Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tynnu lluniau

Vaughan Roderick | 09:49, Dydd Llun, 26 Ebrill 2010

police2.jpgNawr mewn sawl ystyr mae'r ffrwgwd ynghylch lluniau'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dipyn o storom Awst. Os ydy'r blaid am gasglu set lawn o'r "Village People"- wel, rhwng pobol Pentyrch a'i gilydd!

Wedi'r cyfan mae rhai o'r pleidiau eraill yn defnyddio lluniau o fodelau. Maen nhw'n rhemp ym maniffesto Plaid Cymru, er enghraifft ond yn yr achos hwnnw dyw nhw ddim yn ymddangos mewn lluniau gyda gwleidyddion ac mae'r ddogfen yn nodi bod modelau wedi eu defnyddio.

Ym marn y pleidiau eraill mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi croesi'r llinell rhwng yr hwn sy'n dderbyniol a'r hyn sy ddim- a nid am y tro cyntaf.

Fe fydd unrhyw un sy'n ymwneud a gwleidyddiaeth yn gyfarwydd â'r ffaith mae'r un peth sy'n uno'r pleidiau (ac eithrio un wrth gwrs) yw eu dirmyg tuag at dactegau ymgyrchu'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Er gwir neu er gau, y farn gyffredinol ymhlith y pleidiau eraill yw bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn gyson ddefnyddio ystadegau a dyfyniadau camarweiniol a bod hynny'n systematig o fewn y blaid. Hynny yw, nid mater o ambell i gamgymeriad lleol yw'r ffenomen ond rhywbeth sy'n ddwfn yn eu DNA.

Beth yw ymateb y blaid i'r honiad hwnnw? Wel, mae gen i nifer o ffrindiau sy'n Ddemocratiaid Rhyddfrydol ac wrth sgwrsio a nhw ar hyd y blynyddoedd maen nhw'n wirioneddol yn credu yn breifat yr hyn mae'r blaid yn dweud yn gyhoeddus.

Dyw nhw ddim yn gwneud unrhyw beth o le yn eu barn nhw, nac unrhyw beth sy'n wahanol i'r pleidiau eraill. Mae'r pleidiau hynny'n eiddigeddus oherwydd bod aelodau'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gweithio'n galetach na selogion y pleidiau eraill a bod eu hymgyrchoedd yn llwyddiannus.

Boed felly ond yng ngeiriau un o hen bennau'r pleidiau eraill "y ffordd orau i osgoi smonach fel hon ym mhob etholiad yw stopio gwneud pethau gwirion".

libdem_fakecopper_willott.JPGO.N Mae'r plismon yn y llun yn ddyn prysur iawn.
Rwyf newydd weld llun arall ohono fe- y tro hwn yn sgwrsio'n ddwys a Jenny Willott. Mae 'na rywbeth sy'n gyfarwydd iawn am y boi.
SOS Galw Gari Tryfan!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:41 ar 26 Ebrill 2010, ysgrifennodd Camp Llawn:

    O ni ddim yn gwybod fod Pobl o Pentyrch yn euphemism. Dwi'n dysgu rhywbeth newydd pob dydd.

    Nid model fel mewn lluniau Plaid Cymru neu'r bleidiau arall yw hwn. Rhywun sydd yn gweithio dros y Dems yw'r dyn yn y ffug-het. Felly mae defnyddio'r gair 'model' yn camarwain.

    A wnewch chi ofyn i'r blaid ai John Dixon yw'r 'model' hwn? Neu ymgeisydd arall?

    Full disclosure - nid Camp Llawn yw fy enw gywir, on dydw i ddim yn sefyll mewn etholiad!

  • 2. Am 15:56 ar 26 Ebrill 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'r Democrataid Rhyddfrydol yn gwadu mai John Dixon yw'r "plismon" yn y llun. Piti, fe fyddai PC Dixon wedi bod yn sbort. Hen ddywediad yw "rhwng gwyr Pentyrch a'i gilydd". Rwy'n tybio mai pobol yn hytrach na gwyr sy'n wleidyddol gywir y dyddiau hyn!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.