Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth

Archifau Hydref 2011

Coronwch hi yn ben

Vaughan Roderick | 09:52, Dydd Gwener, 28 Hydref 2011

Sylwadau (3)

Rwy'n cofio rhyw dro ceisio esbonio'r ffordd y mae'r gwledydd hyn yn cael eu llywodraethu i fy mrawd yng nghyfraith sy'n Americanwr. Ar ôl rhyw hanner awr roeddwn mwy neu lai wedi llwyddo i gyfleu'r syniad mai un o hanfodion ein cyfnasoddiad yw nad yw e'n bodoli - neu yn hytrach ei fod wedi ei wasgaru trwy gannoedd o ddeddfau, dedfrydau a dyfarniadau. Symudais i ymlaen i geisio esbonio lle yn union mae ffiniau'r wladwriaeth hon ac fe aethon ni ar goll mewn rhyw fath o driongl Bermuda cyfansoddiadol rhywle rhwng Ynys Manaw, Sark a Thristan da Chuna!

Un agwedd o'r cyfansoddiad nad oeddwn yn gyfarwydd â hi cyn heddiw oedd y 'realm'. 'Teyrnas' sy'n cael ei chynnig gan Cysill fel cyfieithiad o'r term - ond fe awn i ddryswch pur trwy ddefnyddio honno!

Y gwladwriaethau y mae'r Frenhines yn ben arnynt yw'r 'realm'. Mae'r rhestr yn cynnwys y Deyrnas Unedig a'i threfedigaethau wrth reswm ond hefyd pymtheg o wladwriaethau eraill yn eu plith Awstralia, Canada, Seland Newydd a llwyth o ynysoedd bach egsotig fel Antigua, Tuvalu a Saint Lucia.

Mae Prif Weinidogion y gwledydd hynny yn cwrdd ar ymylon Cynhadledd y Gymanwlad i drafod y newidiadau i'r olyniaeth frenhinol y mae David Cameron yn dymuno eu cyflwyno er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhywiol a chrefyddol yn y gyfundrefn. Go brin y bydd 'na wrthwynebiad.

Y cwestiwn sy'n fwy diddorol yw pa fantais y mae'r gwledydd hyn yn gweld mewn cael tramorwraig fel pennaeth gwladwriaeth a honno'n dramorwraig a ddewiswyd trwy hap a damwain ei genedigaeth a hanes ei theulu.

Fel mae'n digwydd roeddwn i yn Awstralia pan bleidleisiodd ei dinasyddion yn erbyn dileu'r Frenhiniaeth. Roedd 'na sawl rheswm am hynny gan gynnwys poblogrwydd personol y Frenhines. Rheswm pwysicach o bell ffordd oedd llwyddiant ymgyrchwyr dros y Frenhiniaeth i ganolbwyntio sylw'r etholwyr ar y fath o weriniaeth oedd yn cael ei chynnig - gweriniaeth lle byddai'r Arlywydd yn cael ei ddewis gan wleidyddion yn hytrach na'r bobol.

Mae gweriniaethwyr Awstralia wedi dysgu'r wers. Pan ddaw refferendwm arall, ac mae'n saff o ddod, ar yr egwyddor y bydd y bleidlais gyda'r manylion i'w trafod ar ôl sicrhau pleidlais 'ie'.

Bychan ond gweithgar yw'r mudiad gwerinaethol ym Mhrydain. Mae cryn swmp i'w dadleuon yn enwedig y rheiny ynghylch y grymoedd mae hawliau'r Goron yn gosod yn nwylo'r Prif Weinidog. Serch hynny go brin y gwelwn ni unrhyw newid tra bod Elisabeth o Windsor yn teyrnasu ac yn y tymor byr mae 'na un ddadl gref dros gadw'r Frenhiniaeth.

Wrth i'r Alban ystyried ei dyfodol cyfansoddiadol mae bodolaeth y Goron yn fodd i iro'r broses gyfansoddiadol trwy gynnig rhyw fath o gysylltiad rhwng yr Alban fel gwlad annibynnol ac aelodau eraill y cyn-undeb. Hynny yw, gallai bodolaeth Undeb Coronau 1603 gwneud hi'n haws i gladdu Undeb 1707. Yn sicr dyna fel mae Alec Salmond yn gweld pethau,

Y darlun ar y mur

Vaughan Roderick | 11:17, Dydd Iau, 27 Hydref 2011

Sylwadau (0)

Mae'n debyg nad yw Pwyllgor Celf TÅ·'r Arglwyddi yn denu rhyw lawer o sylw. Go brin fod newyddiadurwyr na'r cyhoedd yn ysu i fynychu'r cyfarfodydd neu ddarllen y trafodion. Serch hynny mae'r pwyllgor, sy'n penderfynu pa ddarnau o gelf sy'n cael eu harddangos yng nghyffiniau'r siambr uchaf, yn rhoi cyfle i'w haelodau'n hatgoffa o ryw ddigwyddiad neu berson o'r gorffennol.

