Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dal i fyny

Vaughan Roderick | 16:04, Dydd Mawrth, 13 Ebrill 2010

cawl2_203.jpgRhyw lob scows o bost yw hwn i ddal fyny ac ambell i stori sy'n mudferwi o gwmpas y lle. Llwyaid o hyn a llwyaid o'r llall felly!

Mae'n sicr y byddai'r gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd a'r Fali yn brysur y dyddiau yma gyda'r awyren yn llawn dop o wleidyddion. Hwyrach y byddai hyd yn oed ambell i Ddemocrat Rhyddfrydol yn ei ddefnyddio pe bai'n hedfan! Y gair gan lywodraeth y Cynulliad yw bod y cynigion i gynnal gwasanaeth dros dro wedi eu derbyn a bod pethau'n ymddangos yn bositif. Disgwylir cyhoeddiad rhyw bryd wythnos nesaf.

Mae Plaid Cymru wedi derbyn ymateb i'w chwyn ynghylch y dadleuon teledu gan Ymddiriedolaeth y Ö÷²¥´óÐã. Mae'r gohebu'n parhau, mae'n debyg ac fe fyddwn yn gwybod mwy yn ystod y dyddiau nesaf.

Mae wedi cyhoeddi manylion "rhanbarthol" arolwg dyddiol YouGov. Mae angen pinsied o halen oherwydd maint y sampl Gymreig ond fel yn Etholiadau Ewrop yng Nghymru y mae'r gogwydd mwyaf i'r Ceidwadwyr.

Er bod y Cynulliad o hyd ar wyliau fe fydd CF99 yn dychwelyd nos yfory. Guto Bebb, Jonathan Edwards, Alun Michael ac Elgan Morgan yw'r gwesteion.

O, ie. Fe wnes i bron anghofio. Mae Gavin Henson a Charlotte Church wedi dyweddio. Wel, mae rhai o'r papurau'n credu mai dyna'r unig newyddion o bwys o Gymru! Mae'n well i mi gynnwys y stori felly.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:42 ar 13 Ebrill 2010, ysgrifennodd FiDafydd:

    Mae peryg i'r dadleuon rhwng y tri arweinydd Llundeinig fod drosodd cyn i'r gohebu ddod i ben felly!

  • 2. Am 21:28 ar 13 Ebrill 2010, ysgrifennodd Dylan Jones-Evans:

    Ymddiheuriad mawr!!!! Yn anffodus, tydi Mr Dale heb wybodaeth o iaith y nefoedd....

  • 3. Am 21:56 ar 13 Ebrill 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    Son am lobscows welodd rhywun rhaglen neithiwr o Fflint. Roedd o ddigon a diflasu pobl a gwleidyddiaeth. Bu'n rhaid i mi orfodi fy hunan i wylio er mwyn cael rhwybeth i'w ddweud. Dwi yn amau os y bydd unrhyw un gwylio'r rhagleni nesaf os mai dyma'r safon. Yn fy marn toedd y fformat ddim yn gweithio a rhaid i mi gydnabod fy mod yn siomedig gyda'r llywyddu. Sori Bethan mae'n gas gen i gyfaddef nes di droi fi i ffwrdd neithiwr !!!

  • 4. Am 22:03 ar 13 Ebrill 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dylan, wedi ei dderbyn!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.