Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Efallai

Vaughan Roderick | 20:07, Dydd Mawrth, 24 Tachwedd 2009

_42783637_hainmorganmanif3_203.jpgRoeddwn i yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter heno ar gyfer ei hail-agoriad. Rhodri oedd yn gwneud yr onyrs a diawch, roedd e mewn hwyliau da!

Iawn, mae cysylltiad Rhodri a Chapter yn mynd yn ôl at agoriad y lle deugain mlynedd yn ôl ac mae ei weld ar ei newydd-ogoniant yn sicr o fod yn falm calon iddo. Roedd e ar ei ffordd i weld y Gleision yn chwarae Awstralia hefyd. Efallai bod hynny wedi ei gyffroi.

Neu efallai, jyst efallai, ei fod yn gwybod pa mor bynnag ofnadwy oedd heddiw iddo fe, fe fydd yfory yn waith i Peter Hain. Efallai ei fod yn edrych ymlaen at weld gwr wnaeth popeth posib i sicrhau buddugoliaethau i Ron Davies ac Alun Michael drosto ar y rac yn y Cynulliad.

Talu'r pwyth yn ôl ei ddyddiau olaf fel Prif Weinidog? Efallai. Ysbaddu ymdrechion Peter Hain i ohirio refferendwm? Efallai.

Oedd Rhodri yn gwybod yn iawn beth fyddai effaith y datganiad newyddion Llafur?

Efallai, jyst efallai.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:36 ar 24 Tachwedd 2009, ysgrifennodd DORIS:

    Dwi newydd wylio'r recordiad ac er mod i'n synnu a rhyfeddu at ddawn(?) Rhodri i raffu geiriau digyswllt at'u gilydd yr hyn a'm trawodd oedd ymddygiad Gwenda Thomas oedd yn eistedd y tu ol iddo. Roedd Gwenda yn gwisgo par o ear muffs du ac yn chwarae da'i chyfrifiadur drwy gydol y ddadl. Yn sicr doedd hi ddim yn gwrando ar eiriau Rhodri. Doedd Eleanor Burnhan ddim gwell. Tra roedd Kirsty ar ei thraed roedd Eleanor yn chwarae gyda 'i llygoden a'i holl sylw ar y sgrin o'i blaen. Peth yw'r pwynt iddynt eistedd yn y siambar os nad ydynt yno i wrando.

    Wrth gwrs, yr ateb yw arfogi'r Llywydd gyda gwn dwr fel y gall anelu a gwlychu'r aelodau sydd ddim yn gwrando. Brysied y dydd.

  • 2. Am 22:58 ar 24 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Sandra:

    Vaughan - gad i mi ddeall hyn yn iawn. Wyt ti wir yn dweud wrtha' ni fod Rhodri Morgan wedi sefyll ar ei draed am awr gan osgoi ateb y cwestiwn syml - a oedd Llafur yn osgoi dechrau ar y broses o gynnal refferendwm ym mis Ionawr/Chwefror '10 - er mwyn i Peter Hain edrych yn wael?

    Wnaeth Rhodri Morgan osgoi ateb y cyhuddiad sylfaenol, sef fod Llafur yn ceisio osgoi dechrau'r broses nes ar ol yr Etholiad Cyffredinnol. Y rheswm dros hynny, fel mae blog Syniadau'n dweud, yw fod nhw'n rhyw hanner gobeithio fydd Llafur yn ennill yn Llundain ac felly ddim 'angen' rhagor o bwer i Gymru.

    Mae nhw nawr wedi gorfod sefyll lawr, gan wneud i RhM edrych braidd yn simsan a shimpil ... a hynny er mwyn i Hain gael clec yfory?

    Dwi'm yn credu fod Morgan yn ddigon Machiavelaidd na hirben i wneud hynny. Dwi'n meddwl ei fod e jyst yn falch cael allan o'r Senedd wedi diwrnod digon anodd ac wedi iddi arwain ei Blaid i ben y mynydd, ond i weld fod rhaid martchio nol lawr!

    Mae Llafur wedi gwneud cam gwag. Fe wnaethon nhw fradychu ysbryd a dyheuad Richard ac mae carfan ohonynt, gan gynnwys Morgan, wedi bod yn barod i wneud yr un peth i Cymru'n Un. Y gwir ydi, roedd Llafur yn meddwl y byddai Plaid a Ieuan Wyn unai'n rhy dwp neu'n rhy llywath i wnued unrhyw beth. Dwi'n falch o weld fod Morgan a Llafur wedi cael gwers mewn gwyleidd-dra. Siaradodd Kirsty Williams yn dda hefyd.

