Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Peiriant Pres

Vaughan Roderick | 13:11, Dydd Llun, 26 Ebrill 2010

_40862664_fruit203bbc.jpgDydw i ddim am gymell neb i gamblo ond mae'r stori fach yma'n enghraifft o ba mor amhosib yw'r etholiad yma i'w ddarllen.

Yn ôl ein cyfaill Karl y bwci mae modd y tro hwn i fetio gan fod yn gyfan gwbl sicr o ennill.

Dyma brisiau "Paddy Power" ar gyfer Gorllewin Abertawe; Llafur 4-6, Dem. Rhydd. 11-10

A dyma rhai "Victor Chandler"; Dem Rhydd. 8-11 Llafur 11-10

Fel mae Karl yn dweud, mae modd trwy rannu eich betio rhwng y ddau i fod yn sicr o wneud elw. Fe fyddai buddsoddi £2,000 o bunnau yn sicr o gynhyrchu £2,100. Dim ond £100 o elw yw hynny ond pa mor aml y mae dyn yn gallu bod yn sicr o guro'r bwcis?

Fel dwedais i dwi ond yn cyhoeddi hwn fel prawf o natur agos yr ornest. Un gair arall. BRYSIWCH!

(O.N. Cofiwch, mae hi jyst yn bosib y gallai'r Torïaid ennill yng Ngorllewin Abertawe. Os felly beuwch Karl!)

88t.jpgDyma un bet bach arall.

Fe wna i fentro swllt nad yw'r ffrwgwd ynghylch lluniau ffug/darluniadol y Democratiaid Rhyddfrydol ar ben.

Mae'r papurau Prydeinig yn dechrauac mae mwy o luniau amheus yn ein cyrraedd trwy'r amser.

Mae 'na amheuon, er enghraifft ai iâr go-iawn sydd yn y llun yma ar Eleanor Burnham.

Wrth gwrs fe fydd yn rhaid aros am gyngor arbenigol er mwyn gwybod hyd sicrwydd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:56 ar 26 Ebrill 2010, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    O'n i am ofyn pa un oedd yr iâr cyn sylwi bod hynny'n beth digon cas i'w ddweud yn Gymraeg!

  • 2. Am 16:21 ar 26 Ebrill 2010, ysgrifennodd Mabon:

    Cystadleuaeth dyfyniad ar gyfer llun Eleanor Burnham:

    Deryn 1: "Mae'n cymryd ceiliog glan i ganu, Eleanor"
    Deryn 2: "Www matron...cheeky chook...#YMCA, it's fun to stay at the YMCA...#"

  • 3. Am 21:03 ar 26 Ebrill 2010, ysgrifennodd Adferwr:

    'I asked for a clEGG, not an ..... '

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.