Mae'r Farwnes Gale, sy'n aelod o'r pwyllgor, wedi gwneud yr union beth hynny trwy drefnu bod darlun o Margaret Haig Thomas, Is-Iarlles Rhondda yn cael ei arddangos yn yr Oriel Frenhinol o hyn tan y Nadolig.

Rhaid i mi gyfaddef nad oedd yr enw'n gyfarwydd i mi. Roeddwn wedi clywed am ei thad D.A Thomas - ond dim ond oherwydd mai ef oedd cyd-aelod Rhyddfrydol Keir Hardie yn etholaeth ddwbl Merthyr ac Aberdâr.

Wrth gwrs, os ydych chi'n anwybodus ynghylch unrhyw un yn hanes Cymru mae y Llyfrgell Genedlaethol yn gymorth hawdd mewn cyfyngder!

dysgaf fod Margaret wedi ei geni yn 1883 a'i bod wedi goroesi suddo'r Lusitania/ Priododd yn anghymwys cyn cael ysgariad - rhywbeth anarferol iawn yn y 1920au. Roedd hi hefyd yn wraig fusnes gan gadeirio sawl cwmni a'r "Institute of Directors". Roedd hynny hefyd yn anarferol ar y pryd.

Mae hynny i gyd yn ddifyr ond ei rhan yn y frwydr dros hawliau merched yw'r peth mwyaf diddorol. Dyma ddywed y bywgraffiadur.

"Ymunodd â'r Women's Social and Political Union a chymryd rhan yn yr ymgyrchoedd dros bleidlais i ferched. Neidiodd ar astell modur H.H. Asquith yn St. Andrews . Dysgodd sut i roi tân mewn blychau post cyhoeddus a gweithredu yng Ngwent nes cael dedfryd mis o garchar ym Mrynbuga. Gan iddi wrthod bwyta, fe'i rhyddhawyd ar ôl pum niwrnod...

... Pan fu farw ei thad etifeddodd hithau'r is-iarllaeth yn unol â darpariaeth arbennig a wnaed gan Lloyd George pan ddyrchafwyd ei thad i'r is-iarllaeth ac yntau heb etifedd gwryw. Cyflwynodd hithau ddeiseb am gael gwŷs i Dŷ'r Arglwyddi yn 1920, ac er fod yr Arglwydd Hewart a'r Pwyllgor Breiniau o blaid, o dan arweiniad yr Arglwydd Birkenhead pleidleisiodd mwyafrif mawr y Tŷ yn erbyn caniatäu ei chais."

Fe gafodd Margaret gymryd ei sedd yn Nhŷ'r Arglwydd yn y diwedd - ac mae ei llun hi yn ôl yna nawr. Rwy'n rhyfeddu nad oeddwn yn gwybod yr hanes. Diolch i Anita Gale rwy'n gwybod e nawr.

Yr Angel Moroni, J.R Jones ac Argyfwng yr Euro

Vaughan Roderick | 09:27, Dydd Mercher, 26 Hydref 2011

Sylwadau (1)

Bob bore Sul rwy'n canfod fy hun yng nghanol brechdan o grefydd. Oedfa sy'n dod cyn fy rhaglen wleidyddol ar Radio Wales a rhaglen drafod y Parchedig Roy Jenkins sy'n ei dilyn. Does gen i ddim byd i ddweud ynghylch yr oedfa ond mae rhaglen Roy yn un gythreulig o ddifyr - os cythreulig yw'r gair cymwys yn y cyd-destun hwn!

Dydw i ddim am bechu fy nghyfaill Dewi Llwyd trwy awgrymu eich bod yn gwrando ar "All Things Considered" yn fyw ond mae hi ar gael ar iPlayer.

Ddydd Sul diwethaf roedd Roy yn trafod pwysigrwydd Cymru a'r Cymry yn hanes cynnar yr Eglwys Formonaidd. Mae'n stori afaelgar a gellir darllen llawer ohoni ar y wefan "?"

Mae'n ddigon hawdd gwneud sbort ynghylch daliadau crefyddau newydd. Yn wir mae un o sioeau mawr Broadway "The Book of Mormon" yn ennill gwobrau trwy wneud hynny. Cliciwch y fideo uchod am flas ohoni - mae'n werth gwneud.

Newydd-deb am wn i sy'n gyfrifol am y ffaith bod y ffydd Formonaidd, neu Seientoleg o ran hynny, yn ymddangos mor wirion i'r rheiny nad ydynt yn credu.

Wedi'r cyfan dyw credu bod Gardd Eden yn Missouri neu yn y "broffwydoliaeth olaf" ynghylch pwysigrwydd cenadwri i'r Cymry ddim yn fwy gwirion nac ambell i agwedd o Gristionogaeth neu Islam. Mae treigl amser a hanes yn gallu gwneud i bethau hurt ymddangos yn ddigon parchus.

I raddau helaeth mae gwareiddiad yn dibynnu ar ein parodrwydd i gredu mewn pethau gwirion ac nid dim ond yn y byd crefyddol. Cymerwch ein harian fel enghraifft. Ers diweddu'r safon aur yn 1931 does dim gwerth gwrthrychol yn perthyn i'r bunt, yr euro, y ddoler nac unrhyw arian arall. Mae eu gwerth yn gwbwl oddrychol ac yn dibynnu ar ffydd eu defnyddwyr ynddynt.

Mae'n werth cofio hynny wrth edrych ar argyfwng yr euro. Does dim dwywaith bod gan lywodraethau'r Almaen a Ffrainc yr adnoddau i ddatrys yr argyfwng. Cwestiwn o ewyllys yw hwn. Fe wnâ i fachu teitl llyfr enwog J.R Jones a disgrifio'r sefyllfa fel "argyfwng gwacter ystyr".

Yng nghefn, neu efallai ym mlaen, meddyliau etholwyr y ddwy wlad mae 'na gwestiwn syml - beth yw'r pwynt? Ai 'dal i gredu' sydd orau neu ydy hi'n bryd wfftio'r cyfan?

Fe gawn weld.

Pris y Farchnad

Vaughan Roderick | 10:15, Dydd Mawrth, 25 Hydref 2011

Sylwadau (1)

Gallwch ddychmygu cymaint o bleser oedd hi i rhywun fel fi i gael bwrw fy mhleidlais am y tro cyntaf ar fy mhen-blwydd yn ddeunaw. Y pumed o Fehefin 1975 oedd y dyddiad a'r refferendwm ynghylch ymuno a'r Farchnad Gyffredin oedd y bleidlais.

Pe bawn i'n llunio cwis tafarn fe fyddai hwn yn gwestiwn clyfar. "Fe enillodd yr ochor 'ie' y bleidlais ym mhob un o siroedd Cymru a Lloegr- ond ym mha sir yr oedd y canran uchaf o bleidleisiau 'na'?"

Mae'n debyg os oeddech yn seilio'ch ateb ar wleidyddiaeth heddiw y byddech yn cynnig rhywle fel Surrey, Norfolk neu Ddyfnaint fel ateb. Morgannwg Ganol yw'r ateb cywir.

Y rheswm am hynny yw bod bron pob plaid a charfan wleidyddol wedi newid ei safbwynt ynghylch Ewrop ers 1975. Yr unig eithriad yw'r Democratiaid Rhyddfrydol a'u rhagflaenwyr oedd yn rhyfeddol o gyson - cyn eu tro pedol ynghylch refferendwm 'mewn a mas' yn NhÅ·'r Cyffredin ddoe.

Yn ôl yn nyddiau fy llencyndod asgell chwith y Blaid Lafur o dan arweinyddiaeth Michael Foot, y rhan fwyaf o'r undebau a Phlaid Cymru oedd yn taranu yn erbyn aelodaeth Prydain. Roedd yr asgell dde Llafur a bron y cyfan o'r Ceidwadwyr o dan ei harweinydd newydd Margaret Thatcher yn frwd o blaid aros mewn. Os cofiaf yn iawn Enoch Powell oedd yr unig ffigwr o bwys ar y dde i ymgyrchu dros bleidlais 'na' ac roedd yntau erbyn hynny wedi ei alltudio i Ogledd Iwerddon.

Pam y newid felly?

Mae 'na sylwedd i ddadl y scepticiaid bod yr Undeb Ewropeaidd heddiw yn greadur gwahanol iawn i'r Farchnad Gyffredin y pleidleisiwyd drosti yn 1975 ond roedd y bwriad i'r Gymuned ddatblygu felly yna o'r cychwyn.

Dyma union eiriau'r cytundeb a arwyddwyd gan Edward Heath ac a gadarnhawyd gan Harold Wilson ar ôl y refferendwm.

"...determined to lay the foundations of an ever closer union among the peoples of Europe, resolved to ensure the economic and social progress of their countries by common action to eliminate the barriers which divide Europe, affirming as the essential objective of their efforts the constant improvements of the living and working conditions of their peoples"

Mae hynny'n llawer mwy na 'marchnad gyffredin'.

