Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth

Archifau Tachwedd 2010

Clymu ei hun i'r mast

Vaughan Roderick | 09:27, Dydd Mawrth, 30 Tachwedd 2010

Sylwadau (7)

Mae ceisio dilyn helyntion a throeon trwstan S4C yn hela cur pen ar ddyn weithiau.

Ddeuddydd yn ôl roedd hi'n ymddangos bod 'na dri opsiwn posib o safbwynt y cam nesaf yn y saga.

Yr opsiwn cyntaf oedd awgrym Alun Davies ac eraill yn y Cynulliad y dylai'r awdurdod cyfan gan gynnwys y cadeirydd ymddiswyddo. Yr ail opsiwn oedd yr awgrym gan Geidwadwyr Cymreig San Steffan y dylai John Walter Jones barhau yn ei swydd tra bod gweddill aelodau'r awdurdod allan trwy'r drws. Drychddelwedd o'r cynllun hwnnw oedd awgrym Geraint Talfan Davies y dylai'r cadeirydd fynd a gweddill yr awdurdod aros.

Efallai na ddylwn i synnu at unrhywbeth bellach ond doeddwn i byth bythoedd wedi rhagweld dablygiadau ddoe. O am fod yn bry ar wal yng nghyfarfod nesaf yr awdurdod ar ôl popeth sydd wedi cael ei ddweud yn gyhoeddus ac yn breifat yn ystod yr wythnos ddiwethaf!

Ta beth, mae yn cynnig prawf o un stori yr oeddwn wedi ei chlywed ond yn methu eu chadarnhau wythnos ddiwethaf. Yn ei ddatganiad dywed John Walter hyn;

"Mi fydda i yn 65 ddiwedd Mawrth flwyddyn nesa' a fy mwriad oedd cael ymddeol o fod yn Gadeirydd S4C bryd hynny. Fe ges i a'r Ysgrifennydd Gwladol sgwrs ac roedd o'n deall fy mhenderfyniad. Wnaeth o a fi ddim cytuno pryd y byddwn yn gwneud fy mhenderfyniad yn gyhoeddus. Yn sicr, doeddwn i ddim am i'm penderfyniad ddod yn bwnc trafod, na dylanwadu ar y broses oedd ar waith o ran penodi Prif Weithredwr, felly ddydd Gwener diwethaf wedi amser cau ceisiadau oedd yr amser o'n i wedi bod yn meddwl amdano. Ond ches i ddim cyfle. Fe gamddehonglwyd cynnwys llythyr personol i mi gan Jeremy Hunt, ac fe drawyd S4C unwaith eto gan swnami."

Nid camddehongliad o gynnwys llythyr Jeremy Hunt y mae John Walter yn cyfeirio ato yn fan hyn ond camddehongliad o bwy oedd i fod i dderbyn y llythyr. Trwy gamgymeriad, hap a damwain neu am ryw reswm arall fe gafodd y "llythyr personol" ei gylchredeg i aelodau eraill yr awdurdod. Oni bai am hynny ni fyddai dyfodol y cadeirydd wedi codi yn y cyfarfod lle wnaeth John Walter "ymddiswyddo".

Mae Dewi a Gwylan yn y sylwadau yn cwyno nad ydym eto yn gwybod y stori gyflawn am S4C. Mae 'na bethau na ellir eu dweud am resymau cyfreithiol yn ymwneud a thribiwnlys Iona Jones ond yn y bôn dwi'n meddwl bod stori fewnol S4C yn weddol eglur erbyn hyn.

Y broblem yw bod darnau'r jig-so wedi eu gwasgaru ar draws amryw bost a rhaglen. Fe wnaf i geisio crynhoi'r hyn 'da'n ni'n gwybod felly.

Mae'n ymddangos mae'r drwg yn y caws oedd y gyfundrefn o "arwahanrwydd" a fabwysiadwyd gan S4C yn 2006. Cyfundrefn wedi eu modeli ar system lywodraethu newydd y Ö÷²¥´óÐã oedd hon. Fe fyddai'r Sianel yn cael ei rhedeg gan fwrdd o reolwyr proffesiynol gyda hyd braich rhyngddo a'r awdurdod. Ni fyddai'r awdurdod yn ymyrryd ym mhenderfyniadau dydd i ddydd y rheolwyr. Yn hytrach llunio canllawiau, gosod targedau a mesur perfformiad fyddai rôl yr awdurdod.

Dros gyfnod o amser fe ddechreuodd rhai aelodau o'r awdurdod deimlo fod y rheolwyr yn defnyddio'r gyfundrefn i gau allan yr awdurdod a mynd tu ôl i gefnau'r aelodau.

Comisiynwyd adolygiad gan gwmni Price Waterhouse Coopers oedd yn nodi bod 'na wendidau sylfaenol yn perthyn i 'arwahanrwydd'. Doedd pethau ddim wedi mynd o le eto ond mewn cyfres o feysydd roedd 'na beryg y gallen nhw.

Yn sgil ail adolygiad, y tro hwn gan Emyr Byron Hughes, cytunwyd y dylai'r gyfundrefn ddod i ben. Fe wnaeth Iona Jones awgrymu bod hynny ar fin digwydd wrth ohebydd cyfryngau'r Guardian ar drothwy ei hymadawiad.

Am ryw reswm doedd cydsyniad Iona Jones i'r newid ddim yn ddigon i rai o aelodau'r awdurdod a mynnwyd ei hymadawiad. Roedd John Walter Jones yn gwrthwynebu'r penderfyniad hwnnw a gwrthododd gyflawni'r weithred ei hun.

Byth ers hynny mae'r berthynas rhwng John Walter a gweddill yr awdurdod wedi bod yn anodd ac mae'n debyg ei fod yn ystyried digwyddiadau wythnos ddiwethaf fel ymdrech i "fownsio'r" Cadeirydd yn yr un modd a ddigwyddodd i'r Prif Weithredwr.

Dyna yw'r stori fewnol yn S4C cyn belled ac rwyf yn ei deall. Mae stori wahanol gyfochrog wedi bod yn digwydd yn San Steffan a'r Bae.

Wrth benderfynu p'un ai i glymu ei hun i'r mast ai peidio fe dybiwn i mai'r cwestiwn yma oedd ym mlaen meddwl John Walter.

"Ydy ymddygiad mwyafrif yr awdurdod yn achos Iona Jones ac ers hynny wedi gwanhau neu gryfhau S4C yn y trafodaethau gyda'r DCMS a'r Ö÷²¥´óÐã?"

Os oedd John o'r farn bod y mwyafrif wedi ymddwyn yn fyrbwyll ac yn ddifeddwl ac wedi gwanhau llaw S4C mae'n bosib deall pan nad oedd yn fodlontdyfodol y sianel i'w dwylo.


