Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Anoracia

Vaughan Roderick | 10:59, Dydd Iau, 29 Ebrill 2010

mckenzie1970_150.jpgDim ond y mwyaf anoracaidd o anoracs fydd yn gyfarwydd ag enw Nate Silver. Ystadegydd chwaraeon Americanaidd yw Nate ac ychydig flynyddoedd yn ôl penderfynodd arbrofi i weld a oedd y dulliau yr oedd yn defnyddio i broffwydo canlyniadau gemau pêl fas yn gweithio mewn gwleidyddiaeth.

Y canlyniad oedd gwefansafle sydd wedi trawsnewid darogan gwleidyddol yn yr Unol Daleithiau. Yn ystod yr etholiad hwn mae Nate wedi troi ei lygaid at Brydain ac yn y bôn mae'n racsio rhai o'r dulliau dadansoddol sy'n cael eu defnyddio gan academyddion a darlledwyr y wlad hon, y Ö÷²¥´óÐã yn eu plith.

Cymerwch y swingomedr fel enghraifft. Mae hwnnw wedi bod yn rhan o bob noson etholiad ers i Bob MacKensie afael yn ei gardfwrdd a thap selo yn ôl y pumdegau.

Mae pawb yn ymwybodol nad yw'r hen gyfaill wedi gweithio'n iawn ers y saithdegau. Etholiad 1970 oedd yr olaf mewn gwirionedd lle cafwyd ornest dwy blaid heb fawr o wahaniaethau rhanbarthol. Yn y naw etholiad ers hynny mae'r teclyn, neu fersiwn gyfrifiadurol ohono, wedi ei ddefnyddio i broffwydo canlyniadau gornestau o fath gwbl wahanol i'r rhai y cynlluniwyd ef ar eu cyfer.

Mae teclyn i broffwydo'r canlyniad ar sail yr "Uniform National Swing" i'w gweld ar bron bob un gwefan newyddiadurol. Y gwir amdani, yn ôl Nate, yw bod y peth yn nonsens pur. Yn wir, mae'n tynnu sylw at y ffaith bod rhai o'r modelau yn caniatáu i Lafur, er enghraifft, golli 100% o'i phleidleisiau tra'n ennill 40 sedd!

Nawr dyw e ddim yn bryd eto o ddatgelu'n danteithion fydd 'da ni ar eich cyfer ar y noson fawr ond fe fydd pethau'n wahanol y tro hwn. Pwynt arall sy gen i heddiw.

Mae 'ma rhyw gred gyffredinol o gwmpas bod senedd grog yn anorfod. Rwy'n anghytuno. Gyda gogwydd anghyson, ansicrwydd ynghylch pwy fydd yn troi allan i bleidleisio a llwyth o seddi y bydd hi'n bosib eu hennill gydag oddeutu traean o'r pleidleisiau mae'n ddigon posib y bydd 'na lywodraeth fwyafrifol. Gallai'r mwyafrif hwnnw hyd yn oed fod yn un cysurus.

Gydag wythnos i fynd mae'n rhy gynnar i ddweud. A dyna'r i chi'r tro cyntaf i mi sgwennu'r geiriau hynny ers 1992!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:16 ar 29 Ebrill 2010, ysgrifennodd dewi ogwen:

    Dwi'n cytuno gyda'ch pwynt olaf. Ar hyn o bryd mae'r polau opiniwn yn dangos Llafur lawr tua un pumed o'i pleidlais. Gyda'r math yn o gostyngiad fe all Llafur colli llawer mwy o seddi yn enwedig os symudith y pleilais i un plaid yn arbenig. Fe all y Blaid Lafur colli tipyn fwy o seddi na mae'r polau opiniwn yn darogan gyda'r Ceidwadwyr yn ennil tipyn yn fwy. Felly dydy senedd grog ddim yn anorfod.

  • 2. Am 14:05 ar 29 Ebrill 2010, ysgrifennodd nawrte:

    wyt ti newydd ddarogan mwyafrif cysurus i'r ceidwadwyr, vaughan??

  • 3. Am 14:14 ar 29 Ebrill 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Nac ydw! Rwy'n dewis fy ngeiriau'n ofalus. Dweud yds nad yw senedd grog yn anorfod a bod mwyafrif cysurus yn bosib.

  • 4. Am 20:04 ar 29 Ebrill 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    Mae'r ffin rhwng llwyddiant a methiant yn gallu bod yn dennau iawn ac fe all gogwydd bach wneud gwahaniaeth mawr. Mae nifer fawr o ffactorau eleni sydd yn anodd ei darllen. Peidied anghofio fod nifer fawr o aelodau yn sefyll lawr ymhob plaid. Gall hyn wneud gwahaniaeth gan fod proffil lleol yn gallu fod cyfwerth a % dda o bleidleisiau. Mae'n anodd hefyd pwyso a mesur effaith neu ddiffyg effaith y gogwydd lleol.

    Credaf fod heno yn bwysig o ran penderfynu ar faint y fuddugoliaeth neu'r methiant gan y bydd nifer yn penderfynu - unai i aros mewn hen berthynas neu mentro sefydlu perthynas newydd.

  • 5. Am 21:49 ar 29 Ebrill 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Rwy'n cytuno'n llwyr a llawer o hynny. Rwyf wedi dweud o'r cychwyn mai yn y dyddiau olaf y bydd yr etholiad yma'n cael ei benderfynu. Rwy'n meddwl fy mod yn dechrau gweld patrwm yn y sibrydion o bob plaid. Mwy am hynny yfory.

  • 6. Am 01:43 ar 30 Ebrill 2010, ysgrifennodd Marc Evans:

    Dwi'n cytuno ac yn gresynu bod sylwebaeth gweddill y Ö÷²¥´óÐã (a'r cyfryngau) wedi bod mor undonog o arwynebol. Mae cymaint yn dibynnu ar gryfder y bleidlais (turnout) ac erbyn hyn, sut benderfynodd y pleidleiswyr post, sydd wedi gwneud eu dewis cyn bod Brown yn tramgwyddo (a dyna stori a wnaed o siwgr eisin gan y cyfryngau) a thra bo Clegg dal i fod ar frig ei don gyntaf. Mae pawb wedi cael eu dargyfeirio gan y Dadleuon, ysywaeth.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.