Mae 'na reswm pwysicach am y newid yn fy marn i. Ar y cyfan roedd gwleidyddion 1975 yn bobol oedd wedi eu saernïo gan y profiad o ryfel. Dim ond deng mlynedd ar hugain oedd wedi mynd heibio ers darganfod erchyllterau Auschwitz a Belsen. Roedd ildio ychydig o sofraniaeth yn bris isel iawn i dalu er mwyn osgoi ail-adrodd cyflyfanau'r gorffennol.

Symudwch ymlaen wedyn i'r 1980au - y cyfnod pan oedd Margareth Thatcher yn dechrau colli ein brwydfrydedd ynghylch Ewrop. Erbyn hynny roedd cyfreithiau a rheolau Ewrop yn rhwystro rhai o'r newidiadau a pholisïau yr oedd hi'n dymuno eu cyflwyno.

Wrth reswm roedd y Prif Weinidog yn gandryll a Llafur a'r Undebau yn ddiolchgar. O fewn byr o dro roedd Jaques Delors yn dipyn o arwr i'r union bobol a fu'n ymgyrchu yn erbyn Ewrop yn 1975 - ac yn dipyn o fwgan i'r Ceidwadwyr.

Mae hynny dod a ni at bleidlais ddoe. Mae'n drawiadol bod 49 o'r 79 o Aelodau Seneddol Ceidwadol wnaeth wrthryfela yn aelodau a etholwyd am y tro cyntaf yn 2010. Nid plant yr Ail Ryfel Byd yw'r rhain ond plant Thatcher - ac nid Margaret Thatcher 1975!

Gwylltio Gareth Glyn

Vaughan Roderick | 10:01, Dydd Gwener, 21 Hydref 2011

Sylwadau (9)

Un o bleserau bach fy niwrnod gwaith yw 'sgwennu linc ar gyfer Post Prynhawn. Nid jocian ydw i!

Fel pob cyflwynydd radio da mae Gareth Glyn yn addasu deunydd i siwtio'i steil ei hun. Yn achos Gareth mae hynny'n golygu ei 'gogeiddio' hyd yr eithaf gyda phob 'nawr' yn troi'n 'rŵan', pob 'taw' yn 'mai' a 'mi' melltigedig Gwynedd yn ymddangos cyn pob berf.

Fy nhasg i felly yw ychwanegu at fyrdwn ei waith trwy ysgrifennu pethau yn y modd mwyaf deheuol posib. Os oes ffordd o weithio oifad, colfen neu grwt mewn i sgript, rwy'n gwneud!

Tipyn o sbort yw hynny ond mae 'na bwynt ychydig yn fwy bachog gen i.

Mae unrhyw newyddiadurwr sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hen gyfarwydd â'r ffenomen o siaradwyr Cymraeg cwbwl rhugl yn y de yn gwrthod gwneud cyfweliadau gyda'r esboniad "smo'n Gymrag yn ddigon da". Anaml iawn mae Cymry Cymraeg y gogledd yn ymddwyn felly.

Dydw i ddim yn gwybod o ble y daeth y canfyddiad bod Cymraeg y gogledd rhyw sut yn well neu'n fwy safonol na Chymraeg y de ond yn sicr mae'n bodoli.

Yr enghraifft fwyaf boncyrs o hynny yw'r hen lyfrau emynau sy'n difetha odlau Pantycelyn trwy droi 'mas' yn 'maes'. Dewch 'mlan bois bach! Dyw 'maes' a 'gras' ddim yn odli! Os oedd 'mas' yn ddigon da i'r per ganiedydd mae'n ddigon da i chi!

Mae hynny'n dod a ni at Sir Fynwy a Rhodri Morgan.

Rwyf wedi pendroni ers tro ynghylch pam mae Rhodri yn ynganu Sir Fynwy fel "Shir Fynwa". Rwyf wedi canfod yr ateb. Trwy hap a damwain des i ar draws sy'n cynnwys nifer o erthyglau o "" wedi eu hysgrifennu yn y Wenhwyseg. Sut mae'r rheiny'n sillafu 'Sir Fynwy'? Rwy'n amau eich bod wedi synhwyro mai "Shir Fynwa" yw'r ateb.

Mae rhyw frith gof gen i o glywed bod John Morris Jones wedi newid sillafiad nifer o afonydd Cymru gan gredu bod 'wy' yn air Frythoneg am afon. Mae'n ddigon posib mai dyna ddigwyddodd yn achos Mynwy / Mynwa. Mae croeso i chi herio neu gywiro'r ddamcaniaeth!

Ta beth am hynny rwy'n dwli ar yr enw "Shir Fynwa" a gall Gareth Glyn ddisgwyl ei weld ar ei sgrin yn weddol o fuan!

Smac!

