Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Oriel Albert

Vaughan Roderick | 13:14, Dydd Iau, 29 Ebrill 2010

albwyl.jpgalbmel.jpg


Roeddwn yn meddwl ein bod wedi gloddesta digon ar luniau gwirion. Nes i mi weld gwefan Albert Owen.

Edrychwch ar rain.

Mae'n amlwg bod Albert yn gefnogwr mawr i'r Wylfa, melinau gwynt... a photoshop!

plaidies.JPGMae rhywun ym mhencadlys Llafur Cymru mewn hwyliau da heddiw.

Gofynnais am sylw ynghylch lluniau Albert. Yn lle sylw fe ddanfonodd y blaid y llun yma i mi.

Penblwydd hapus Matt!

ON; Jiw jiw, Mae rhai o fewn Plaid Cymru yn meddwl bod y trydydd llun yn sarhaus. Roeddwn i'n eu cymryd fel cyfaddefiad ysgafn gan Lafur o ba mor wael oedd ei ffotosiopio! Yn sicr dwi ddim yn gweld unryw reswm i gymryd y peth gormod o ddifri.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:26 ar 29 Ebrill 2010, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Haha, sbot da! Be ydio am Lafur a'r we dwad?

  • 2. Am 16:09 ar 29 Ebrill 2010, ysgrifennodd Hogan o Ffwrdd:

    Ma' ymateb Llafur yn pathetig! 'Does dim urddas yn perthyn i naill Albert Owen na Peter Hain...

  • 3. Am 17:24 ar 29 Ebrill 2010, ysgrifennodd Adferwr:

    Mae'r gwleidyddion yn lwcus nac oes yna raglen yng Nghymru sy'n eu dychanu - cofier ' Y Cleciwr' ers lawer dydd. Dwi'n meddwl fod ymateb Llafur yn eithaf ysgafn, a tra clyfar . Mae polisi niwcliar PC yn lanast aneglur.
    Os ydi Peter Hain am sefyll o flaen bob gorsf Niwcliar , dim syndod fod ei wyneb yn oren .
    Efallai y dylai fod yna barhad o'r gyfres yma o 'ffotosiopa' ?
    Dalied ati , Vaughan - rhaid iddynt fagu croen mwy trwchus !

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.