    Pa ran o'r gair 'Cytundeb' nad yw Morgan a Llafur yn ei ddeall? Mae nhw wedi arwyddo contract i fod mewn grym. Os yw'r contract yna'n cael ei dorri, yna ni fydd gan olynydd Morgan ymhen wythnos Llywdraeth i'w harwain.

    ON
    I ateb Doris - ie, swtichiwch y blincin cyfrifiaduron 'na bant. Mae nhw'n sarhad i ddemocratiaeth ac yn sen ar y senedd. Pam ddylie'r cyhoedd gymryd diddordeb yn Senedd pan fod hi'n amlwg nad yw'r ACau eu hunain yn trafferthu i wrando ar y drafodaeth. Plis twlwch nhw yn y bin. A plis, gawn ni fwy o ymateb a swn a churo dwylo yn Siambr, roedd hi fel y bedd yno er eu bod nhw'n trafod dyfodol Llywodraeth y wlad. Sdim syndod nad yw'r cyhoedd yn cymryd sylw o'r Siambr, mae mor ddiflas a'r AC mor ddihid.

  • 3. Am 23:35 ar 24 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Sori, post cellweirus oedd hwnna i fod! Dydw i ddim yn credu bod Rhodri wedi cynllunio'r peth ond dydw i ddim chwaith yn meddwl ei fod yn anhapus ynghylch y ffordd y gwnaeth pethau droi mas!

  • 4. Am 11:40 ar 25 Tachwedd 2009, ysgrifennodd DORIS:

    Diolch Sandra am dy gefnogaeth.

    A Vaughan, beth am ddechrau ymgyrch fach ar y blog i gael ein ACau i ddangos mwy o frwdfrydedd yn y Siambar. Y cam cyntaf, enwi aelodau sy'n amlwg ddim yn talu sylw, Gwenda Thomas a Eleanor Burnham yw'r cyntaf. Wedyn beth am ganmol yr aelodau prin sy'n medru dod ag ychydig o sbarc i'r drafodaeth. Gwobrwyon i'w cyflwyno ar ddiwedd y flwyddyn. Beth amdani Vaughan.

    Ac un cwestiwn i orffen, beth mae'r aelodau yn gwneud ar 'u cyfrifiaduron yn ystod sesiwn yn y Siambar? Dwi ddim yn gweld bod Seneddwyr yr Alban yn ffidlan a'i llygod ac yn gaeth i sgrin.

  • 5. Am 14:58 ar 25 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Sandra:

    a plis gallwn ni symud y man gwylio i'r cyhoedd i lawr o'r balconi? Rwy wedi meddwl mynd fewn i'r Senedd i wylio'r drafodaeth ond does dim pwynt. Does dim posib hyd yn oed gweld yr holl ACau oni bai eich bod yn gwylio'r sgrin (man a man aros adre felly). Byddai'n well tynnu lawr y balconi lawr i lefel gyda'r gwleidyddion. Mae'n siwr ei fod yn disconcerting i'r AC cael pobl yn edrych lawr arnoch fel pysgod aur.

    Petai'r balconi'n cael ei dymchwel byddai'r Siambr yn fwy agored a gellid gwneud lle i rhyw 50 - 70 person eistedd y tu ôl i'r gwleidyddion. Byddai hynny'n ychwanegu at naws y lle a dwi'n meddwl golygu fod y gwleidyddion yn fwy ymwybodol o'r cyhoedd nag y maent ar hyn o'r bryd. Gallaf gydymdeimlo gyda'r gwleidyddion hefyd - pam mynd i'r drafferth o wneud araith danbaid neu ysgubol i siambr o rhyw 30 person a dim un aelod o'r cyhoedd? Petai'r cyhoedd i lawr yn agosach at y gwleidyddion dwi'n meddwl buasai mwy o hwyl, awch a safon i'r drafodaeth. A fyddai Salmond, Lloyd George neu Churchill yn trafferthu areithio yn Siambr y Cynulliad. Dwi'n amau. Mae'r awyrgylch yn soporiffig ac yn arwain i bawb siarad i'w llawes.

    Cynlludio gwael gan Lord Rogers. Amser i Dafydd El roi trefn arno! Byddai'n gaffaeliad i'r Siambr.


  • 6. Am 15:19 ar 25 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Syniad rhagorol os ca'i ddweud. Dwi'n meddwl mai newidiadau i'r cynllun yn sgil 911 sy'n gyfrifol am rai o'r problemau. Mae'r ystafelloedd pwyllgor hyd yn oed yn waeth.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.