Vaughan Roderick | 12:02, Dydd Iau, 20 Hydref 2011

Sylwadau (1)













Mae llawer wedi ei ddweud ynghylch y ddadl smacio yn y Cynulliad ddoe. Roedd hi'n ddadl dda hefyd. Beth bynnag yw'ch barn chi'n mae'n werth ei gwylio. Yn sicr roedd araith Lindsay Whittle yn un o'r rhai mwyaf grymus yn hanes diweddar y Cynulliad - hyd yn os oedd hi, ym marn Byron Davies, yn nonsens emosiynol.

Nawr, does dim llawer yn debyg o ddod o'r ddadl ond roedd y drafodaeth yn ddiddorol. Er mai pleidlais rydd oedd hon ar y cyfan roedd y gwahaniaethau barn yn rhai rhwng y chwith a'r dde gyda'r Ceidwadwyr, ar y cyfan, yn cefnogi rhyddid rhieni i ddewis pu'n ai smacio'u plant ai peidio ac aelodau Llafur a Phlaid Cymru yn dymuno gweld diwedd ar gosbi corfforol yn y cartref.

Roedd 'na raniad pellach ar y chwith. Roedd pump ar hugain o aelodau yn dymuno gweld deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno yn y dyfodol agos. Mae eraill - gweinidogion y Llywodraeth yn bennaf - y'n credu bod angen braenaru'r tir a dylanwadu ar y farn gyhoeddus cyn gwneud hynny. Ymatal yn y bleidlais wnaeth yr aelodau hynny.

Y Llywodraeth fydd yn cael ei ffordd ond mae'r cwestiwn o bryd yn union mae'n gymwys i ddeddfu ynghylch rhyw newid neu'i gilydd yn un sy'n codi'n aml - ai rôl deddfwrfa yw arwain gyhoeddus neu ei hadlewyrchu?

Does dim ateb syml i'r cwestiwn. Yn yr achos yma mae'r Llywodraeth yn teimlo mae pwyll pia'i hi.

Wedi'r cyfan. mae'r holl dystiolaeth dros y ddegawd ddiwethaf yn awgrymu bod mwyafrif sylweddol o bobol yn gwrthwynebu gwaharddiad ond gallai hynny newid - a newid yn gyflym.

Yn 1962 cyrhaeddodd cân a'r geiriau yma'r siartiau.

"He hit me and it felt like a kiss
He hit me and I knew he loved me
Cause if he didn't care for me
I could have never made him mad
He hit me and I was glad
Baby won't you stay..."

Sefydlwyd y Mudiad Cymorth i Ferched yn 1971 ac yn 1976 cafwyd y ddeddfwriaeth gyntaf i ymyrryd a 'hawl' dynion i guro'u gwragedd.

Caerwyn

Vaughan Roderick | 14:14, Dydd Mercher, 19 Hydref 2011

Sylwadau (2)

Roeddwn i'n bell o'r blog, trydar a'r we ddoe. Efallai nad ydych yn credu bod hynny'n bosib. Y cyfan ddywedaf i yw hyn. Os ydych chi'n gweld sgarmes o newyddiadurwyr - boi'r Ö÷²¥´óÐã yw'r un yn y cefn yn gwaeddu mewn i Nokia hynafol!

Ta beth, os oeddwn i wedi bod yn agos at gyfrifiadur doe byswn wedi ysgrifennu ychydig eiriau ynghylch Caerwyn Roderick fu farw rhai dyddiau yn ôl. Gwell hwyr nac hwyrach.

Digon cwta oedd gyrfa seneddol Caerwyn.

Fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol Brycheiniog a Maesyfed i olynu Tudor Watkins yn 1970. Cadwodd y sedd yn etholiadau 1974 a'i cholli yn 1979 ar ôl i'r comisiwn ffiniau gael torri Brynmawr a Chefn Coed y Cymmer allan o'r etholaeth. Roedd Ystradgynlais dai i mewn - ond doedd honno ddim yn ddigon ar ei phen ei hun i gadw'r sedd yn y golofn Lafur.

Dydw i ddim yn meddwl bod Caerwyn yn colli San Steffan llawer. Wedi'r cyfan, roedd gweithio i'r NUT yng Nghaerdydd yn caniatáu iddo wylio Morgannwg llawer yn amlach.

Fedra i ddim meddwl am unrhyw beth gwael i ddweud am Caerwyn. Roedd e'n ddyn oedd yn gadarn ei ddaliadau heb fod yn gul ei feddwl ac roedd ei gwmni bob tro yn bleser.

Pob cydymdeimlad â'i deulu.

Nid yw'r post hwn yn ddwyieithog!

Vaughan Roderick | 10:12, Dydd Gwener, 14 Hydref 2011

Sylwadau (5)

Mae'r Cynulliad wedi cyrraedd oedran lle mae ambell i draddodiad a defod wedi eu magu. Un o'r rheiny yw bwrdd y wasg yn ffreutur TÅ· Hywel. Bob dydd mae newyddiadurwyr y Bae yn ymgynnull i giniawa gyda'n gilydd ac i roi'r byd yn ei le.