Sbec ar ddec

Vaughan Roderick | 10:13, Dydd Gwener, 26 Tachwedd 2010

Sylwadau (8)

Efallai eich bod wedi sylwi fy mod wedi bod braidd yn brysur dros y ddyddiau diwethaf! Os ydych chi wedi bod yn gwylio'r bocs neu'n gwrando ar y radio gallaf faddau i chi am feddwl eich bod yn gwylio "Attack of the Clones" - a phob un o'r diawled yn edrych ac yn swnio'n union fel fi!

Ble mae pethau'n sefyll o safbwynt S4C felly? "Stand off" yw'r disgrifiad gorau dwi'n meddwl.

Os nad yw John Walter yn dewis ymddiswyddo fel Cadeirydd yr Awdurdod - a hynny trwy lythyr i'r DCMS - fe yw Cadeirydd S4C. Does dim ots beth ddywedodd e wrth yr Awdurdod nos Fawrth na beth mae aelodau eraill yr Awdurdod wedi gwneud neu ddweud ers hynny. Y cyfan sy'n cyfri yw'r llythyr i'r Ysgrifennydd Gwladol. Yn yr ystyr hynny yn nwylo John Walter mae'r cardiau - neu'r 'sgrifbyn!

Mae statws Rheon Tomos yr 'is-gadeirydd' yn llai sicr. Mae'n ymddangos ei fod wedi cael ei ethol mewn cyfarfod (neu gyfarfod ffôn) nad oedd John Walter - y Cadeirydd - yn gwybod amdano. Os felly go brin fod y penodiad yn ddilys. Dyw'r ffaith bod aelodau'r awdurdod yn credu bod John Walter wedi ymddiswyddo yn gwneud dim byd i newid statws y cyfarfod ac mae 'na ddigon o gyfreithwyr a gwleidyddion ar yr Awdurdod a ddylai fod wedi sylweddoli hynny.

Un peth sy'n rhyfeddol yn hyn oll yw nad oedd aelodau'r Awdurdod yn gwybod eu bod mewn picl nes i un o swyddogion y Sianel ddarllen cynnwys y blog hwn iddyn nhw echddoe.

Trwy'r dydd, ddydd Mercher wnaeth neb o'r sianel gysylltu â John Walter i ofyn beth yn union oedd y sefyllfa. Doedd y Cadeirydd ddim yn cuddio. Roedd e yn ei gartref ac yn ateb ei ffôn. Mae'n rhyfeddod i mi na wnaeth neb siarad ac ef.

Mae hynny'n codi cwestiwn diddorol. Rwy'n cael ar ddeall nad hwn oedd y tro cyntaf i John Walter fygwth ymddiswyddo mewn cyfarfod o'r awdurdod. Oedd aelodau eraill yr awdurdod yn credu mewn gwirionedd ei fod wedi ymddiswyddo y tro hwn? Dyna maen nhw'n ei ddweud. Os felly pam peidio gofyn am gadarnhad o hynny o wybod bod gan John Walter "trac record" yn hyn o beth?

Ta beth mae'r digwyddiadau dros y dyddiau diwethaf wedi rhoi terfyn ar fudandod aelodau'r awdurdod a swyddogion y sianel o safbwynt sgwrsio a newyddiadurwyr. Dyma i chi flas o'r hyn mae rhai ohonyn nhw'n dweud.

"Does 'na ddim rhaniad o fewn yr awdurdod - dim ond rhwng yr Awdurdod a'r Cadeirydd. Mae John wedi tanseilio ei Awdurdod ei hun"

"Mae'n gwbwl eglur i bawb bod John WEDI ymddiswyddo. Mae'n fater iddo fe wneud hynny'n swyddogol"

"Mae'r sefyllfa'n gwbl amhosib. Dydw i erioed wedi bod mor isel"

Ac yn olaf "Mae'n flin gen i - mi ydach chi wedi deialu'r rhif anghywir" medd llais digon cyfarwydd.

Colli Awdurdod 2

Vaughan Roderick | 17:48, Dydd Mercher, 24 Tachwedd 2010

Sylwadau (7)

Darllenwch y post diwethaf cyn hwn!

Mae Awdurdod S4C wedi bod yn cwrdd eto'r prynhawn yma.

Doedd John Walter Jones ddim yn bresennol a phenodwyd Rheon Tomos yn is-gadeirydd dros dro.

Yn ol S4C dyw John Walter Jones ddim wedi gadael i'r Awdurdod wybod ei fod wedi penderfynu aros ymlaen fel Cadeirydd - ond mae'r gadeiryddiaeth yn fater rhyngddo fe a'r DCMS.

Mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth.

Rwyf newydd fod yn siarad ag Alun Ffred Jones. Mae'r Gweinidog o'r farn bod hi'n anodd iawn i unrhyw benderfyniadau gael eu cymryd ynghylch S4C gyda'r awdurdod wedi ei wanhau yn y fath fodd.

Mae S4C yn addo cyhoeddi datganiad heno ac fe fydd Rheon Tomos yn ymddanmgos ar Newyddion am 7.30.

Colli Awdurdod

Vaughan Roderick | 15:47, Dydd Mercher, 24 Tachwedd 2010

Sylwadau (1)

Wel, fe ddywedais fy mod yn disgwyl datblygiadau ynghylch S4C yn weddol fuan! Mae'n anodd credu nad ydym yn cyrraedd rhyw fath o drobwynt pwysig yn y stori.

I'r rheiny sy'n diystyru ymyrraeth ddiweddaraf Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymru mae'n werth nodi bod pump o'r deuddeg aelod o'r Pwyllgor Dethol yn Dorïaid. Gall eu datganiad fod yn rhagflas o'r casgliadau y bydd y Pwyllgor yn eu cyrraedd ac mae'n ddiddorol mai aelodau'r Awdurdod ac nid ei gadeirydd sydd dan y lach.

Neithiwr cynhaliwyd cyfarfod o'r Awdurdod pan gafodd yr aelodau wybod bod John Walter Jones wedi cytuno gyda'r adran ddiwylliant beth amser yn ôl y byddai'n ymddeol fel Cadeirydd ar ei ben-blwydd yn 65 ym Mis Mawrth flwyddyn nesaf. Mae John Walter ei hun wedi cadarnhau hynny wrth Betsan.

Mae ffynonellau (dienw) gwahanol wedi awgrymu wrthyf i, bod y cyfarfod yn un stormus a bod John Walter wedi cael cymaint o lond bol nes iddo gyhoeddi ei fod am ymddiswyddo yn y fan a'r lle. Roedd y Cadeirydd yn y gogledd a thorodd y cysylltiad fideo rhyngddo a'r cyfarfod er mwyn cyfleu'r penderfyniad hwnnw i'r DCMS.

Yn ddiweddarach deallir bod John Walter wedi newid ei feddwl. Does wybod beth yw'r rheswm am hynny ond mae'r bosib ei fod wedi derbyn y neges o Lundain mai ei gyd-aelodau oedd y broblem - nid fe.

