Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhithfyd

Vaughan Roderick | 10:02, Dydd Iau, 10 Mawrth 2011

Dyn dewr fyddai'n camu mewn i ffrae rhwng Angharad Mair a Cris Dafis ac rwy'n gobeithio na fyddaf yn pechu'r naill neu'r llall o golofnwyr Golwg trwy wneud hynny!

Fe fydd darllenwyr y cylchgrawn yn ymwybodol bod y ddau wedi bod yn ffraeo rhiw faint ynghylch pwysigrwydd datblygiadau diweddar ar y we i ddyfodol y Gymraeg.

Roedd Cris yn gweld datblygiad , y safle sy'n dod a thrydarwyr Cymraeg ynghyd, fel cam tuag at greu rhyw fath o rith-gymuned Gymraeg. Roedd Angharad yn gweld dim byd mwy na lot o glebran gwag. Mae'n gwbwl bosib i'r ddau fod yn gywir wrth gwrs.

Yn sicr mae'r safle ynghyd a chyfres o ddatblygiadau eraill wedi rhoi hwb sylweddol i'r we Gymraeg oedd wedi dechrau teimlo fel lle cymharol sglerotig yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ar ôl ei lansiad trychinebus mae Golwg360 yn cynnig gwasanaeth defnyddiol a thra gwahanol i un y Ö÷²¥´óÐã. Mae gwefan newydd Y Cymro hefyd yn hynod addawol. I goroni'r cyfan mae strategaeth newydd S4C hefyd yn rhoi pwyslais ar greu rhwy fath o hafanddalen neu borth i'r Gymraeg ar y we.

Y cwestiwn sy'n codi yw i ba raddau y dylai'r gwahanol safleoedd yma gyd-weithio. Yn achos Golwg360 a'r Cymro, yr ateb, dybiwn i, yw dim o gwbwl. Mae cystadleuaeth yn beth da ac os ydy'r Cymro yn gallu rhoi tipyn o her i Golwg mae hynny i'w groesawi. Does 'na ddim arwydd bod y cyngor Llyfrau'n bwriadu ail-dendro'r gwasanaeth ar-lein unrhyw bryd yn fuan ond fe fydd ymdrechion Y Cymro yn cadw pobol Golwg ar flaenau eu traed.

Yn yr hinsawdd bresennol dydw i ddim am fentro trafod perthynas safleoedd ar-lein y Ö÷²¥´óÐã ac S4C ac eithrio codi cwestiwn.

Os mai bwriad y ddau ddarlledwr yw cael y nifer fwyaf o wylwyr a gwrandawyr oni fyddai'n fanteisiol i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar gymaint o safleoedd ac sy'n bosib. Oni fyddai'n gwneud synnwyr er enghraifft i allu gwrando ar Radio Cymru trwy wefan S4C neu wylio'r cyfan o raglenni S4C ar iPlayer? Dim ond gofyn. Chwedl Dylan Jones!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.