Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rwy'n grac... o hyd

Vaughan Roderick | 10:58, Dydd Iau, 10 Ionawr 2013

Cyfaill blaidd yw bugail diog medd y ddihareb.

Beth am i ni ddal lan ac ambell i fugail ac ambell i flaidd?

Y blaidd yn yr achos hwn yw'r "Office of National Statistics". Chwi gofiwch efallai i mi ysgrifennu post ynghylch y drafferth yr oeddwn yn cael i sicrhau gwasanaeth Cymraeg gan yr adran ychydig cyn y Nadolig.

Ar y pryd ysgrifennais atyn nhw i gwyno. Dydw i ddim wedi derbyn ateb eto ond fe adawyd sylw gan un o'i swyddogion ar y blog. Dyma ran ohono.

"Mae'n ddrwg gen i eich bod wedi cael y profiad hwn sy'n ymddangos i fod, yn rhannol, yn gamgymeriad gweinyddol. Dylai ein llythyron arolwg fynd allan yn Gymraeg ac yn Saesneg i gyfeiriadau yng Nghymru, a byddwn yn edrych mewn i pam gwnaeth hyn ddim digwydd.

Digon teg, efallai. Mae camgymeriadau gweinyddol yn gallu digwydd. Rwy'n rhuthro i ddweud hynny ar ôl darllen trydariad yr wythnos hon gan rywun oedd wedi derbyn ateb yn Saesneg i lythyr Cymraeg gan y Ö÷²¥´óÐã!

Byddwn yn fodlon maddau, efallai ond sylwch ar rai o'r sylwadau eraill a adawyd ar y blog.

"Mi ges i'r union un driniaeth gan yr ONS 3 mlynedd yn ôl: llythyr uniaith Saesneg, galwadau ffôn i gwyno, dyn bach neis yn lled-siarad Cymraeg wedi i mi wneud ffws, follow-up Saesneg, ffws arall, ymddiheuriad ar y ffôn, ayb"

"Cawsom driniaeth go debyg gan y Swyddfa Ystadegau - cerdyn uniaith Saesneg yn dweud ei bod wedi galw; dim manylion cyswllt â swyddfeydd Cymru ar eu gwefan; diffyg gwasanaeth Cymraeg pan ffoniais i wirio dilysrwydd y cerdyn. Anfonwyd rhywun Cymraeg atom yng Ngheredigion ar ôl inni wneud cais."

Ydych chi'n sylwi ar batrwm yn fan hyn - rhywbeth sy'n debycach at fethiant systemig na chamgymeriad gweinyddol - methiant sy'n golygu nad yw'r swyddfa hyd yma wedi hyd yn oed cydnabod fy llythyr o gwyn?

Bant a fi felly at y Comisiynydd Iaith gan ddanfon e-bost rhwng y Nadolig a Chalan yn cynnwys dolen i'r blog ac yn gofyn iddyn nhw ystyried y post fel cwyn swyddogol.

Cefais ymateb yn syth wedi i'r swyddfa ail-agor ar ôl y gwyliau gydag addewid y byddai 'na ymateb llawnach o fewn ugain diwrnod gwaith. Fe gawn weld beth ddigwyddiff.

Yn y cyfamser dyma fachan yn ymddangos ar stepen fy nrws.

"Hello, I'm from the Office of National Statistics..."

Ydy hi o gysur bod yr ONS yr un mor wael wrth gyfathrebu a'i staff ac yw hi wrth gyfathrebu a'r cyhoedd? Nac ydy, mewn gwirionedd.

Dydw i ddim am adel i hyn fynd.

Bugeiliaid newydd sydd ar yr hen fynyddoedd hyn!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:30 ar 10 Ionawr 2013, ysgrifennodd Neilyn:

    Pan safodd Yr Arlywydd George W. Bush ar fwrdd yr USS Abraham Lincoln yn 2003 a datgan fod y gweithrediadau milwrol pennaf ar ben, a baner "Mission Accomplished" yn gefndir i'w araith, dyna, heb os, oedd ei "foment DET".

    Yn amlwg, mae'r frwydr ymhell o fod drosodd. Yng Nghymru o leiaf.

    Dal ati Vaughan. Mae'n rhaid i'r gweddill ohonom fod yn barod i ddefnyddio'n ffyn o hyn allan hefyd!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.