Beth sy'n digwydd nesaf? Dwn i ddim - ond mae'n amlwg bod yr awdurdod yn rhedeg allan o ddewisiadau. Mae'r aelodau wedi ei hollti rhwng y rhai sydd am gyrraedd y ddel orau posib yn yr amgylchiadau a'r rheiny sydd yn dymuno gwneud safiad ac edrych ar opsiynau cyfreithiol.

Dyw'r naill ddewis na'r llall yn ddeniadol iawn. Fe fyddai'r gyntaf yn golygu colli o leiaf rhywfaint o annibyniaeth a thua chwarter incwm flynedd y sianel ond gallai mynd i'r baraceds adael yr Awdurdod mewn sefyllfa lle byddai'n rhaid ceisio cynnal y sianel ar incwm o £7 miliwn y flwyddyn a dogn o raglenni gan y Ö÷²¥´óÐã.

Beth bynnag sy'n digwydd, mae'n amlwg erbyn hyn bod yr awdurdod mewn peryg o syrthio'n ddarnau. O dan yr amgylchiadau hynny mae'n anodd gweld sut y gall yr Awdurdod fwrw ymlaen a'r broses o ddewis prif weithredwr newydd.

Dethololion S4C

Vaughan Roderick | 20:45, Dydd Mawrth, 23 Tachwedd 2010

Sylwadau (4)


Dyw sesiwn y Pwyllgor Dethol ddim ar gael ar "Ddemocratiaeth Fyw" Dyma recordiad Parliament.tv

Rwy'n disgwyl datblygiadau pellach ynghylch y Sianel yn weddol fuan.


Pensiwn a phris platinwm

Vaughan Roderick | 13:18, Dydd Mawrth, 23 Tachwedd 2010

Sylwadau (4)

Rwyf wedi ysgrifennu o'r blaen am y problemau mae'r Ceidwadwyr wedi achosi iddyn nhw eu hun trwy addo cynyddu'r gyllideb iechyd yn unol â chwyddiant pe bai nhw'n llywodraethu yn y Bae.


Un o'r problemau mwyaf yw gorfod ymateb i bob un cyhoeddiad gan y Llywodraeth mewn meysydd eraill gan esbonio pam yn union y byddai'r Ceidwadwyr yn torri mwy yn y meysydd hynny a pham na fyddai'r torriadau hynny yn cael effeithiau difrifol ar wasanaethau.

Cafwyd enghraifft berffaith o hynny heddiw pan gyhoeddodd y Llywodraeth fanylion y setliad Llywodraeth Leol. Am y tro cyntaf i mi gofio - ac rwyf wedi bod yn dilyn y ddefod arbennig yma am chwarter canrif - cafwyd dim siw na miw o gŵyn gan y cynghorau.

Mae'r rheswm am hynny'n amlwg. Er bod eu nhw'n wynebu toriadau flwyddyn nesaf maen nhw'n llai nac oedd y cynghorau'n disgwyl a llawer iawn yn llai na'r toriadau sy'n wynebu cynghorau Lloegr.

Sut felly y byddai Ceidwadwyr y Cynulliad yn esbonio i'w cyd-Geidwadwyr ar Gyngor Mynwy, er enghraifft, eu bod yn derbyn gormod o gyllid o'r coffrau canolog?

Fe geisiodd Nick Bourne ateb y pwynt hwnnw heddiw trwy son am wastraff mewn llywodraeth leol a'r angen i gynghorau gydweithio mwy. Fe dorodd Darren Millar i mewn i ymosod ar yr hyn alwodd yn "platinum plated pensions" gweithwyr Llywodraeth Leol.

"Platinum plated pensions" ei eiriau fe - nid fy rhai i. Gadewch i ni edrych ar bensiynau gweithwyr cyngor felly.

Yn ol undeb "" £4,000 y fwyddyn yw gwerth pensiwn Llywodreath Leol ar gyfartaledd. £2,600 yw'r ffigwr i fenywod. Faint o blatinwm y byddai hynny yn prynu? Dim llawer! $1,700 yr owns oedd pris y metal yn y marchnadoedd heddiw.

Wrth gwrs mae maint pensiwn unrhyw weithiwr yn dibynnu ar faint ei gyfraniadau a hyd ei wasanaeth. Mae gweithwyr Llywodraeth Leol yn cyfrannu hyd at 7.5% o'u cyflog tuag at eu pensiwn. Am bob blwyddyn o wasanaeth mae'r gweithiwr yn ennill 1/60 o'i gyflog mewn pensiwn. Hynny yw fe fyddai rhywun oedd wedi gweithio i gyngor am 40 mlynedd yn derbyn 40/60 neu dwy ran o dair o'i gyflog mewn pensiwn.

Sut mae hynny'n cymharu â'r cynllun sydd ar gael i aelodau cynulliad - pobol fe Darren Millar? Mae llawlyfr y gronfa yn . Mae'r telerau wedi newid ar hyd y blynyddoedd ond dim cymaint â hynny.

Mae Aelod Cynulliad sy'n dewis talu 6% o'i gyflog mewn i'r gronfa pensiwn yn derbyn 1/50 o'i gyflog am bob blwyddyn o wasanaeth. Mae hynny'n dipyn mwy hael na'r gronfa llywodraeth leol. Ond mae gan Aelodau'r Cynulliad ddewis arall. Mae 10% o'r cyflog yn prynu 1/40 o bensiwn yn flynyddol.

Beth pe bai Darren Millar wedi dewis ymuno a'r gronfa bensiwn ar y telerau hynny pan gafodd ei ethol i'r cynulliad prin bedair blynedd yn ôl? Erbyn hyn fe fyddai eisoes wedi sicrhau pensiwn uwch nac mae'r rhan fwyaf o gyn-weithwyr llywodraeth leol yn ei dderbyn yn ôl ffigyrau Unite.

"Platinum plated". Fy ngeiriau i y tro hwn.


HRH Gwenda

Vaughan Roderick | 11:51, Dydd Iau, 18 Tachwedd 2010

Sylwadau (1)

Rwyf wastad wedi bod o'r farn y byddai Gwenda Thomas yn ymgeisydd cryf i fod yn Frenhines pe bai angen un ar Gymru. Wedi'r cyfan mae hi bob tro yn foesgar, yn ddymunol ac mae'n amhosib ei drwglicio mewn gwirionedd.

Roeddwn i'n meddwl mai rhyw syniad bach personol oedd hwn ond beth yw hyn?

Y prynhawn yma mae Gwenda yn agor estyniad newydd i gartref gofal ar yng Nglanaman. Fe'i ariannwyd yn bennaf gan Lywodraeth y Cynulliad. Beth yw enw'r estyniad? Uned Gwenda Thomas! Brenhinol iawn os caf i ddweud!

Wrth gwrs mae'r busnes enwau yn gymhleth. Cymerwch Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant. Y "Camilla Hospital" yw hwnnw ar lafar gwlad.

Pam? Wel am ei bod yn dod rhwng y "Prince Charles" a'r "Princess of Wales" wrth gwrs

Ar y Dec

Vaughan Roderick | 19:16, Dydd Mercher, 17 Tachwedd 2010

Sylwadau (13)

Oherwydd y gyllideb chafodd dadl y Cynulliad ynghylch S4C fawr o sylw heddiw. Mae'n werth ei gwylio! Dyma hi.

Fe fydd y Pwyllgor Dethol yn cychwyn ei ymchwiliad i'r Sianel wythnos nesaf. Pwy fydd yn tystio, tybed?

Gwesty Cymru

Vaughan Roderick | 10:34, Dydd Mercher, 17 Tachwedd 2010

Sylwadau (2)

Sut mae mesur llwyddiant a ffyniant economaidd?

Mae 'na sawl mesur. GDP, GVA, y ffigyrau diweithdra, prisiau tai ac yn y blaen . Mae 'na werth iddyn nhw i gyd. Am wn i, edrych ar gyfuniad o bob un ohonyn nhw sy'n rhoi'r darlun gorau.

Dyma i chi fesur bach arall sy'n ddiddorol cyn belled ac mae ffyniant dinasoedd yn mynd -
mewn gwesty.

Dyma gwestiwn i chi. Pa ddinas Brydeinig oedd y ddrytaf i aros ynddi ym mis Hydref?

Llundain yw'r ateb amlwg a chywir. Roedd ystafell mewn gwesty yn Llundain yn costio £133 ar gyfartaledd.

Dyma gwestiwn arall. Pa ddinas oedd yr ail ddrytaf?

O gofia'r ffordd mae gwestai wedi tyfu fel madarch yn y lle dros y degawd diwethaf mae'n dipyn o syndod i ddarganfod mai Caerdydd yw'r ateb cywir y tro hwn. Roedd hi'n costi £99 am ystafell ddwbl yng Nghaerdydd ym Mis Hydref ar gyfartaledd - swm uwch na'r prisiau yng Nghaeredin (£95), Bryste (£89), Lerpwl (£87), Glasgow (£76), Leeds (£75) Birmingham (£61) a Blackpool (£59).

Dyw Caerdydd ddim yn ail yn y rhestr hon gan amlaf. Cwpan Ryder sy'n gyfrifol am y ffaith ei bod hi ym Mis Hydref - ond mae'n gyson yn agos at y brig.

Pam hynny? Mae'r ateb dybiwn i yn mynd yn ôl at bolisi wnaeth ddechrau yn nyddiau Nicholas Edwards ac sy ddim wedi newid cymaint â hynny yn y degawdau ers iddo adael y Swyddfa Gymreig. Yn nhyb yr Ysgrifennydd Gwladol roedd canolbwyntio buddsoddi cyhoeddus yn y brifddinas yn llawer mwy tebygol o ddenu buddsoddiadau preifat na fyddai buddsoddi mewn unrhyw ran arall o Gymru.

Mae'r symiau y gwnaeth Nicholas Edwards gamblo ar lwyddiant Caerdydd yn anhygoel. Fe gostiodd Bared Bae Caerdydd dros £200,000,000, er enghraifft. I roi hynny mewn rhyw fath o gyd-destun biliwn o bunnau'r flwyddyn fydd cyfanswm gwariant cyfalaf Llywodraeth y Cynulliad ar ddiwedd y cyfnod presennol o doriadau. Dyw'r ffigyrau hynny ddim yn cymryd chwyddiant i ystyriaeth.

Cwestiwn arall felly. A fyddai unrhyw un call heddiw yn dewis gwario chwarter y gyllideb cyfalaf blynyddol ar godi morglawdd er mwyn cuddio mwd Bae Caerdydd? Go brin.

Ond mae 'na broblem. Mae'r prisiau gwesty yn awgrymu bod Nicholas Edwards yn iawn ac nid rheiny yw'r unig dystiolaeth o hynny. Fe ddenwyd llwyth o fuddsoddiadau preifat i'r brifddinas ac mae llwyddiant Caerdydd wedi creu degau o filoedd o swyddi sy'n cael eu llenwi gan bobol o'r cymoedd glofaol, Bro Morgannwg a Gwent is-goed. Yn ôl Cyngor Caerdydd mae 75,000 o bobol sy'n byw y tu hwnt i ffiniau'r ddinas yn teithio mewn iddi bob dydd ar gyfer eu gwaith

Mae'n debyg bod Caerdydd wedi sugno calon ac enaid allan o ganol sawl tref ac un ddinas gyfagos ond o leiaf mae 'na waith i bobol sy'n byw o fewn ei chyrraedd.

Ers sefydlu'r cynulliad mae Llywodraeth Cymru wedi gallu chware gem ddwbl, Mae'r cynnydd mewn gwariant cyhoeddus wedi golygu ei bod hi wedi bod yn bosib parhau a pholisi Nicholas Edwards ac yr un pryd buddsoddi mewn prosiectau llawer mwy beiddgar a hirdymor mewn ardaloedd eraill.

Mae'r opsiwn yna'n diflannu ac fe fydd yn rhaid gwneud dewis.

Dwi'n falch nad fi sy'n gorfod gwneud y dewis hwnnw ond efallai y cawn ni awgrym i ba gyfeiriad y mae'r gwynt yn chwythu yn y gyllideb heddiw.

Eid Mubarak - Aberth ac Anrheg

Vaughan Roderick | 15:07, Dydd Mawrth, 16 Tachwedd 2010

Sylwadau (0)

Mae heddiw'n ddiwrnod cyntaf Eid-Ul-Adha, 'eid bach' y Mwslemiaid pan mae parodrwydd Abraham i aberthu ei fab yn cael ei goffau. Pan oeddwn i'n grwt yng Nghaerdydd "Muslim Christmas" oedd y llysenw cyffredin ar yr ŵyl hon gan mai hwn oedd y dydd pan oedd ein cyfeillion Mwslimaidd yn derbyn eu hanrhegion.


Ta beth ar ail ddiwrnod Eid-Ul-Adha fe fydd Cyllideb Llywodraeth y Cynulliad yn cael ei chyflwyno a theg yw proffwydo mae aberth nid anrheg fydd y brif ysbrydoliaeth.

Heb os mae'r Llywodraeth bresennol ac fe fydd yr un nesaf yn wynebu penderfyniadau anodd iawn yn enwedig ynghylch prosiectau cyfalaf. Fe fydd 'na doriant o 40% yn y gwariant hwnnw dros y pedair blynedd nesaf.

Mae'n amhosib credu na fydd hynny yn cael effaith difrifol ar rai o brosiectau mwyaf uchelgeisiol y Llywodraeth. Mae datblygu safle Gweithfeydd Glyn Ebwy - maes Eisteddfod eleni - yn un enghraifft amlwg o ddatblygiad a allai gael ei gwtogi neu ei ohirio.