Gwleidyddiaeth a gwaith yw'r testunau siarad gan amlaf wth reswm ond ambell dro mae pwnc arall yn codi. Y dydd o'r blaen roedd Betsan, Gareth Hughes a finnau'n trafod bwydydd cysur - yn fwyaf arbennig y rheiny sydd wedi diflannu o fyrddau swper y genedl. Dyna ni felly yn trafod pwdin pibau a bara the pan dorrodd cynhyrchydd ITV Lyn Courtney ar draws y sgwrs.

"This is very odd" meddai "I understand everything you're talking about."


Sgowsar yw Lynne sy ddim, hyd y gwn i, wedi cael unrhyw fath o wers Gymraeg ffurfiol yn ei bywyd ond rhywsut, o fod yn awyrgylch dwyieithog y Cynulliad, mae rhyw faint o Gymraeg wedi treiddio i'w hymenydd.

Mae'n ffenomen sy'n codi cwestiwn diddorol i mi sef lle yn union mae'r ffin ieithyddol yng Nghymru'r dyddiau hyn? Nid son am ffin ddaearyddol ydw i ond y ffin feddyliol rhwng y siaradwyr Cymraeg a'r Di-Gymraeg.

Y gwir amdani, am wn i, yw mai ychydig iawn o bobol sy 'na yng Nghymru erbyn hyn sydd heb unrhyw wybodaeth o'r iaith. Mae datblygiadau yn yr ysgolion a'r ffaith bod y Gymraeg mor weladwy bellach yn golygu y byddai'n rhaid bod yn hynod benstiff i ddim byd treiddio. Yn wir, yn achos disgyblion ysgol yn y sector Saesneg sy'n cael gwersi Cymraeg gorfodol am ddegawd fe ddylai llawer mwy treiddio! Mater arall yw hynny.

Yn y cyd-destun ieithyddol yma mae 'na ddadl efallai y dylai'r sector gyhoeddus fod yn fwy anturus a defnyddio mwy o ddychymyg yn yr ymdrech i hybu'r Gymraeg. Pam defnyddio Saesneg o gwbwl mewn rhai achosion? Oes angen fod yn slafaidd ddwyieithog bob tro? Enwau Cymraeg nid rhai dwyieithog sydd gan Ysbyty Aneurin Bevan ac Ysbyty Ystrad Fawr a da o beth yw hynny - ond beth am gael ambell i arwydd ffordd uniaith Gymraeg neu ambell i gyfarwyddyd syml.

Fel mae'n digwydd mae'r archfarchnad agosaf i'n nghartref yn gwneud yr union beth yna. Mae ambell i arwydd yn ddwyieithog, eraill un uniaith Saesneg ac eraill eto yn uniaith Gymraeg. Oes angen dewud 'bread' yn ogystal â 'bara' neu 'milk yn ogystal â 'llaeth'? Dydw i ddim yn meddwl bod e. Mae'n rhywbeth i Meri Hughes feddwl yn ei gylch!

Llyfr Mawr y Plant

Vaughan Roderick | 13:18, Dydd Iau, 13 Hydref 2011

Sylwadau (0)

Efallai bod hi braidd yn gynnar i chi feddwl am siopa 'Dolig ond gadewch i mi argymell y o lyfrau. Pwy na fyddai'n dymuno cael copi o "Peter Black and the Travelling Circus"?

Rwy'n cymryd mai nofel ynghylch ymdrechion aflwyddiannus y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2011. Yn bersonol rwyf o'r farn y byddai "Aled Roberts and the Missing Website" yn deitl gwell.

Pa ots? Yn sicr mae 'na le i hwn ar y silff lyfrau - rhywle rhwng "Corn Pistol a'r Chwipiaid" a "Rosemary Butler and the Chamber of Secrets"!

Yn Y Doc

Vaughan Roderick | 14:54, Dydd Mercher, 12 Hydref 2011

Sylwadau (1)

Efallai eich bod chi'n credu fy mod yn berson anoracaidd braidd - ond nid fi yw'r gwaethaf yn Uned Wleidyddol y Ö÷²¥´óÐã!

Wrth i mi gyrraedd y gwaith heddiw roedd un o fy nghydweithwyr yn wen o glust i glust ac yn amlwg wedi ei gyffroi. Roedd 'na sawl rheswm posib - perfformiad timau rygbi a phêl-droed Cymru, efallai, neu gan ei fod yn un o Gasnewydd y grasfa roddodd Newport County i Fleetwood neithiwr? Ond na.

"Wyt ti wedi gweld hwn" meddai gan chwifio dogfen. Beth oedd honno? Canlyniad achos llys sydd wedi bod yn rhygnu ymlaen ers peth amser.

