Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Coch a melyn a gwyrdd a glas

Vaughan Roderick | 15:46, Dydd Llun, 19 Ebrill 2010

130-126big-brother-is-watching-you-posters-thumb-250x318-24090.jpgDyma gyfrinach fach i chi. Mae'n gas gan nifer o hen bennau'r pleidiau bosteri. Nid posteri ffenest nac ychwaith yr hysbysfyrddau masnachol ond y posteri gardd.

Prin yw'r dystiolaeth eu bod yn cael unrhyw effaith os nad oes 'na gannoedd ohonyn nhw. Maen nhw'n cymryd amser i'w gosod ac yn fynych mae'n rhaid gwneud hynny mwy nac unwaith wrth i fandaliaid/ selogion ymgeiswyr eraill eu difrodi.

Pam eu defnyddio o gwbl, felly? Dau reswm.

Yn gyntaf mae gwrthod cynnig gan etholwr i osod poster yn ei ardd yn gallu pechu'r person hwnnw. Dyw gwrthod ffafr ddim yn ennill ffrind.

Yr ail broblem yw bod pob plaid arall yn teimlo'r angen i ymateb os oes un blaid yn dechrau gosod posteri.Mae rhyw fath o ras arfau'n datblygu rhwng y pleidiau lle mae ennill y rhyfel bosteri bron cyn bwysiced ac ennill y sedd.

Am y rheswm hynny, y duedd yw bod posteri naill ai i'w gweld ym mhobman mewn etholaeth neu'n bethau digon prin. Dyw diffyg posteri ddim yn golygu o reidrwydd nad oes'na frwydr gystadleuol mewn etholaeth arbennig.

Un gair bach arall. Cyfri posteri yw'r ffordd waethaf posib o broffwydo canlyniad etholiad- yn enwedig os ydych chi'n cyfri posteri mewn cloddiau caeau. Fe wnaeth un sylwebydd gwleidyddol ddrwg difrifol i'w enw da trwy broffwydo mwyafrif i Lafur o ddeng mil mewn isetholiad Cymreig ar sail cyfri posteri. Roedd yr adwy'n agosach at ddwy fil ar ddiwedd y dydd. Nid fi oedd y sylwebydd hwnnw gyda llaw!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:52 ar 19 Ebrill 2010, ysgrifennodd SY23:

    Fyswn i ddim mor ddilornus o rinwedd y placard bach di-niwed.
    Un o gamgymeriadau mawr Plaid Cymru yng Ngheredigion yn 2005 oedd anwybyddu effeithlonrwydd placardiau.
    Yn 2005 roedd cannoedd o blacardiau Mark Williams yn - Dem Rhydd wedi cael eu gosod mewn caeau ar hyd priffyrdd Ceredigion - mewn gwirionedd, dim ond ambell i ffarmwr oedd berchen y tir, ond roedd eu presenoldeb yn ddigon i greu effaith fod yna gefnogaeth gref iddyn nhw.
    Ymateb rhai o dim Plaid Cymru oedd dweud na allai defaid bleidleisio, ac na ddylid cymryd dim sylw ohonyn nhw.
    Beth oedd canlyniad Ceredigion yn etholiad 2005?
    Roedd gwersi iw dysgu, yn ddi-os, dim mwy na phwysigrwydd dylanwad y placard A4 di-nod ar ochr y ffordd!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.