Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tom

Vaughan Roderick | 13:37, Dydd Mercher, 14 Ebrill 2010

tomellis170bbc.jpgFe fu farw Tom Ellis cyn aelod seneddol Llafur Wrecsam. Roedd yn un o'r tri aelod Llafur Cymreig wnaeth groesi'r llawr i ymuno a'r SDP ac yn un o fy hoff bobol mewn gwleidyddiaeth.

Un o Rhos oedd Tom ac fel y rhan fwyaf o feibion "pentref mwyaf Cymru" fe drodd at y diwydiant glo am fywoliaeth. Gyddonydd ac yna rheolwr, nid gweithiwr ar y talcen, oedd Tom cyn mentro i fyd gwleidyddiaeth. Fe fu'n rheoli glofa'r Bers nid nepell o Rhos ac ef hefyd oedd rheolwr olaf pwll y Ffynnon. Caeodd y gwaith hwnnw yn 1968, ddwy flynedd cyn ei ethol i'r senedd.

Roedd Tom yn ddyn hynod o annwyl. Roedd ganddo ddaliadau cryfion oedd, efallai, yn agosach at y Rhyddfrydwyr nac at Lafur o'r cychwyn cyntaf. Roedd yn ddatganolwr pybyr ac yn gadarn yn ei gefnogaeth i'r Farchnad Gyffredin gan gynrychioli Cymru yn Senedd Ewrop fel aelod enwebedig. Doedd hi ddim yn syndod felly ei fod wedi dewis ymuno a phlaid newydd y giang o bedwar.

Dydw i ddim yn cofio'r union amgylchiadau ond yn etholiad 1983 fe safodd Tom yn Ne Clwyd yn hytrach na Wrecsam gan golli i'r Ceidwadwr o ryw ddwy fil a hanner o bleidleisiau. Does fawr ddim amheuaeth y byddai wedi cadw ei hen sedd pe bai wedi sefyll yno. Efallai mai camddarllen y sefyllfa wnaeth Tom neu efallai ei fod yn amharod i bechu Martin Thomas yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn Wrecsam. Beth bynnag oedd y rheswm am ei benderfyniad, fe dalodd yn ddrud amdano.

Yn wahanol i Ednyfed Hudson Davies a Jeffrey Thomas ni ddiflannodd Tom o wleidyddiaeth Cymru ar ôl iddo golli ei sedd. Fe dderbyniodd glatsied dros ei dim trwy gario baner plaid newydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn isetholiad Pontypridd a than yn gymharol ddiweddar roedd yn wyneb cyfarwydd mewn cynadleddau a chyfarfodydd.

Doeddwn i ddim wedi ei weld ers peth amser ond rwy'n teimlo colled ar ei ôl. Doedd Tom Ellis ddim yn gawr o wleidydd ond roedd e'n ddyn da a didwyll ac mae'r rheiny'n gallu bod yn ddigon prin.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:58 ar 14 Ebrill 2010, ysgrifennodd Richard Wyn Jones:

    Gwr bonheddig gyda meddwl ymholgar, annibynol a gwreiddiol. Yn ogystal a'i sel dros Gymru a datganoli teg hefyd nodi ei ymrwymiad angerddol i'r Gymraeg. Newyddion trist.

  • 2. Am 21:06 ar 14 Ebrill 2010, ysgrifennodd Gog:

    Ffrind mawr i fy nhad , a dyn dymunol iawn.
    Siaradodd mewn raliau Cymdeithas yr Iaith yn bur aml .

  • 3. Am 21:42 ar 14 Ebrill 2010, ysgrifennodd gareth thomas:

    Chwarae teg i chi am rhoid teyrnged i'r dyn. Fel cyd-ddigwyddiad dwi newydd wedi gorffen darllen ei hunan gofiant sydd yn rhoid y disgrifiad gorau dwi wedi darllen o gweithio mewn pwll glo. Dim ond unwaith neu ddwy wnes i gyfarfod o ond dwi'n cytuno gydach sylwadau.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.