Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Beth yw'r ots gennyf i...

Vaughan Roderick | 09:49, Dydd Iau, 20 Mai 2010

ant_dec_chairs_470x313.jpgMae manylion cytundeb clymblaid San Steffan newydd eu cyhoeddi. Beth mae'n dweud am Gymru felly?

Dim llawer, mewn gwirionedd yw'r ateb.

Dyw hynny ddim yn syndod. Fe fyddai'n rhyfedd iawn pe bai'r cytundeb yn cynnwys unrhyw beth ynghylch meysydd datganoledig. Mae'n werth cofio hefyd bod yr hyn sydd gan y cytundeb i ddweud am feysydd nad ydynt wedi eu datganoli fel budd-daliadau a threthi'r un mor berthnasol i Gymru ac i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig.

Mae 'na un cymal o bwys sef ymateb y Llywodraeth i'r cwynion ynghylch fformiwla Barnett. Dyma mae'n ei ddweud.

"We recognise the concerns expressed by the Holtham Commission on the system of devolution funding. However, at this time, the priority must be to reduce the deficit and therefore any change to the system must await the stabilisation of the public finances. Depending on the outcome of the forthcoming referendum, we will establish a process similar to the Calman Commission for the Welsh Assembly."

Mae'r gwair yna'n ddychrynllyd o hir, os caf i ddweud. Mae'n anodd iawn dehongli'r cymal mewn unrhyw ffordd arall.

Yn sicr mae'n wahanol iawn i'r hyn oedd gan faniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol i ddweud sef "disodli'r fformiwla gyfredol... gyda fformiwla newydd yn seiliedig ar anghenion i'w chytuno gan Gomisiwn Cyllid y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau".

Fe wna i safio tipyn o waith i bobol y pleidiau eraill. Mae'r addewid ar dudalen 51 yn y fersiwn Gymraeg a thudalen 47 yn y fersiwn Saesneg!

Mae'n bosib darllen y cymal mewn ffordd arall, wrth reswm. Ai dweud "fe wnawn ni ystyried rhoi rhagor o arian i Gymru ond dim ond ar ôl pleidlais 'ie' mewn refferendwm" mae'r Llywodraeth? Mae'n bosib darllen y cymal yn y modd hwnnw ond ai dyna oedd bwriad y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn gwirionedd?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:17 ar 20 Mai 2010, ysgrifennodd DORIS:

    Gan dy fod yn cyfeirio at y 'fersiwn Gymraeg' pam wyt ti'n dyfynnu o'r fersiwn Saesneg?

    Oes modd cael linc i'r ddogfen - yr un Gymraeg plis.

  • 2. Am 11:57 ar 20 Mai 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Y maniffesto sy'n ddwyieithog nod y cytundeb! mae hwnnw yn fan hyn. a'r maniffesto yn fan hyn

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.