Y tu hwnt y wariant cyfalaf, ym maes gwariant cyfredol mae 'na rai sy'n amau bod y Llywodraeth wedi codi bwganod ynghylch yr effaith tebygol ar wasanaethau rheng-flaen.

Yn ôl pan sefydlwyd y Cynulliad yn 1999 roedd gan y Llywodraeth rhyw saith biliwn o bunnau i wario ym mlwyddyn gyntaf ei fodolaeth. Erbyn y flwyddyn ariannol gyfredol mae hynny wedi mwy na dyblu i £15.2 biliwn. Siawns nad oes 'na rywfaint o fraster yn rhywle yn y gyllideb honno.

Wrth chwilio am y braster hwnnw mae gan Lywodraeth Cymru un fantais enfawr dros Lywodraeth y Deyrnas Unedig sef ewyllys da'r Undebau a'u parodrwydd i gydweithio.

I ddefnyddio term Saesneg 'paint job' oedd TUC Cymru pan sefydlwyd y corff yn ôl yn saithdegau. Mae'n werth nodi mai sefyll dros 'council' nid 'congress' mae'r drydedd lythyren yn 'TUC' yn achos Cymru. Am flynyddoedd doedd y corff yn gweud fawr mwy an wpo dreigiau ar gloriau polisiau ac adroddiadau TUC 'Prydain' - sef Cymru a Lloegr yn yr achos hwn.

Fe ddechreuodd pethau newid yn 1999 ac fe gyflymodd y broses honno yn sgil pasio ail fesur Llywodraeth Cymru.

Ymhen rhai wythnosau fe fydd TUC Cymru yn cynnal cynhadledd arbennig i drafod y gyllideb. Am y tro cyntaf fe fydd gan y Gynhadledd honno hawl i gymryd penderfyniadau ac i dorri cwys annibynnol Gymreig.

Ymysg yr holl helynt a stŵr ynghylch y toriadau mae hynny'n ddigwyddiad o bwys yn hanes gwleidyddol Cymru ac yn un ni ddylid ei anwybyddu na'i ddiystyru.


Hiraeth mawr a hiraeth creulon

Vaughan Roderick | 13:19, Dydd Iau, 11 Tachwedd 2010

Sylwadau (4)

Mae 'na chwe mis bellach ers daeargrynfeydd yr etholiad cyffredinol. Rwy'n ymfalchïo yn y ffaith fy mod i wedi profi dros y cyfnod hwnnw bod modd cynnal blog gwleidyddol Cymreig heb Lembit i lenwi twll ar ddiwrnod tawel.

Nid bod cyn aelod Maldwyn wedi diflannu wrth gwrs. Yn gyntaf fe ddaeth ei gyhoeddiad ei fod am gesio sicrhau enwebiad ei blaid ar gyfer etholiad . Roedd pethau'n mynd yn dda hefyd - tan i'r blaid benderfynu gohirio'r dewis am flwyddyn arall.

Pwy all ei feio am fentro i'r jwngl felly?

Trwy hyn oll mae Lembit wedi parhau i ysgrifennu ei golofn wythnosol yn y "Daily Sport" a da yw gweld nad yw treialon y misoedd diwethaf wedi amharu dim ar safon nac ansawdd y cynnwys.

UH oh! Dangerous Dave Cameron is about--and he's got his huge chopper out! Yes folks, the man with the cuts agenda is going to show up across the country doing his best to slice away at the cash the government is forking out on local and national services. Am I going to condemn these Con-Dem cuts? Well, actually no. This time I'm on side with Dangerous Dave and -- as my rather fit friend Niki H calls him--"Clever Cleggs". Sure, they're planning cuts that will hurt, hurt, hurt, and only a masochist would enjoy that. But it's the only thing these feisty fellas can do if they're going to stop Britain sinking faster than the Titanic.

Arglwydd, Dyma Fi

Vaughan Roderick | 10:21, Dydd Iau, 11 Tachwedd 2010

Sylwadau (3)

Wrth i'r protestwyr brotestio ynghylch dyfodol S4C ac wrth i lythyrau hedfan yn ol ac ymlaen rhwng Parch TÅ· Glas a phencadlys y Ö÷²¥´óÐã yn Llundain mae'r Mesur Cyrff Cyhoeddus yn ymlwybro trwy'r senedd. Hwn yw''r mesur sydd ymhlith llawer o bethau eraill yn rhoi'r hawl i'r adran ddiwylliant gwtogi ar gyllid S4C gan anwybyddu'r fformiwla sydd wedi ei gosod allan yn neddfau darllelledu y nawdegau.


Heb i fawr o neb sylwi'r mae'r mesur yn cael amser caled iawn yn NhÅ·'r Arglwyddi - nid yn bennaf oherwydd S4C ond oherwydd yr egwyddor o roi'r hawl i weinidogion ddenyddio deddfwriaeth eilradd i wyrdroi cymalau sy'n rhan o ddeddfwriaeth sylfaenol.

Fe fydd y rheiny sy'n cofio'r dadleuon ynghylch Adroddiad Comisiwn Richard ac ail-fesur Llywodraeth Cymru yn cofio pa mor ddadleuol yw "pwerau Harri'r wythfed" - y pwerau brenhinol bron sy'n gallu cael ei roi i weinidogion gan y Senedd - pwerau y mae hen bennau gwleidyddol yn garcus iawn ynghylch eu creu. Dyna yw'r union bwerau sydd wrth galon y Mesur Cyrff Cyhoeddus.

Dyma oedd gan ddau aelod Cymreig o Dŷ'r Arglwyddi i ddweud am y Mesur rhai dyddiau yn ôl.

"...the Henry VIII clause, which is used as the heart, core and kernel of the Bill, is a monster. One therefore asks whether you can redeem a monster. Can you so curb the functions of a monster that it would be safe for Parliament to proceed?

I ask the House to consider that it is part of its trust in relation to the Welsh language to regard the situation of S4C as being wholly unique. Parliament has the sovereignty to amend all the legislative structures but, in so doing, it would be reneging on the solemn compact that was made between a very honourable gentleman and the people of Wales 28 years ago."

Elystan Morgan

Of course, at the end of the day such changes as are made will be by secondary legislation, with all its parliamentary limitations, to a body established and developed by primary legislation over some years and after a great deal of discussion. Such extensive discussion may again be necessary, judging by the ferment in Wales at present, but that would be possible only with primary legislation... the precedent established here of a massive subjection of public bodies, largely established by primary legislation, to possible change by secondary legislation is not a happy one.

Wyn Roberts

Rwy'n tynnu sylw at y dyfyniadau uchod ac yn wir y am ddau reswm. Yn gyntaf dwi'n meddwl bod y ddadl yn haeddu mwy o sylw nac mae hi wedi cael. Yn ail, mae'n werth nodi nad yw'r ddadl ynghylch dyfodol S4C yn ymwenud yn unig â Chymru a'r Gymraeg. Mae gan yr egwyddor a'r mesur oblygiadau llawer mwy eang.

