主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
  • Adolygiad Lowri Roberts o Hanner Amser - Hunangofiant Nigel Owens. Lolfa. 拢9.95.



  • Rhaid cyfaddef fy mod wedi edrych ymlaen yn eiddgar at gael darllen hunangofiant Nigel Owens, fyth ers imi glywed fod y gyfrol ar y gweill.

    Oes mae gennyf ddiddordeb mawr mewn rygbi - bu fy nhad yntau yn dyfarnu am flynyddoedd lawer.Clawr y llyfr Ond clywed y g诺r ei hun yn sgwrsio ar radio a theledu wnaeth imi sylweddoli bod mwy i Nigel Owens na'r persona cyhoeddus ry'n ni'n ei weld ar gaeau rygbi'r byd neu ar soffa Jonathan.

    Mae gan yr unigolyn hwn st么r o hanesion a phrofiadau ingol i'w rhannu 芒'i gynulleidfa ac mae'n gwneud hynny mewn dull onest, di-flewyn ar dafod ac mae hynny ynddo'i hun yn chwa o awyr iach mewn oes lle mae 'enwogion' yn cyhoeddi hunangofiannau yn unig er mwyn gwneud arian a dim mwy.

    Mwy na rygbi
    I unrhyw un sy'n credu mai cyfrol i ddilynwyr y b锚l hirgron yw hon, yna ry'ch chi wedi camddeall.

    Ydy, mae Nigel yn rhoi cipolwg inni ar fywyd dyfarnwr proffesiynol, yn datgan barn ar wahanol agweddau o'r chwarae ac yn rhannu ambell i stori ddigri yngl欧n 芒'i brofiadau ar y maes chwarae - ond mae cymaint mwy i'r gyfrol na'r agwedd hon yn unig.

    Cymerwch y paragraff agoriadol lle mae'n s么n am y profiad o geisio cymryd ei fywyd ei hun a'r effaith a gafodd y digwyddiad dirdynnol hwnnw arno ef, ei ffrindiau a'i deulu.

    Nid ar chwarae bach y mae rhywun yn penderfynu rhannu profiad mor bersonol 芒 chynulleidfa ehangach ond ys dywed Nigel ei hun:

    "Ro'n i wedi penderfynu o'r dechre mod i'n mynd i fod yn onest yn y llyfr... yr holl fusnes o fod yn hoyw a cheisio cymryd bywyd yn hunan. Fel arall bydde pobl ddim yn meddwl fod hwn yn hunangofiant go iawn."

    'Dod mas'
    Ac mae'r profiad o "ddod mas" yngl欧n 芒'i rywioldeb yn naturiol yn cael cryn sylw yn yr hunangofiant ... yr hyn a'i symbylodd i ddatgan ei wir deimladau a'r ymateb a fu i'r penderfyniad hwnnw ymysg teulu, ffrindiau a chydweithwyr.

    Yn ddiweddar cafodd ei wobrwyo 芒 thlws personoliaeth Stonewall - mudiad sy'n hyrwyddo buddiannau pobl hoyw. Er yn cydnabod nad oedd yn fwriad ganddo, trwy "ddod mas", i godi proffil pobl hoyw dywed ei fod " yn browd iawn o'r wobr a'r anrhydedd o'i hennill".

    Yn ogystal 芒'i fywyd personol mae yma doreth sylweddol o hanesion doniol a difyr am ei fagwraeth yng nghefn gwlad, ei gyfnod yn ofalwr yn Ysgol Maes yr Yrfa ac yn ddiddanwr ar lwyfannau Cymru.

    Yma, mae'r elfen ddireidus, gomed茂ol o'i bersonoliaeth yn dod i'r amlwg - y ddelwedd ry'n ni'n ei chysylltu 芒'r g诺r hoffus, byrlymus, ar raglen Jonathan.

    Chwerthin yn afreolus
    Ar fwy nag un achlysur bum yn chwerthin yn afreolus wrth ddarllen am ryw anffawd neu'i gilydd a ddaeth i'w ran fel y tro y llwyddodd i ddianc o dacsi heb dalu wedi noson feddwol yng Nghaerfyrddin.

    Ar 么l neidio dros ddwy wal a stryffaglio i'w draed sylweddolodd bod y gyrrwr wedi mynd ag e i bentref Mynydd y Garreg ger Cydweli -wyth milltir i ffwrdd o'i gartref ym Mynyddcerrig!
    Boed i hynny fod yn wers i ni i gyd!

    Milltir sgwar
    Er iddo deithio i bedwar ban fel un o ddyfarnwyr gorau'r byd, g诺r ei filltir sgw芒r ydyw, heb os a phrawf o hynny yw'r ffaith iddo ddewis aros yn ei gynefin ymysg teulu a ffrindiau - er gwaethaf y cyfnodau helbulus yn ei fywyd.

    Wrth ddatgan barn ar ddinasoedd hudolus fel Wellington, Biarritz a Cape Town yn yr atodiad - ei fagwrfa ym Mynyddcerrig sy'n cael y prif sylw:

    "Dyma'r lle gorau yn y byd. Dyma lle dechreuodd y cyfan ac yma, rhyw ddydd, fe wnaiff y cwbl orffen hefyd."

    Hanner Amser yw teitl y gyfrol.
    Yn bennaf am nad yw gwrthrych y cofiant mewn sefyllfa hyd yma i ddatgelu'r cyfan - ag yntau'n dal i ymwneud o ddydd i ddydd ag enwau mawr y byd rygbi.
    Mawr fydd y disgwyl am anturiaethau'r ail hanner.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy