Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhoi'r bai ar bechod

Vaughan Roderick | 11:59, Dydd Iau, 20 Mai 2010

tn-DARE05.jpgWel barodd honna ddim yn hir! Ydych chi'n cofio'r holl son yna am "berthynas adeiladol a phroffesiynol rhwng llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig"? Wedi went.

Mewn her agored i Cheryl Gillan mae Carwyn Jones newydd gyhoeddi drafft Llywodraeth Cymru o'r hyn ddylai fod ar y papur pleidleisio mewn refferendwm.

Dyma'r rhagair esboniadol;

Ar hyn o bryd mae'r Cynulliad yn cael deddfu ar rai pethau, ond nid ar bethau eraill, sy'n effeithio ar bobl Cymru yn unig.

Mae Senedd y Deyrnas Unedig wedi penderfynu y dylai'r Cynulliad gael deddfu ar bopeth sy'n ymwneud â meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru. Ond dim ond os bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn cefnogi hynny mewn refferendwm y gall hynny ddigwydd.

Mae'r meysydd sydd wedi'u datganoli yn cynnwys iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, tai, addysg a llywodraeth leol. Ni fyddai modd i'r deddfau ymwneud â nawdd cymdeithasol, amddiffyn a materion tramor.

A dyma'r cwestiwn;

Ydych chi am i'r Cynulliad gael y pŵer yn awr i ddeddfu ar yr holl feysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru?

YDW
NAC YDW

Mae Carwyn wedi sgwennu at ysgrifennydd Cymru yn ffurfiol yn gofyn am gynnal y bleidlais ym Mis Hydref. Mae Swyddfa Cymru a'r Comisiwn Etholiadol eisoes wedi awgrymu bod yr amserlen yna'n amhosib. Mae'n bryd i'r eilyddion adael y sgwâr focsio!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:25 ar 20 Mai 2010, ysgrifennodd Ci Du:

    Hmm, pam na fase Carwyn Jones, Rhodri Morgan a Hain wedi sortio hyn i gyd allan cyn lecsiwn Llundain?

    Arnyn nhw mae'r bai nawr fod y refferendwm yn y fantol.

    Rho buddiannau tymor byr Llafur cyn Cymru ... yr un hen stori gan Lafur mae gen i ofn.

    Mae geiriau fel 'codi pais ar ôl piso' yn did i'r meddwl. Efallai mai dyna ddylse wedi bod yn benawd i'r darn yma Vaughan.

  • 2. Am 13:56 ar 20 Mai 2010, ysgrifennodd Iestyn:

    A dyna'r gwaith nag oedd Hain yn gallu gwneud oherwydd bod etholiad ar y gweill. Does bosib taw'r Blaid Lafur sydd a'u hwynebau'n goch os taw dyna oedd isie?

    Ydy'r Blaid Lafur wir yn credu bod pobl Cymru yn ddigon twp i dderbyn (neu gredu) y gemau plentynaidd hyn? A chwestiwn pwysicach, o bosib - ydy'r Blaid Lafur yn gywir? Tra mod i wrthi, os taw dyma'r safon 'yn ni'n erfyn gan ein gwleidyddion, ydyn ni'n haeddu mwy o bwerau?

  • 3. Am 15:52 ar 20 Mai 2010, ysgrifennodd FiDafydd:

    Yr unig gysur sydd, bron a bod, a ninnau ar fin gweld amser caled yn economaidd - sy'n ddigon i godi ofn ar rywun a dweud y gwir - ydi fod pethau'n mynd i fod yn hynod, hynod o ddiddorol yn wleidyddol. Doeddwn i ddim wedi credu am eiliad y byddai yna berthynas dda rhwng y ddwy lywodraeth, a pha sail oedd yna i unrhyw un gredu hynny?

    Mae ymgyrchoedd etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesa ac etholiad nesa San Steffan wedi hen ddechrau yn barod.

  • 4. Am 17:07 ar 20 Mai 2010, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Beth oedd geiriad refferendwm 1997? Roeddw ni *lot* rhy ifanc i bleidleisio.

    Dydy bod yn rhan o'r ymgyrch "YDW" ddim yn swnio mor apelgar a bod yn rhan o'r ymgyrch "IE" rhywsut...

    Neu a'i opsiynnau 'YDW' ac 'NAC YDW' oedd yna yn 1997 jest fod yr ymgyrchoedd wedi optio am y slogannau 'IE' a 'NA'?

  • 5. Am 17:53 ar 20 Mai 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Os cofiaf yn iawn y ddau ddewis oedd

    "Ydwyf, cytunaf y dylid sefydlu Cynulliad i Gymru/Yes I agree there should be an Assembly for Wales" a "Nac ydwyf, nid wyf yn cytuno y dylid sefydlu cynulliad i Gymru/ No, I do not agree there should be an Assembly for Wales"... neu rywbeth felly!

  • 6. Am 20:13 ar 20 Mai 2010, ysgrifennodd Idris:

    Mae fy nghof i yr un fath a dy un di Vaughan.

    Cofio fod y swyddogion dychwelyd wedi cael ychydig o drafferth gan fod rhai bobl wedi dilyn naratif yr ymgyrch sgwennu 'Ie' neu 'Na' yn y bocys yn lle rhoi croes.

    Mater reit anodd dybiwn i (ar lefel seicolegol a ieithyddol!)ydi ceisio gweithio allan bwriad rhywyn sydd wedi sgwennu 'Na' yn y blwch drws nesa i'r datganiad 'Nid wyf yn cytuno y dylid bod Cynulliad Cenedlaethol i Gymru'!

  • 7. Am 21:02 ar 20 Mai 2010, ysgrifennodd D. Vlastod:

    Ai dim ond "ydw" a ofynir, neu a fydd wdw, odw, otw, ac hyd oed otw otw yn cael eu cynnwys, er mwyn bod yn gynhwysol?

  • 8. Am 22:50 ar 20 Mai 2010, ysgrifennodd Iestyn:

    Nage dyna oedd un o'r cwynion ynglyn a'r refferendwm? Taw Ie a Nage oedd yr ymgyrchoedd, er taw Ydwyf a Nac ydwyf oedd yr atebion swyddogol?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.