Mae gan Alan Trench bost diddorol ynghylch hyn oll yn .

Grrrrr...

Vaughan Roderick | 13:52, Dydd Mercher, 10 Tachwedd 2010

Sylwadau (1)

Dyw dod o hyd i enw ddim yn dasg hawdd. Gofynnwch i unrhyw ddarpar riant. Fe fydd 'na drafod, dadlau a channoedd o syniadau cyn cyrraedd penderfyniad.


Hyd yn oed wedyn does 'na ddim sicrwydd bod y penderfyniad cywir wedi ei wneud. Gallai rhieni benderfynu ar enw anarferol ac addas ac yna canfod bod peldroediwr enwog neu ryw seleb arall wedi dewis yr un enw. Och, gwae ni neu och, Cai ni efallai!

Mae'r broblem debyg yn wynebu datblygwyr a chynllunwyr wrth ddewis enwau ar gyfer datblygiadau newydd. Yn sicr mae 'na ambell i erchyll beth o gwmpas. Pwy ar y ddaear oedd yn credu er enghraifft bod "The Hawthorns" yn enw addas ar stad o dai yn Nowlais? Wedi'r cyfan dyw'r dref honno ddim yn brin o ddigwyddiadau a nodweddion daearyddol i ysbrydoli enw addas ac atyniadol.

Dyw hynny ddim yn wir am y llain o dir sy'n gorwedd rhwng y "Roath Basin" a doc "Queen Alexeandra" gyferbyn a ThÅ· Hywel. Wedi cyfan roedd y tir hwn, y rhan nesaf o Fae Caerdydd i gael ei datblygu, o dan y mor a'i donnau tan 1912. Sut felly oedd sicrhau enw addas i ardal fydd yn y pendraw yn gartref nid yn unig i ganolfan ddrama'r Ö÷²¥´óÐã ond i boblogaeth tua'r un faint ag un y Bala?

Mae'n bosib dilyn rhesymeg y datblygwyr. Penderfynwyd cael enw Cymraeg yn hytrach nac un dwyieithog trwsgl a chodwyd gap at enw hanesyddol ardal gyfagos heb bechu neb trwy fachu'r enw hwnnw. Y canlyniad yw "Porth Teigr".

Dydw i ddim am fentro i ffau'r llewod trwy fentro fy marn i am y dewis - ond efallai bod 'na awgrym yn y pennawd!

Hanner Pei

Vaughan Roderick | 12:37, Dydd Mawrth, 9 Tachwedd 2010

Sylwadau (4)

Llanast. Does dim gair arall i ddisgrifio cynhadledd newyddion y Ceidwadwyr y bore 'ma wrth i'r blaid drafod un o gonglfeini ei maniffesto ar gyfer flwyddyn nesaf sef yr addewid i "ddiogelu" y gyllideb iechyd dros y pedair blynedd nesaf.

Fe ddown i at yr addewid hwnnw yn y man ond fe gafwyd tamaid i aros pryd ar gychwyn y gynhadledd wrth i Nick Ramsay gyflwyno datganiad ynghylch cost cynnal swyddfeydd tramor Llywodraeth y Cynulliad.

Gair i gall. Os ydych chi eisiau i bobol gymryd datganiad o ddifri dyw e ddim yn syniad da i gychwyn eich sylwadau trwy ddewud "...bit of an old chestnut this. It's that time of year again. Ignore the last sentence. I was in a bad mood when I wrote it."

Mynd o ddrwg i waeth wnaeth pethau wrth i'r drafodaeth droi at yr addewid iechyd. Dyw newyddiadurwyr y Bae ddim yn hela mewn pac yn aml ac mi ydyn ni ond yn tueddu gwneud hynny ar ôl oglau gwaed. Mae 'na arogl felly ynghylch addewid y Ceidwadwyr.

Gofynnwyd sawl cwestiwn ac fe gafwyd sawl ateb. P'un ai oedd yr atebion hynny'n ddigonol sy'n fater arall.

Problem gyntaf y Ceidwadwyr yw ei bod wedi gwneud eu haddewid ynghylch diogelu'r gyllideb iechyd, sy'n ddeugain y cant o gyllideb y llywodraeth, cyn rhyddhau unrhyw wybodaeth ynghylch eu cynlluniau mewn meysydd eraill. Mae'r blaid yn derbyn bod diogelu 40% o'r gyllideb yn golygu toriadau llym yng ngweddill y gwariant ond dydyn nhw ddim yn fodlon manylu ynghylch y toriadau hynny.

Yn lle hynny ceir addewid y bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi rhywbryd a chwynion nad oes gan y blaid 'lwyth o weision sifil' i weithio pethau allan are eu rhan. Mae hynny'n ddigon gwir, wrth gwrs, ond os nad yw'r manylion wedi eu gweithio allan sut gebyst y mae'r blaid yn gwybod bod diogelu'r gyllideb iechyd yn bosib a hynny heb fod ar draul gwasanaethau a chynlluniau hanfodol eraill?

Yr ail broblem i'r blaid yw natur yr addewid. Nid addo rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd ein pobol mae'r Ceidwadwyr ond addo diogelu cyllideb un adran o'r Llywodraeth. 'Seilo' gwariant yr adran iechyd sy'n cael ei hamddiffyn nid y gwasanaeth. Er mwyn amddiffyn y gyllideb honno mae'n bosib y gellid torri gwariant y cynllun "adfer a gofal", er enghraifft, cynllun nad yw'n cael ei ariannu o'r gyllideb iechyd.

Beth yw'r cynllun "adfer a gofal"? Prosiect sydd wedi ei anelu at sicrhau bod pobol oedrannus yn cael aros yn eu cartrefi ac yn derbyn gofal yno. Fe fyddai ei dorri yn ychwanegu'n syth ac yn sylweddol at y nifer o bobol fyddai'n hawlio gofal yn ein hysbytai. Hynny yw, fe fyddai trin y gyllideb iechyd fel buwch sanctaidd wedi ychwanegu'n uniongyrchol at y straen ar yr union gyllideb honno.

Nawr, mae'r rhain yn bwyntiau pwysig. Efallai bod 'na atebion iddyn nhw. Efallai ddim. Ar hyn o bryd mae'n anodd osgoi'r casgliad mae cacen wedi hanner ei bobi yw addewid y Ceidwadwyr - cacen y mae newyddiadurwyr o leiaf yn cael hi'n anodd iawn ei llyncu!

Yr Eneth Gath ei Gwrthod

Vaughan Roderick | 13:27, Dydd Iau, 4 Tachwedd 2010

Sylwadau (2)

Un o nodweddion mwyaf amlwg y Cynulliad o'r cychwyn cyntaf yw'r nifer o fenywod sy'n aelodau. Yn y cynulliad cyntaf roedd union hanner yr aelodau'n fenywaidd a hon oedd un o'r ychydig ddeddfwrfeydd yn y byd lle'r oedd cynrychiolwyr y ddwy ryw yn agos at fod yn gydradd o ran eu niferoedd.


