Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Peidiwch gofyn i fi...

Vaughan Roderick | 09:06, Dydd Sul, 25 Ebrill 2010

ballot_box_bbc203.jpgPeidiwch gwympo oddi ar eich cadair wrth ddarllen y frawddeg nesaf. Un peth sy'n drawiadol am yr etholiad yma yw'r gonestrwydd. Nid gonestrwydd y gwleidyddion ond gonestrwydd y sylwebyddion, y colofnwyr ac academyddion.

Gellir darllen pob colofn, siarad â phob guru ac anorac a dod i'r casgliad mai cyfanswm ffrwyth eu gwybodaeth yw hyn; "Does dim blydi clem 'da ni beth sy'n mynd i ddigwydd".

Fe ddywedodd cyfaill i mi, un o bobol fawr dadansoddi polau Prydeinig, fod y ddadl deledu gyntaf fel yr ergyd gyntaf mewn gem o snwcer. Mae'r peli wedi eu gwasgaru i bobman a neb yn gwybod ymhle y byddan nhw'n diweddu. Un peth yn unig sy'n sicr. Ni fydd y driongl wreiddiol yn ail-ymddangos.

Dw i am drafod yn fan hyn dau senario posib, o'r naill ben a'r llall o'r ystod eang o ganlyniadau. Mae un yn cynnig achubiaeth i Lafur a'r llall yn drychineb iddi.

Daw'r wers fach gyntaf o etholiadau taleithiol yn Ne Awstralia rhyw fis yn ôl. Y disgwyl oedd y byddai Llafur yn colli grym ond ni ddigwyddodd hynny, yn bennaf oherwydd camgymeriad strategol difrifol gan y brif wrthblaid, y blaid Ryddfrydol.

Fe gymerodd y blaid honno yn ganiataol y byddai'n ennill y rheng flaen o etholaethau a chanolbwyntio'i hadnoddau yn yr ail reng y seddi, y rhai oedd yn rhaid eu hennill er mwyn cael mwyafrif. Fe enillwyd y seddi hynny ar y cyfan.

Yn y cyfamser fe wnaeth Llafur arllwys arian mewn i'r rheng flaen- y seddi anoddaf eu cadw. Fe gadwon pedair allan o'r pump gan sicrhau tymor arall mewn llywodraeth.

Fel y blaid Ryddfrydol yn Ne Awstralia mae rhan helaeth o fantais ariannol y Ceidwadwyr yn cael ei buddsoddi mewn seddi ail reng. Mae nifer o'r etholaethau hynny yn rhai lle y gallai ymchwydd ym mhleidlais Y Democratiaid Rhyddfrydol gael effaith.

Mae hynny'n llai tebygol yn y rheng flaen, seddi sydd, ar y cyfan, yn "rasys dau geffyl" go iawn a lle mae'r etholwyr yn gwybod hynny.

Fe ddywedodd un o fois ystafell gefn Llafur wrtha i fis yn ôl nad oedd y blaid yn "ildio modfedd yn un man". Mae'n bosib mai sbin neu siarad gwag oedd hynny ond os ydy Llafur wedi bod yn brwydro'n galed mewn etholaethau lle mae'r Ceidwadwyr yn cymryd buddugoliaeth yn ganiataol... wel, pwy a ŵyr?

I'r eithaf arall nesaf... I Ganada. Nid yn llythrennol wrth gwrs ond i gymryd cipolwg ar etholiad enwog 1993 pan gollodd y blaid lywodraethol 167 o'i 169 sedd. Dros nos fe drodd y Ceidwadwyr o fod yn blaid y llywodraeth i blaid ymylol hynny yn rhannol oherwydd cefnogaeth sylweddol i dan siafins o drydedd blaid o'r enw "Reform".

Nawr mae'n anodd credu y gallai Llafur wneud mor wael â hynny ond y gwir plaen yw bod Llafur wedi bod yn gyson yn y trydydd safle yn y rhan fwyaf o arolygon ers y ddadl deledu gyntaf. Does 'na ddim gwarant na allai pethau waethygu iddi os oes 'na deimlad yn cynyddu bod dyddiau'r blaid fel un o ddwy brif blaid "naturiol" yn dirwyn i ben.

