Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pop corn

Vaughan Roderick | 11:47, Dydd Mercher, 25 Tachwedd 2009

_44969693_popcorn_bbc226.jpgDim ond nodyn i'ch atgoffa y gallwch wylio ymddangosiad Peter Hain ar "" am 2.30 3.15 dwn i ddim pryd heddiw. Rwyf wedi prynu'r pop corn yn barod!

Mae'n debyg y bydd y sesiwn yn debyg i un o rai'r ail gynulliad gydag aelodau Plaid Cymru, i bob pwrpas, yn ymddwyn fel gwrthblaid gan ymuno a'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wrth geisio manteisio ar lanast ddoe. Cofiwch mai mewn clymblaid â Rhodri Morgan mae Plaid Cymru nid un â Peter Hain!

Mae'n werth cofio hefyd bod nifer o Aelodau Cynulliad Llafur yn anhapus tost ynghylch datganiad Hain/Morgan/Owen. A fydd rhai o'r rheiny yn dweud eu dweud? Et tu...

Yn y cyfamser mae'r Llywodraeth yn San Steffan yn bwriadu cynyddu pwerau Senedd yr Alban. Mae'r manylion yn .

Fe fydd Adam Price a Glyn Davies ymhlith y gwesteion ar CF99 heno. Fe fydd Uwchgynhadledd Copenhagen a dyfodol y Glymblaid ar yr agenda. Mae croeso i chi adael sylwadau neu gwestiynau.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:52 ar 25 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Efrogwr:

    Faint o ACau Llafur sy'n "anhapus dost" gyda phethau, byddech chi'n amgangyfrif, Vaughan? Ydy hi'n nifer arwyddocaol? Neu'n debygol o fod yn arwyddocaol mewn ffordd arall, tybed?

  • 2. Am 14:00 ar 25 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Nifer sylweddol, os bosib mwyafrif, ddywedwn i- ond go brin y bydd mwy nac un neu ddau yn dweud hynny'n gyhoeddus heddiw.

  • 3. Am 15:10 ar 25 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Rhywunsyngwybod:

    Odi'n wir fod y Llywydd yn cadw Hain i aros a phydru tra'n gadael cwestiynau a'r datganiad i ymlwybro at eu terfyn...?

  • 4. Am 15:28 ar 25 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Dewi:

    "Yn y cyfamser mae'r Llywodraeth yn San Steffan yn bwriadu cynyddu pwerau Senedd yr Alban."

    Ie - cynydd sylweddol heb refferendwm...tra bo ni yn bwriadu....

  • 5. Am 16:10 ar 25 Tachwedd 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    Dewi: ""Yn y cyfamser mae'r Llywodraeth yn San Steffan yn bwriadu cynyddu pwerau Senedd yr Alban.""

    cwestiwn i un o'r ACau ofyn heddiw? Pam fod yr Alban yn cael eu trystio i fwrw mlaen gyda rhagor o bwer a chyfrifoldeb ariannol a Chymru dal ddim digon da i gael yr un pwer ag sydd gan yr Alban cyn Calman.

    Pam fod gan Lafur feddwl mor isel o Gymru?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.