau argoeli'n dda. Gellid dadlau fod Blaenau Gwent wedi manteisio'n fwyn na nemor yr un ardal arall o ddatganoli. Mae'r rheilffordd wedi ei hail-agor, Ysbyty Aneurin Bevan i'w agor cyn bo hir a Phrifysgol y Cymoedd ar ei ffordd.

Ydy hynny'n ddigon i ddarbwyllo trigolion y Blaenau a'u tebyg i gefnogi cynyddu pwerau'r cynulliad?

Cwestiwn i Syr Emyr yw hwnna. Am hanner nos heno fe fyddwn yn gwybod yr ateb.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:33 ar 17 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Dewi Thomas:

    Nid yw hwn yn gwestiwn ar y blog diweddaraf. Ond tybio ydw i ar ol darllen blog Betsan pryd mae'r 'All Wales Convention Report' hanner nos hen (h.y mewn 9awr) ynta hanner nos yfory (h.y 33awr i ffwrdd).

    Diolch am unrhyw ateb.
    A hefyd sgwenwch flog am yr adroddiad yma- "it's always a talking point"

  • 2. Am 14:15 ar 17 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Hanner nos heno... hy hanner nos, nos fawrth

  • 3. Am 15:03 ar 17 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Disgwyl blog gennyt am 12.15am Vaughan...

  • 4. Am 15:26 ar 17 Tachwedd 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    Diddorol. Does dim amheuaeth fod ardal fel Blaenau Gwent yn dioddef ar adeg o gyni economaidd, ac mae hynny'n wir heddiw. Ond, mae'r ardal wedi gweld buddsoddi sylweddol dros y blynddoedd dwetha gan Lywodraeth y Cynulliad. Y cwestiwn yw, a fydd y Cynulliad hefyd, er gwaetha hynny, yn cael y bai am y sefyllfa ariannol bresennol? Ac, a fydd refferendwm yn gyfle - unwaith eto - i ddatgan protest gyffredinol am y sefyllfa hon? Neu, a fydd pobl yr ardal yn cofio ac yn cydnabod y cymorth sylweddol hwnnw?

    Tydw i ddim yn adnabod yr ardal i allu cynnig ateb, ac eto mae gen i ryw syniad nad oes yna elyniaeth tuag at y sefydliad yn y Bae bellach. Ac o gael dau ddewis, sef aros yn ein hunfan neu roi rhagor o bwerau i'r Cynulliad, rwy'n tybio mai dewis rhagor o bwerau y byddan nhw.

    Dwi'n siwr fy mod i'n cofio'n iawn hefyd i Flaenau Gwent bleidleisio o blaid yn 97 er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn a llwyr Llew Smith, oedd yn aelod poblogaidd yn yr etholaeth ar y pryd.

  • 5. Am 16:08 ar 17 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Elin:

    Fydd yr adroddiad arlein am ganol nos? A faint o bobol fydd yn aros ar eu traed yn hwyr i'w ddarllen?

  • 6. Am 18:00 ar 17 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Gofynnwch a chwi a gewch

  • 7. Am 18:01 ar 17 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dydw i ddim yn sicr a fydd adroddiad ar lein... ond mi fyddaf i!

  • 8. Am 19:58 ar 17 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Dewi Thomas:

    ....os ydych chwi ar lein a fyddwch chwi yn datgelu beth sydd yn yr adroddiad i ni?

    .....a fy chwi yn y sefyllfa i allu roi linc i ni o'r ddogfen os tydy e ddim ar gael ar wefan y llywodraeth/confensiwn?

    ....os y byse fe ar gael am hanner nos neu unrhyw datganiad ganddo chi ynglyn ar adroddia dwi'n siwr y buasai llawer yn gwerthfawrogi.... a fyswn i'n gallu cysgu'n dawel!!

    Diolch!

  • 9. Am 22:34 ar 17 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fe ddylai'r adroddiad ymddangos ar wefan y confensiwn toc wedi hanner nos. Fe fydd fy sylwadau i yn ymddangos fan hyn tua'r un pryd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.