Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pwys o gnawd

Vaughan Roderick | 16:16, Dydd Mawrth, 6 Ebrill 2010

logos_batwing_ident.jpgOs oeddech chi'n gwylio sianel newyddion y Ö÷²¥´óÐã neu "Sky News" y prynhawn yma efallai eich bod wedi sylwi bod y ddwy wedi darlledu cynhadledd newyddion Plaid Cymru yn fyw. Hwn yw'r tro cyntaf i hynny ddigwydd mewn etholiad cyffredinol i'n nghof i.

Does dim angen bod yn athrylith i wybod pam y darlledwyd y gynhadledd. Mae'r Ö÷²¥´óÐã a Sky fel eui gilydd yn hynod o sensitif ynghylch y sylw y mae'r pleidiau sydd wedi eu cau allan o'r dadleuon teledu yn cael. Gallwch ddisgwyl rhagor o sylw tebyg yn ystod yr wythnosau i ddod.

Mae Plaid Cymru a'r SNP wedi ysgrifennu'n swyddogol at ymddiriedolaeth y Ö÷²¥´óÐã ynghylch y dadleuon. Ni dderbyniwyd ateb hyd yma a theg synhwyro bod panjandrums yr ymddiriedolaeth yn ceisio gwneud popeth posib i sicrhau nad yw eu penderfyniad yn cael ei wyrdroi gan arolwg barnwrol.

Yn y cyfamser gall Plaid Cymru ddisgwyl mwy o sylw ar ein sgriniau teledu nac mewn unrhyw etholiad o'r blaen. Mae p'un ai ydy hynny'n ddigon i dawelu dicter y blaid ynghylch trefniadau'r rhaglenni dadlau ai peidio yn fater arall.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:33 ar 6 Ebrill 2010, ysgrifennodd FiDafydd:

    Tydi hi ddim yn argoeli'n dda. Cafwydd rhaglen awr gan griw The World at One heddiw; dim on tamaid glywais i cofiwch! Ychydig funudau yn unig a roddwyd i lefarydd yr SNP ar ddiwedd y rhaglen i roi safbwyntiau'r SNP a'r Blaid gyda'i gilydd. A thydw i ddim yn meddwl fod Martha Kearny'n sylweddoli ei fod o am wneud hynny, yn ôl ei chwestiynau! O diar.

  • 2. Am 19:18 ar 6 Ebrill 2010, ysgrifennodd Bryn_Teilo:

    'Yn y cyfamser gall Plaid Cymru ddisgwyl mwy o sylw ar ein sgriniau teledu nac mewn unrhyw etholiad o'r blaen'

    Credaf hynny pan y gwelaf.

    Prin iawn y gwelsom y Blaid ar ein sgriniau yn y gorffennol. Peth peryglus iawn yw diystyru mudiadau gwleidyddol cyfreithlon yn y cyfryngau. Mae'n hollol wrth-ddemocrataidd and yn gwbl anheg. Yn waeth byth, gall eithafiaeth ddilyn.

    Gwaetha'r modd, dyna natur y gyfundrefn yn y Deyrnas Unedig. Beth arall allwn ddisgwyl oddiwrth y Ö÷²¥´óÐã, corfforaeth sy'n cael ei rhedeg gan y Sefydliad Brydeinig?

  • 3. Am 20:40 ar 6 Ebrill 2010, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Oedd Plaid Cymru yn gwybod eu bod nhw yn cael eu darlledu'n fyw? Os oedden nhw'n ymwybodol o hynny, efallai fydde nhw wedi ceisio gwneud job ychydig yn fwy proffesiynol ohono (cael podium addas neu leoliad tu allan gyda criw o gefnogwyr, fel gwnaeth yr SNP). A pam mai aelodau'r Cynulliad oedd yn y gynhadledd newyddion yma pan mai etholiad San Steffan yw hwn?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.