Y rheswm penna am y nifer uchel o fenywod oedd bod Llafur a Phlaid Cymru wedi llunio rheolau dewis ymgeiswyr oedd wedi eu hanelu at sicrhau cydraddoldeb. Y ddadl oedd mai dim ond trwy reolau felly yr oedd modd cyrraedd y nod ond na fyddai eu hangen yn y tymor hir. Unwaith yr oedd cydraddoldeb wedi ei sicrhau fe fyddai pob rhagfarn a rhwystr yn diflannu.

Dyna oedd y ddadl, o leiaf. Dydw i ddim yn gwybod ym mha Afallon yr oedd y bobol oedd yn ei chredu yn byw. Yr un lle "does neb yn y jêl a bywyd yn fêl", o bosib!

Roedd synnwyr cyffredin yn awgrymu y byddai anghyfartaledd yn ymddangos yn y Cynulliad pe bai'r rheolau yn cael eu llacio cyn i gyfartaledd gael eu sicrhau mewn rhannau eraill o fywyd cyhoeddus. Dyna'n union sy'n debyg o ddigwydd flwyddyn nesaf.

Dydw i ddim wedi gweithio'r ffigyrau allan ond mewn cynhadledd ddewis ar ôl cynhadledd ddewis mae dynion wedi eu dewis i olynu menywod sy'n gadael y cynulliad. Mae hynny'n wir yn achosion Lorraine Barrett, Jane Davidson, Karen Sinclair, Irene James a Val Lloyd ar y meinciau Llafur. Dynion hefyd sy'n debyg o gynrychioli'r seddi sydd ar hyn o bryd yn eiddo i Janet Ryder, Eleanor Burnham, Jenny Randerson a Trish Law.

Mae 'na ambell i sedd lle y gallai menyw olynu dyn ond dim llawer ac mae'n ddigon posib y bydd nifer y dynion yn tynnu am ddwy ran o dair o'r aelodau yn y Cynulliad nesaf.

Does dim angen bod yn athrylith i ddeall y rheswm am y ffenomen hon. Os nad oes 'na reolau cydraddoldeb os ydy'r mwyafrif llethol o gynghorwyr a phwyllgorwyr Cymru yn ddynion fe fydd dewisiadau'r pleidiau yn adlewyrchu hynny.


Rymbl yn y Rhondda

Vaughan Roderick | 13:50, Dydd Mercher, 3 Tachwedd 2010

Sylwadau (2)

Fe fydd y rheiny ohnonoch chi sy'n ymddiddori mewn hanes yn ymwybodol bod canmlwyddiant terfysgoedd Tonypandy yn cael ei goffhau'r wythnos hon gyda sawl digwyddiad a rhaglen wedi eu trefnu i nodi trobwynt pwysig yn hanes gwleidyddol Cymru.


Mae'r hyn ddigwyddodd yn Nhonypandy yn rhan o chwedloniaeth y mudiad Llafur ac fel pob chwedl mae'n cyfuno elfennau o wirionedd ynghyd a ffrwyth dychymyg y rheiny sydd wedi ail-adrodd y stori ar hyd y blynyddoedd.

Mae hi yn wir, er enghraifft bod Winston Churchill, yr ysgrifennydd cartref ar y pryd, wedi caniatau danfon milwyr i gesio dofi'r glowyr. Ond mae hi hefyd yn wir bod y milwyr wedi ymddwyn yn llawer mwy pwyllog a gwaraidd na gwnaeth y plismyn lleol a'r rheiny oedd wedi eu galw mewn o Fryste.

Ta beth am hynny fe barodd y drwgdeimlad yn erbyn Churchill am ddegawdau yn y maes glo ac fe gafodd hynny effaith andwyol ar obeithion dwy blaid - effaith sy'n para hyd heddiw.

Fe ddefnyddiodd Llafur benderfyniad Churchill fel arf i golbio'r Ceidwadwyr ar hyd y degawdau. Er nad oedd Churchill yn Dori yn 1910 roedd yr arf yn un effeithiol.

Yn y canrif ers y terfysgoedd mae ymgeiswyr Ceidwadol wedi bod yn greaduriaid prin yn y cymoedd. Yn y Rhondda ei hun dim ond un Ceidwadwr sydd wedi llwyddo i ennill sedd cyngor. Peter Leyshon oedd hwnnw. Fe enillodd e yng Nghymmer yn 1988 ond does neb wedi efelychu ei gamp ers hynny.

Mae'n ddigon posib wrth gwrs mae'r un fyddai hanes y Ceidwadwyr yn y cymoedd pe na bai bwgan Tonypandy yn bodoli. Mae 'na sail gadarn dros ddweud, ar y llaw arall, mae'r terfysgoedd oedd dechrau'r diwedd i'r blaid Ryddfrydol yn y maes glo gan sicrhau mai Llafur nid y Rhydfrydwyr fyddai'n rhoi llais gwleidyddol i drigolion y pentrefi glofaol o hynny ymlaen.

Ar ddechrau 1910 roedd William Abraham (Mabon) wedi ei ail-ethol i gynrychioli'r Rhondda yn y Senedd. Fel ym mhob etholiad ers 1885 roedd Mabon wedi sefyll ar docyn Lib-Lab ond y tro hwn dewisodd ymuno a'r Blaid Lafur seneddol yn hytrach nac eistedd ar y meinciau Rhyddfrydol. Roedd hynny'n golygu bod gan yr egin-blaid sosialaidd 29 aelod yn San Steffan.

Ar lawr gwlad yn y cymoedd roedd y sefyllfa wleidyddol o hyd yn hyblyg.

Cymerwch un teulu bach yng Nghlydach Vale fel enghraifft. Roedd y Rodericks ( fy hen hen daid a'i frodyr) wedi cael llond bol o grafu bywoliaeth ar diroedd Prices Gogerddan ac wedi symud i'r Rhondda yn y gobaith o fywyd gwell. Yng nglofa'r Cambrian yr oedd dynion a bechgyn y teulu yn gweithio a phan ddechreuodd anghydfod Tachwedd 1910 roedden nhw ymhlith y streicwyr.

Nid teulu milwriaethus oedd hwn. Pobol capel, Rhyddfrydol oedd y rhain. Yn wir roedd un ohonyn nhw yn gynghorydd Rhyddfrydol. Yn sicr bysai'r un ohonyn nhw wedi ymuno a'r rheiny wnaeth greu terfysg yn Nhonypandy. Rwy'n ddigon bodlon mentro y bydden nhw wedi eu harswydo gan y fath ymddygiad gan roi'r bai ar annuwioldeb, y ddiod gadarn neu'r ddau!