Mae Llafur Cymru wedi bod yn dawnsio wrth ymyl y dibyn hwnnw'n ddiweddar. Yn etholiad cynulliad 2007, er enghraifft, dim ond llond dwrn o bleidleisiau mewn rhes o etholaethau wnaeth wneud i'r canlyniad ymddangos yn barchus i'r blaid.

Y peryg i Lafur yw y gallai hi ddiflannu fel plaid berthnasol o rannau helaeth o Gymru a Lloegr gan awgrymu bod cyfnod hir yn y diffeithwch o'i blaen. Meddyliwch am 1983 ac yna ei lluosi.

Dyna i chi ddau senario, y ddau yn eithafol ac yn annhebygol, ond yn bosib. Mae 'na nifer o rai eraill. P'un sydd fwyaf tebygol o ddigwydd? Fe ychwanegaf fy llais at y rheiny sy'n dweud;"does dim blydi clem 'da fi"!

Yn y cyfamser mae papurau Llundain yn dechrau defnyddio geiriau fel "confidence and supply" a'r "New Zealand option". Deja Vu!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:49 ar 25 Ebrill 2010, ysgrifennodd Iwan:

    Shwmae Vaughan,

    Gan i chi grybwyll Seland Newydd, dyna linc perthnasol i fi, gan 'mod i'n byw yn y wlad honno ar hyn o bryd, ac yn colli'r etholiad mwya cyffrous ers degawdau. Nawr, ar noson yr etholiad (wel, pnawn Gwener fydd hi fan hyn), rwy ishe dilyn pethe'n fyw, ac ro'n i wedi cymryd y gallen i ddilyn popeth drwy "wylio'n fyw" ar S4/Clic, ond ymddengys mai dim ond ym Mhrydain y gellir gwneud hynny. Neu oes ffordd arall?

    Mi ydw i, ar y llaw arall, yn gallu gwrando ar Radio Cymru yn fyw. Ond a ydy Radio Cymru yn rhoi cyfrej llawn i'r canlyniadau, fel sydd ar S4C?

  • 2. Am 13:36 ar 25 Ebrill 2010, ysgrifennodd itumpi:

    Sylwadau diddorol. Os bydd yr ail o'ch senarios yn digwydd, nid 'It's Nick Clegg's fault' fydd hi ond 'Mae'r bai yn blwmp ar Blair'. Fe oedd yn cael gwared o wir ysbryd y Blaid Lafur achos doedd e erioed yn ei ddeall. Mond simulacrum oedd hi fel canlyniad o'i adeg e. Dydw i ddim yn pleidleisio dros Lafur ond mae fy nghalon yn gwaedu drosti.

  • 3. Am 17:18 ar 25 Ebrill 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Shwmae Iwan, gobeithio dy fod yn mwynhau Seland Newydd. Mae'n lle hyfryd ac hynod ddiddorol yn ddiwylliannol. Rwy'n falch i allu dweud y bydd gan Radio Cymru raglen ganlyniadau llawn ar y noson. Rydym yn disgwyl gyda llaw i raglenni S4C a Radio Cymru bara trwy'r nos os ydy'r canlyniad yn un amwys.

  • 4. Am 09:52 ar 26 Ebrill 2010, ysgrifennodd Iwan:

    Diolch Vaughan.

    Mae Seland Newydd yn rhagorol. Mae'n debyg i Gymru mewn sawl ffordd, ond mae'r bobl yn hapusach ar y cyfan!

    Radio Cymru amdani felly - a'r rhyngrwyd wrth gwrs.

    Sgwn i a fyddai'n bosib i chi (neu ryw ymchwilydd!) wneud post ar eich blog yn rhoi linc i flogwyr a fydd yn blogio'n fyw adeg y canlyniadau?

    Mae'r Hogyn o Rachub eisoes wedi dweud y bydd e'n blogio'n fyw. Mae maes-e fel arfer yn dda, ond mae wedi mynd yn farwaidd iawn na ers tro.

    Iwan

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.