"AXA General Insurance Limited and others v The Lord Advocate and others (Scotland)" oedd teitl swyddogol yr achos yn y Llys Goruchaf

Er mai achos yn erbyn Llywodraeth a Senedd yr Alban oedd hwn roedd Cwnsler Cyffredinol Cymru yn cymryd rhan yn yr achos hefyd oherwydd y cynseiliau cyfansoddiadol oedd yn debyg o gael eu gosod.

Herio deddf a basiwyd gan Senedd yr Alban oedd AXA. Roedd y ddeddf honno wedi ei llunio i wyrdroi penderfyniad gan Arglwyddi'r Gyfraith (cyn dyddiau'r Llys Goruchaf) ynghylch hawliau gweithwyr a allai ddatblygu Clefyd Asbestos i iawndal gan yswirwyr eu cyflogwyr.

Doedd dim modd herio'r ddeddf trwy ddefnyddio cyfraith yr Alban. Yn hytrach ceisiwyd defnyddio Cyfraith Cyffredin Lloegr (y gyfraith a ddefnyddiwyd i sefydlu Senedd yr Alban) a chyfraith Ewropeaidd. Dadl AXA oedd bod gweithredoedd Senedd yr Alban yn afresymol a throëdig.

Mae ymateb yn Llys yn hynod ddiddorol. Yn y bôn mae'r barnwyr yn dweud nad yw rhesymoldeb gweithredoedd Caeredin neu Gaerdydd yn fater i'r llysoedd. Mae'n fater i'r etholwyr. Dyma'r paragraff allweddol.

"Law-making by a democratically elected legislature is the paradigm of a political activity, and the reasonableness of the resultant decisions is inevitably a matter of political judgment. In my opinion it would not be constitutionally appropriate for the courts to review such decisions on the ground of irrationality. Such review would fail to recognise that courts and legislatures each have their own particular role to play in our constitution, and that each must be careful to respect the sphere of action of the other."

Yr hyn mae'r penderfyniad yn golygu yw bod cyfreithiau Cymru a'r Alban o fewn y meysydd datganoledig cywerth a chyfreithiau'r Deyrnas Unedig. Mae'n cadarnhau bod gan y Cynulliad elfen, o leiaf o sofraniaeth. Mae'r cyfan yn dechnegol braidd ond coeliwch fi a'r anorac - mae'n bwysig!

Gwlad! Gwlad!

Vaughan Roderick | 10:27, Dydd Mawrth, 11 Hydref 2011

Sylwadau (2)

Dyw e ddim yn orfodol i bob newyddiadurwr Cymreig ysgrifennu rhywbeth ynghylch Cwpan Rygbi'r Byd. Mae hi jyst yn ymddangos felly.

Peidiwch â becso dydw i ddim am wneud rhyw sylwadau anwybodus ynghylch safon y chwarae. Pwynt bach arall sy gen i!

Pan eisteddodd James James lawr i ysgrifennu'r don a alwodd yn "Glan Rhondda" go brin y byddai wedi rhagweld y byddai'n cael ei harafu ac yna ei dyrchafu i fod yn anthem oedd yn cael ei chanu cyn ornestau chwaraeon rhyngwladol.

Fel mae'n digwydd "Hen Wlad fy Nhadau" oedd yr anthem gyntaf i gael ei defnyddio yn y fath fodd. Fe'i canwyd fel ymateb i "haka" y crysau duon ar gychwn ornest enwog 1905.

Dim ond yn 1990 y dechreuodd "Flower of Scotland" gael ei chanu'n swyddogol yn lle "God Save The Queen" cyn gemau'r Alban ac mae'r cwestiwn o ba anthem neu anthemau sy'n cael eu chwarae cyn gemau Iwerddon o hyd yn bwnc dadleuol - yn enwedig pan mae gemau'n cael eu chwarae yn Ravenhill.

Hap, damwain a'r angen i gael timau i chwarae yn ei herbyn nhw sy'n gyfrifol am y sefyllfa unigryw lle mae cenhedloedd yr ynysoedd hyn yn chwarae fel timau unigol yn hytrach na seilio'r drefn ar ffiniau'r wladwriaeth, neu ar ôl 1922, gwladwriaethau.

Go brin fod sylfaenwyr Undeb Rygbi neu Gymdeithas Pêl Droed Cymru yn credu bod 'na unrhyw oblygiadau neu elfennau gwleidyddol yn y ffordd y strwythurwyd eu campau ond y gwir amdani yw y gellid dadlau y byddai Cymru 2011 yn wlad wahanol iawn - os yn wlad o gwbwl - pe bai penderfyniadau i'r gwrthwyneb wedi eu cymryd.

