Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Brodyr Bach!

Vaughan Roderick | 12:37, Dydd Mawrth, 8 Mawrth 2011

Roedd pawb yn disgwyl i'r cadoediad rhyng-bleidiol ddod i ben yn fuan wedi'r refferendwm ond go brin fod unrhyw un wedi rhagweld y byddai'r cwffio cyntaf yn digwydd o fewn un o'r pleidiau. Llafur yw'r blaid honno ac mae'r ffrwgwd yn deillio o gyfres o ddatganiadau diweddar gan Peter Hain.

Yn eu plith roedd honiad bod y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, yn "aneffeithiol" ac nad oedd ei blaid yn "cynnig unrhyw beth i Gymru". Ar ben hynny cyhuddodd Dafydd Elis Thomas o ymddwyn yn "uwch na'i gyflog" wrth alw am ddiddymu'r Swyddfa.

Nawr, mae'r sylw olaf yn ddealladwy. Wedi'r cyfan os nad oedd gan Gymru Ysgrifennydd Gwladol ni fyddai angen unrhyw un i'w gysgodi. Fe fe fyddai gyrfa Peter yn diflannu i'r... wel, i'r cysgodion!

O safbwynt y sylwadau eraill roedd hi'n ymddangos eu bod yn rhan o dacteg fwriadol. Hynny yw , gan nad oedd hi'n bosib i wleidyddion Llafur y Cynulliad ymosod ar Blaid Cymru oherwydd y cytundeb clymblaid roedd Peter wedi ei benodi fel rhyw fath o "attack dog".

Roedd cynhadledd newyddion ar y cyd rhwng Carwyn a'i ddirprwy yn gyfle da i geisio corddi'r dyfroedd. Bant a ni, felly

Oedd y Prif Weinidog yn cytuno bod Ieuan yn aneffeithiol?

"Does dim gweinidogion aneffeithiol yn fy Llywodraeth i" medd Carwyn

Beth am y sylwadau ynghylch Dafydd Ellis Thomas?

"Sylwadau Peter yw'r rheiny" atebodd Carwyn gan ychwanegu yn ddiweddarach. "Fi yw arweinydd y Blaid Lafur Gymreig a fy rôl i yw siarad ar ei rhan"

Digon teg. Ond os nad yw Peter yn siarad ar ran y Blaid Lafur Gymreig pam mae swyddfa'r wasg yn dosbarthu rhai o'i ddatganiadau o dan y teitl "News from Welsh Labour"?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:44 ar 8 Mawrth 2011, ysgrifennodd GARI TRYFAN:

    Os oes raid dewis rhwng Ieuan Wyn Jones a Peter Hain yna IWJ fyddai fy newis i bob tro. Cymru roddodd lwyfan i Peter Hain, onid yw'n bryd cau'r llenni?

  • 2. Am 08:49 ar 9 Mawrth 2011, ysgrifennodd Dai_Nefyn:

    'Ond os nad yw Peter yn siarad ar ran y Blaid Lafur Gymreig pam mae swyddfa'r wasg yn dosbarthu rhai o'i ddatganiadau o dan y teitl "News from Welsh Labour"?'

    Beth ydi'r casgliad, fellu? Fod y Blaid Lafur a'i harweinyddion yng Nghymru'n ddwy-wynebog?

    Quelle surprise!

  • 3. Am 20:10 ar 9 Mawrth 2011, ysgrifennodd Dewi:

    Vaughan,
    dwi mewn twll. Dwi'n darllen traethodau a traethodau yn trio gweld beth yw rol yr Wales Office (nawr). Yr oll ydw i yn ei gael ydy "Wales's Voice in Westminster".

    Ond dwi'n gweld bod yn 60 Staff o fewn y W.O. Felly un cwestiwn dwi'n gofyn ydy be mae nhw ac yr SoS yn ei wneud o 9-5 rhwng Llun a Gwener?.

    Felly oherwydd fy mod in talu am y Ö÷²¥´óÐã, o ni'n tybio allwch chi, fel newyddiadwr o fri ddisgrifio "typical week of the Wales Office and Secretary of State". H.y be are y ddaear mae hi'n ei wneud o 9-5. Yna be fysa Hain yn ei wneud(!).

    Ar nodyn arall, o ni'n gweld on hillarious y ffordd nath Gillan a Hain neidio i fyny i drio achub ei swyddi.

    Ac i gloi, nodyn fel clod i chi Vaughan a Ö÷²¥´óÐã/S4C. O nin edrych ar raglen y Refferendwm ar ddydd gwener, a raid i fi ddeud roedd rhaglen S4C llawer, llawer yn fwy proffesiynol na un Ö÷²¥´óÐã1. Dwnim os mai Jaime neu Betsan oedd e. Ond fel arfer mae rhaglenni Ö÷²¥´óÐã1 fel 'election night' yn well, ond tro yma, S4C oedd ora- diolch vaughan!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.