Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Drychwch ar hyn

Vaughan Roderick | 19:14, Dydd Llun, 19 Ebrill 2010

Mae'n debyg eich bod wedi gweld canlyniadau arolwg YouGov/ITV Wales erbyn hyn. Jyst rhag ofn dyma nhw eto o gymharu â'r arolwg Cymreig diwethaf mis yn ôl.

Llafur 33 (- 4)
Ceidwadwyr 23 (- 6)
Plaid Cymru 9 (- 5)
Dem. Rhyddfrydol 29 (+ 17)

Mae'n fwy diddorol efallai i gymharu nhw a chanrannau'r bleidlais yn etholiad 2005.

Llafur 33 (-9.7)
Ceidwadwyr 23 (+1.6)
Plaid Cymru 9 (-3.6%)
Dem. Rhyddfrydol 29 (+ 10.6)

Ar lefel Brydeinig mae Llafur yn credu bod y cynnydd yng nghefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol o gymorth iddyn nhw. Efallai bod hynny'n wir. Yng Nghymru mae pethau'n fwy amwys gyda gogwydd o Lafur i'r Ceidwadwyr o dros bump y cant.

O safbwynt Plaid Cymru mae 'na wobr gysur yn yr arolwg yma. O safbwynt sawl pleidiwr fe fydd hwn yn cael ei weld fel "slam-dunk" o brawf o ba mor annheg y mae'r dadleuon teledu. Fe fydd yn ddiddorol gweld sut mae ymddiriedolwyr y Ö÷²¥´óÐã yn ymateb.

Diweddariad; Yn sgil cyhoeddi'r arolwg mae Plaid Cymru wedi gwneud cwyn ffurfiol ynghylch dadl ITV i OFCOM. Mae'r corff hwnnw ond yn gallu dyfarnu ynghylch rhaglen ar ôl iddi gael ei darlledu. Dim ond dadl ITV y gellir cwyno amdani hyd yma felly.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:00 ar 20 Ebrill 2010, ysgrifennodd Richard:

    Canlyniadau rhyfeddol a rhyfeddol o ddiddorol. Rhaid cyfaddef, fodd bynnag, fy mod bellach wedi fy nrysu'n llwyr gan agwedd y Ö÷²¥´óÐã tuag at bolau piniwn. Yn ol a ddeallaf, mae'r Gorfforaeth yn gwrthod comisynu polau sy'n holi barn am fwriadau pleidleisio am nad ydynt yn ddibynadwy - a hynny hyd yn oed yng Nghymru lle mae'r angen yn amlwg. Eto'i gyd, ers sawl diwrnod bellach mae pob un o fwletinau newyddion y Ö÷²¥´óÐã yn cael ei dominyddu gan yr hyn mae polau piniwn yn ei awgrymu ynglyn a bwriadau pleidleisio.

    Oes modd cysoni hyn, tybed?

  • 2. Am 11:51 ar 20 Ebrill 2010, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Yn anffodus, byswn i'n awgrymu bod Plaid Cymru yn poeni am fwy na dim ond y pôl wrth gyflwyno eu cwyn. Rydan ni'n gwybod pa mor annibynadwy ydi polau Cymreig: ond swni'n awgrymu mai'r hyn y mae wedi'i wneud ydi cadarnhau beth y mae Plaid Cymru yn ei glywed ar lawr gwlad a'u bod wedi teimlo ymchwydd yng nghefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol a gostyngiad cyfatebol yn ei phleidlais hi - dyma ydi'r prif ysgogiad.

    Dydw i ddim yn gwybod pa mor union ddibynadwy ydi'r arolwg barn ond petai Plaid Cymru yn cael 9% o'r bleidlais doed Mai 6ed byddai'n drychinebus go iawn - yn syml, byddai'n achos o wynebu'r etholiad gorau yn ei hanes i'r un waethaf mewn cof. Ar y llaw arall mae'n amlwg bod y Dems Rhydd ar eu fyny yng Nghymru.

  • 3. Am 20:56 ar 20 Ebrill 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    Dwi yn pryderu fod y cyfryngau yn anghofio weithiau mai ethol aelodau seneddol unigol fyddwn ar Fai y 6ed pobl i'n cynrychioli yn lleol ac nid Arlywydd. Gyda chymaint o bwylsais ar yr aweinwyr cenedlaethol mae llai o sylw a scriwti lleol o ymgeiswyr unigol. Nawr dwi ddim yn amau nad oes gan bob plaid ymgeiswyr da ond dwi yn ofni nad oes digon o groesholi ymgeiswyr unigol ac mai prin yw cyswllt rhai ymgeiswyr a'i hetholwyr. Dwi yn cael yr argraff fod pethau yn eithaf marwaidd o ran ymgyrchu lleol mewn ardaloedd lle oedd ymgyrchu yn flaenorol gan fod y sylw ar gwlt yr arweinydd.

    Tybed a ddylai Blaid Cymru comisiynu You Gov i gwblhau arolwg annibynnol i holi oedd y ddadl deledu wedi dylanwadu ar duedd pleidleisio pobl byddai honno yn arf ychwanegol cyn cyflwyno ei hapel.

    Mater arall ddylsent gwyno yn ei gylch yw'r sylw mai'r Ö÷²¥´óÐã wedi ei roi i arolygon ers y ddadl. Maent yn rhoi sylw nosweithiol i arolygon sydd wedi eu cynnal gan bob Tom Dic a Harri. Mae hyn wedi bwydo'r ymchwydd diweddar.

    Oes rhywun yn gwybod sut y penderfynwyd ar drefn pynciau y dadleuon. Dwi ar ddeall mai drwy dynnu tocyn y penderfynwyd ar pwy oedd yn derbyn pa noson ond beth am y pynciau. Gan edrych yn ol oni ddylsai'r drefn wedi bod yn wahanol. Roedd cyfran sylweddol o bynciau ITV yn faterion oedd wedi ei datganoli ac fe ellid holi os y dylsent fod wedi caniatau'r fath gwestiynnau i'w darlledu yn genedlaethol. Gwn fod rhwy gyfeiriad at faterion datganoledig ond oni ddylsai rhai fod wedi ei cyfyngu i wasanaethau lleol yn Lloegr ?

    Dim ond gofyn. Dwi ar gefn fy ngheffyl heno

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.