Yn hanesydd Norman Davies sy'n gwneud y pwynt orau yn ei gampwaith "The Isles"

"Sport being intimately tied up with national pride, contains a stronger political dimension than most paricipants realize. It can easily be turned into an instrument of state policy... The widespread failure to create teams representing the whole United Kingdom must be seen as a symptom of the wider failure to construct a British nation."

Mae pwynt Norman Davies yn un cyffredinol ynghylch yr Alban, Iwerddon a Chymru ond yn achos Cymru roedd y drefn chwaraeon yn rhan o newid arwyddocaol arall.

Cyn y chwyldro diwydiannol roedd y diffiniad o bwy oedd yn Gymro a phwy oedd yn Sais yn weddol amlwg. Os oeddech chi'n siarad Gymraeg roeddech yn Gymro.

Roedd sefydlu'r cyrff chwaraeon cenedlaethol yn rhan o esblygiad y syniad o Gymru fel cenedl diriogaethol lle nad oedd siarad iaith yn hanfodol er mwyn dilyn ei thîm chwaraeon, chwifio ei baner neu ganu ei hanthem.

Dyna pam bod Cymru heddiw yn genedl o dair miliwn o bobol yn siarad pob math o ieithoedd ac o bob math o gefndiroedd yn hytrach nac yn genedl o hanner miliwn o siaradwyr Gymraeg. Fel dywed Norman Davies ymwybyddiaeth genedlaethol yw'r sment sy'n gludo cymunedau at ei gilydd. Yn achos Cymru mae hynny'n cynnwys o leiaf dwy gymuned ieithyddol.

Mae pobol mewn cenhedloedd lleiafrifol eraill Ewrop yn deall hynny'n iawn ac yn eiddigeddus o statws timau'r ynysoedd hyn. Os oes angen prawf o hynny arnoch chi gwyliwch y fideo am yma o gefnogwyr Stade Rennais yn morio canu "Glan Rhondda" yn y Stade du France ar drothwy gem gwpan.

Problemau Prifysgol

Vaughan Roderick | 10:18, Dydd Mawrth, 4 Hydref 2011

Sylwadau (0)

Mae'n bosib nad oes 'na gysylltiad rhwng ymchwiliadau Ciaran Jenkins a rhaglen 'Week In Week Out' i Brifysgol Cymru a phenderfyniad y corff hwnnw i roi'r gorau i oruchwylio a dilysu graddau colegau eraill. Mae'n bosib hefyd mai cyd-ddigwyddiad llwyr oedd bod y cyhoeddiad wedi dod deuddydd cyn darlledu rhaglen ddiweddaraf Ciaran. Posib ond annhebyg.

Dyma ddisgrifiad gwefan Ö÷²¥´óÐã Cymru o'r rhaglen fydd yn cael ei darlledu nos yfory; "Foreign students are taught how to lie and cheat their way to a UK visa." Cofiwch wylio - fel maen nhw'n dweud.

Mae yn ceisio rhoi sglein ar bethau trwy ddweud hyn.

"Ymateb i bolisi Llywodraeth Cymru i ailffurfio addysg uwch yw'r uno, a bydd yn creu un sefydliad integredig gyda'r gallu strategol i helpu Cymru i gyflawni potensial llawn ei buddsoddiad mewn dysgu, ymchwil ac arloesi a chefnogi strategaethau Economaidd Llywodraeth Cymru."

I bob pwrpas Prifysgol reit fach yn Ne Orllewin Cymru fydd "Prifysgol Cymru" o hyn ymlaen. Mae hynny'n codi llwyth o gwestiynau. Dyma rai ohonyn nhw.

Beth fydd yn digwydd i enwau UWIC a Phrifysgol Cymru, Casnewydd - y ddau goleg sy'n defnyddio enw Prifysgol Cymru ond nad ydynt yn rhan o 'r Brifysgol "newydd"? Ac wrth gyfeirio at UWIC beth fydd yn digwydd i'r cyrsiau y mae'r coleg hwnnw yn gorywchwylio mewn canolfannau eraill yn enw "Prifysgol Cymru"?

Beth yw dyfodol Gwasg y Brifysgol - pwy fydd yn ei chynnal a beth fydd ei pherthynas a phrifysgolion eraill Cymru?

Pa gamau fydd yn cael eu cymryd i ddiogelu enw da'r graddau y mae pobol yn astudio ar eu cyfer ar hyn o bryd?

Pa hawl foesol sydd gan y Brifysgol newydd i asedau fel Gregynnog ac arian ac eiddo a ewyllysiwyd i'r corff ar hyd y blynyddoedd?

Sawl cwestiwn felly - ond fe fydd gan y Brifysgol gwestiynnau hyd yn oed yn anoddach i'w hateb yn ystod y dyddiau nesaf.


Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.