主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Sbinia gan Bedwyr Rees
Adolygiad gan Glyn Evans o Sbinia gan Bedwyr Rees. Cyfres Pen Dafad. Y Lolfa. 拢2.95.


Cyfres sy'n amcanu at fod yn feiddgar ar gyfer plant ysgol - os yw'n iawn dal i ddefnyddio'r fath ddisgrifiad o bobl ifainc - ydi Pen Dafad.

Mae'r Lolfa yn disgrifio'r gyfres fel, "un o'r cyfresi darllen Clawr y llyfrmwya poblogaidd ymhlith yr arddegau" gydag awduron fel Gwyneth Glyn a Bethan Gwanas wedi cyfrannu ati yn ogystal 芒 Bedwyr Rees, awdur y gyfrol ddiweddaraf hon.

Mae'r Lolfa yn dyfynnu un darllenydd yn s么n am y llyfr diweddaraf hwn fel hyn: "Llyfr delfrydol i fechgyn, mae'n llawn castiau gwallgo, o neidio dros blant ar ramps motobeics i wneud 'bomiau piso'. Dwi ddim yn siwr os bydd yr athrawon yn bles."

Does dim amheuaeth nad yw Sbinia yr union beth y byddai rhai oedolion yn dybio y byddai pobl ifainc eisiau'i ddarllen.

Y gwerthiant sy'n mynd i brofi a yw hynny'n iawn.

Yn sicr, mae yma feiddgarwch hwyliog nid yn unig o ran hynny o stori sydd yma a'i digwyddiadau ond yn y sgrifennu hefyd gyda chymariaethau a throsiadau sy'n ymfalchio mewn bod yn amrwd.

Gall cenhedlaeth hynach ddychmygu'r 'plant ysgol' diarhebol yna yn piffian chwerthin. Ond, y dyddiau hyn pan yw iaith yr oriau dof, hyd yn oed, ar deledu mor amrwd mae rhywun yn amau a yw beiddgarwch fel hwn yn feiddgar mwyach.

Ta beth, o'i brawddegau cyntaf mae Sbinia yn sbinio'n garlamus ac yn denu gyda'u hawgrym o dyndra i ddod:
"Mi allach chi ddweud mai Gari oedd pia strydoedd y pentra. Fo oedd arweinydd y criw, y boi caleta yn yr ardal, a fo oedd yn dweud be oedd be.
"Tan i Jones ddod i fyny o dde Cymru."

Gogleddol ydi iaith y sgwennu a'r cymeriadau ar wahan i'r dywededig Jones sy'n herio Gari gydol y nofel fer, 67 dalen.

Bedwyr ReesMae' arddull Bedwyr Rees, sy'n amlwg yn mwynhau sgwennu, yn arddull sy'n gweddu i'r dim i stori sy'n cychwyn gyda Gari yn gwneud dwr - mae'r llyfr yn fwy Beiblaidd ac yn defnyddio piso - drwy dwll llythyrau Mrs Hughes Hanes o'r ysgol.

Mi gewch chi hefyd gymhariaethau difyr:
Ei goesa'n mynd fath 芒 milgi ar steroids.
Sb卯d-b么t oedd yn edrych fel tasa fo wedi ei adeiladu gan rywun yn gwisgo menig bocsio.Ac wrth gwrs mae coesa'r ferch ddel yn y stori yn mynd fyny yr holl ffordd i fyny at ei phen 么l - mewn un gair!

Ydi, mae rhywun yn dychmygu'r cesus yn cael hwyl gyda'r gyfrol hon. Gobeithio y bydd hynny'n wir - er y gall rhywun ddychmygu ambell i riant mewn penbleth yn ceisio penderfynu pa un yw'r gwaethaf: gweld eu plant yn darllen dim Cymraeg o gwbl ynteu eu gweld yn darllen nofel Gymraeg fel hon.

Ys dywed y cwestiwn arholiad: Trafodwch. Mae ambell un wedi dechrau'n barod.

Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy