Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hawl i Holi

Vaughan Roderick | 10:22, Dydd Mawrth, 8 Ionawr 2013

Roeddwn yn ystyried wythnos ddiwethaf p'un ai i ysgrifennu post ynghylch yr anghytundeb rhwng y Ö÷²¥´óÐã ac EOS ynghylch taliadau cerddoriaeth.

Yn y diwedd daeth pwt o gerdd o'r ail rhyfel byd i'r cof a'm darbwyllo i beidio. Rwy'n credu mai Waldo Williams oedd yn gyfrifol am y llinellau. Dyma oedd ganddo i ddweud am wasanaethau'r Ö÷²¥´óÐã yn ystod y rhyfel.

"Cân propaganda'n gyndyn
Hysbys y dengys y dyn
O ba badell bo'i bwdin"

Gan fy mod yn derbyn nid dim ond fy mhwdin ond fy mhrif gwrs o badell y gorfforaeth fe fyddai'n anodd iawn i chi gymryd fy ngeiriau fi fel rhai niwtral a diduedd. Gwna'i ddim gofyn i chi wneud.

Beth am drafod rhywbeth cwbwl gwahanol felly?

Weithiau mae thema'n datblygu yng nghynadleddau newyddion wythnosol y pleidiau ac roedd heddiw'n un o'r achlysuron hynny. Ateb Leanne Wood i gwestiwn gen i oedd yn gyfrifol.

Atgoffais arweinydd Plaid Cymru ei bod hi wedi ennill y swydd trwy addo "mynd a'r ffeit at Carwyn Jones" - pam felly yr oedd hi wedi methu glanio mwy nac ambell i glatsien arno yn ystod sesiynnau cwestiynau'r Prif Weinidog?

Roedd yr ateb yn ddadlennol. Dywedodd Leanne yn gyhoeddus yr hyn y mae sawl aelod yn dweud yn breifat. Roedd y sesiwn yn ddim byd mwyn na "farcical pantomime space". Roedd cwestiynau perthnasol a gwerthfawr yn derbyn atebion disylwedd a di-hid. Roedd pobol Cymru'n haeddu gwell meddai.

Rwy'n meddwl bod hi'n deg i ddweud y byddai'r rhan fwyaf o bobol sy'n gwylio'r sesiwn yn wythnosol yn rhannu'r farn nad yw sesiynau'r pedwerydd cynulliad mor ddifyr a dadlennol â'r rhai yn y tri blaenorol.

Yn y cynulliad cyntaf roedd 'na densiwn go iawn wrth i'r gwrthbleidiau braenaru'r tir ar gyfer cwymp Alun Michael ac roedd gwylio Rhodri Morgan yn mynd i hwyl neu'n dilyn ysgyfarnog bron bob tro yn ddifyr.

Ond ai Carwyn Jones sydd ar fai? Ydy e mewn gwirionedd yn osgoi ateb cwestiynau,- cyhuddiad Kirsty Williams yn ogystal â Leanne, neu ai'r cwestiynu sydd ar fai?

Rhaid i mi gyfaddef fy mod yn canfod fy hun weithiau yn straffaglu i ddeall beth yn union sy'n cael ei ofyn ac os nad yw hi'n bosib deall y cwestiwn sut ar y ddaear mae disgwyl ateb call?

Pa ots yw hyn oll? Dyw Leanne ddim yn poeni'n ormodol. Mae'r gwaith pwysig yn mynd ymlaen mewn llefydd eraill yn ôl arweinydd Plaid Cymru. Tra bod y 'pantomeim' yn parhau yn y siambr mae'r gwaith pwysig o adeiladu ei phlaid yn mynd rhagddi.

Efallai, ond mae tanberfformio cyson yn y siambr yn debyg o gael effaith ar ddelwedd a morâl plaid yn y tymor hir. Mae hon yn ffenest bwysig wedi'r cyfan a pheth peryg yw ei hesgeuluso.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:55 ar 8 Ionawr 2013, ysgrifennodd Dai Twp:

    Dydy'r ffaith fod Carwyn Jones yn ateb bob cwestiwn gyda cwestiwn ei hun, ddim yn help (na'n gyfansoddiadol), na'r ffaith fod y Llywydd o'r un blaid ag e.

    Os caf ddweud hefyd, prin iawn fydda' i'n teimlo fod newyddiadurwyr y Ö÷²¥´óÐã yn llwyddo i'w holi'n drylwyr gan adael iddo siarad gwynt nes ei fod yn gwybod fod yr amser ar ben. Hen dacteg Rhodri Morgan, neu'n 'dilyn ysgyfarnog' a rhoi sioe y 'boi da i rannu peint' ... ac roedd yn cael dilyn sawl ysgyfarnog yn ei gyfweliadau â'r Ö÷²¥´óÐã.

    Ac yna, mae aelodau cynulliad eraill Llafur yn gwrthod gwneud cyfweliadau o gwbl.

    Dwi'n dyheu am weld Carwyn Jones - neu unrhyw un o'r ACau ar raglen newyddion Lundeinig. Gall rhywun ddychmygu llywodraeth yn cael get-awê gyda celu adroddiadau am y Gwasanaeth Iechyd; dyledion blynyddol y gwasanaeth iechyd, AWEMA, diflaniad biliynau Amcan Un i rhyw bydew, Prif Weinidog yn ceisio sensro opera sebon?

    A dweud y gwir, dwi'm meddwl fod tan-chwarae yn y Senedd i'w wneud yn le anniddorol yn dacteg. Mae'r lle mor uffachol o ddiflas; pensaeniaeth y siambr yn cloi'r pobl gyffredin allan ohoni mwen rhyw bocs dienaid, diflas uwchben y Siambr; a diffyg 'hwyl' y lle yn golygu fod y Llywodraeth yn cael amser lot haws na phetai'r lle yn siambr ddadleuol, ddiddorol. Does neb yn talu sylw i le diflas a storiau mawrion yn cael eu hanwybyddu.

  • 2. Am 11:11 ar 9 Ionawr 2013, ysgrifennodd John Thomas:

    Mi oedd Leanne Wood yn wych yn gofyn cwestiynau yn y Cynulliad ddoe o be gwelais i, y perfformiad gorau o bell ffordd. Efallai bod angen blog post arall i adlewyrchu hynny?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.