Ar ôl dweud hynny roedd penderfyniad Churchill - oedd yn Rhyddfrydwr ar y pryd - yn ormod i'r teulu hwn a miloedd o deuluoedd tebyg . Dros gyfnod o amser fe drodd aelodau'r teulu, eu cymdogion a'u cyfeillion eu cefnau ar y Rhyddfrydwyr a chofleidio Llafur. Sefydlwyd Plaid Lafur y Rhondda fel plaid annibynol o'r Rhyddfrydwyr ar Hydref 31ain 1911.

Cyn Tachwedd 1910 rwy'n weddol sicr y byddai bron pob un o fy nheulu yn ystyried nhw ei hun yn Rhyddfrydwyr. Ar ôl hynny prin yw'r rhai fyddai'n gwneud.

Mae 'na hen ddigon o bobol Llafur a Phlaid Cymru a'r Ceidwadwyr ymhlith fy mherthnasau a'm cyndeidiau ond prin yw'r Rhyddfrydwyr ar ôl 1910. Terfysg Tonypandy sy'n gyfrifol am hynny.

Gelllwch wrando ar raglen Radio Cymru ynghylch y terfysgoedd yn fan hyn.

Dwy Law yn erfyn

Vaughan Roderick | 10:52, Dydd Mercher, 3 Tachwedd 2010

Sylwadau (1)

Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan yng Nghaerdydd heddiw. Does dim byd anarferol ynghylch hynny. Ymhlith cyfarfodydd eraill fe fydd y Gweinidog yn cwrdd â'r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad. Dyw hynny ddim yn syndod chwaith.


Pam felly bod ambell i AC Torïaidd wedi mynd allan o'i ffordd i adael i newyddiadurwyr wybod bod y cyfarfod yn digwydd a bod yna "siarad plaen" i fod?

Does dim angen bod yn athrylith i ddeall y cymhellion dros y sibrwd nac i wybod ynghylch beth y mae'r 'siarad plaen' hynny i fod.

Mae canlyniadau'r arolwg YouGov diweddaraf wedi cyflawni ofnau gwaethaf y Ceidwadwyr Cymreig trwy gadarnhau bod trwch yr etholwyr yn credu bod Cymru'n dioddef mwy na'i siâr o doriadau. Hynny yw, mae negesau cyson Llafur Cymru, ac i raddau llai Plaid Cymru, yn taro tant ymhlith y cyhoedd.

Gadewch i ni adael y cwestiwn o gywirdeb y gosodiad i'r naill ochor. Y canfyddiad a'r naratif sy'n bwysig yn fan hyn.

Does dim dwywaith bod penderfyniadau megis cau Swyddfa Bassborts Casnewydd a rhoi'r gorau i gynlluniau Academi Filwrol Sain Tathan wedi creu gwythïen gyfoethog o ddicter ac anniddigrwydd y gall pleidiau Llywodraeth y bae ei gweithio flwyddyn nesaf. Peidied neb a meddwl nad yw eu ceibiau a'u rhawiau'n barod i wneud hynny. "They'll be there" fel byddai'r "Stand" yn dweud.

Mae natur y "siarad plaen" yn amlwg felly. "Dim rhagor o doriadau sy'n ymddangos yn anghyfartal" fydd y neges gyntaf. "Rhowch rywbeth i ni" fydd yr ail. Y "rhywbeth" yw prosiect cyfalaf mawr - a'r un amlwg yw trydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe.

Mae'r lein honno yn rhedeg trwy ardaloedd lle mae gan y Ceidwadwyr gefnogaeth sylweddol yn draddodiadol a gallai gohirio'r cynllun fod yn drychinebus yn etholiadol. Faint o drychineb? Wel, mae un Aelod Cynulliad Ceidwadol yn ofni y gallai cyfanswm y Ceidwadwyr yn y cynulliad fod 'yn y rhifau sengl' ar ôl mis Mai.

Pe bai hynny'n digwydd wrth gwrs, does dim dwywaith y byddai cyfnod hir Nick Bourne fel arweinydd yn dirwyn i ben ac mae 'na ambell i arwydd bod y frwydr i'w olynu wedi dechrau.

Wrth gwrs, does 'na ddim byd o le os ydy llefarydd mainc blaen fel Andrew 'RT' Davies yn dewis ysgrifennu at ymgeiswyr ei blaid yn addo help llaw yn eu hymgyrchoedd. Serch hynny mae'n anodd credu nad oes 'na elfen o "Can di bennill mwyn i'th nain, fe gan dy nain i tithau" yn ei epistol.

Tybed a gafodd David Melding gopi?

Croeso yn ôl, Karl

Vaughan Roderick | 10:45, Dydd Mawrth, 2 Tachwedd 2010

Sylwadau (3)

Yn ôl yn nyddiau cynnar iawn y blog hwn ar drothwy etholiad cynulliad 2007 un o'r cyfresi mwyaf poblogaidd oedd "Barn y Bwci".


Roedd ambell i un wedi gwneud ffortiwn fach yn ystod etholiadau 1999 a 2003 trwy fetio ar ganlyniadau etholaethol gyda chwmni Jack Brown - yr unig fwci oedd yn cynnig prisiau seddi unigol. Erbyn 2007 roedd Jack brown wedi ei draflyncu gan Ladbrokes. Doedd dim modd gosod betiau ac roedd gosodwr prisiau Jack Brown Karl Williams wedi symud ymlaen. Ar fy nghais i fe osododd brisiau ar gyfer yr etholiad hwnnw i'r blog ac roedd ei ddarogan yn hynod o gywir.

Nawr, mae'n bosib y bydd Ladbrokes yn cynnig prisiau flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser mae Karl wedi gwneud tipyn o enw i'w hun fel gwrw etholiadol gan gael ei ddefnyddio'n helaeth ar draws y cyfryngau Cymreig.

Y newyddion da yw bod Karl am ddychwelyd at ei wreiddiau ar gyfer etholiad 2011. Dyma ei brisiau cychwynnol ar gyfer dwy etholaeth;

Gogledd Caerdydd

Jonathan Morgan (Ceid) 5-6
Julie Morgan (Llafur) 5-6

Mae'n anodd anghytuno a'r prisiau yn fan hyn. Fe wnes i nodi wythnos ddiwethaf fy mod i'n meddwl mai Julie yw'r ffefryn ond mae'r consensws yn ffafrio Jonathan. Teg felly yw eu prisio'n gydradd. Mae cynnig nesaf Karl yn llawer mwy dadleuol.

Caerffili

Ron Davies (Plaid) 8-11
Jeff Cuthbert (Llafur) 1-1 (EVS)

Nawr, mae gen i'r parch mwyaf at Karl ond os ydy'r don Llafur mor fawr ac mae rhai'n darogan rwyf i o'r farn y dylai fod yn ddigon i gario Jeff i'r lan. Mae'n dipyn o strets i ddweud mai Ron yw'r ffefryn - ond yn sicr mae'n un i wylio.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.