主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
  • Adolygiad Lowri Roberts o Deryn Gl芒n I Ganu gan Sonia Edwards. Cyfres y Dderwen. Lolfa. 拢5.95



  • Y gyfrol hon gan Sonia Edwards yw'r diweddaraf yng Nghyfres y Dderwen - sef cyfres o nofelau gan Wasg y Lolfa sydd wedi eu hanelu at y to ifanc, a phobl yn eu harddegau hwyr yn benodol.

    A minnau bellach yn fy nhridegau, doeddwn i ddim yn disgwyl i'r nofel greu fawr o argraff arnaf - wedi'r cyfan, sut ar wyneb daear mae apelio at ystod oed mor eang?

    Clawr y llyfr Ond rhywsut, rhywfodd fe'm tynnwyd yn ddiseremoni i fywydau trafferthus a helbulus Griff Morgan, Rita Salisbury, Huw Fawr a gweddill y criw.

    Yn yr un modd ag y mae cyfresi Americanaidd fel 24 neu Prison Break yn llwyddo i hoelio sylw'r gwylwyr gyda'u defnydd effeithiol o cliffhangers - felly hefyd y mae Sonia Edwards yn cadw'r darllenydd ar flaenau'i draed.

    Cwympo mewn cariad
    Yr hyn sydd yma yn y b么n yw hanes Griff Morgan - Athro Cymraeg uchel ei barch - sy'n digwydd bod yn hoyw.
    Nid ei rywioldeb, fodd bynnag, yw canolbwynt y nofel ond yn hytrach y ffaith iddo gwympo mewn cariad 芒'r person anghywir.

    At Romeo a Juliet, Maria a Tony (West Side Story), Trystan ac Esyllt ychwanegwch enwau Griff a Dafydd.

    Nid stori serch fel y cyfryw a geir yma fodd bynnag ond yn hytrach gyfres o ddigwyddiadau dirdynnol sy'n cwmpasu cyffuriau a blacmel, dial a marwolaeth. Them芒u cyfoes sy'n sicr o apelio at y to iau.

    Campwaith y nofel hon imi yw ei ffurf. Nid fesul pennod y down i ffieiddio at weithredoedd Huw Fawr neu i gydymdeimlo 芒 thrallod Griff.
    Na, sgrifennwyd y nofel ar ffurf cyfres o ymsonau - gyda phob un o'r cymeriadau yn ymateb i ddigwyddiadau penodol.
    Crefft yr awdur yw sicrhau bod y stori yn llifo a'r digwyddiadau yn ymblethu mewn modd sy'n cyrraedd crescendo effethiol.

    Adnabod ei chynulleidfa
    A hithau'n athrawes mewn ysgol uwchradd mae'n amlwg fod Sonia Edwards yn adnabod ei chynulleidfa yn dda. Daw hynny i'r amlwg yn y ddeialog naturiol sy'n codi o'i phortread o Dyl Bach:

    Mae ysgol yn crap. Mae bywyd yn crap. Lesyns yn crap. T卯tshyrs yn crap. Wel, heblaw am y boi Welsh. Mae o'n oc锚. Normal. Siarad hefo chdi fel tasat ti'n himan b卯n. Nath o ofyn i mi ddarllan wbath ro'n i wedi'i sgwennu. Ddarllan o'n uchel 'lly. "No w锚," medda fi. "Mae o'n crap."

    ..."Nac'di tad," medda fo. "No w锚 bod o'n crap i gyd, Dyl Bach!" A mi nath pawb chwerthin eto ond ddim am fy mhen i.

    Cynnil ac awgrymog
    Mae'r ymsonau i gyd yn eu tro yn gynnil ac awgrymog sy'n golygu fod y stori yn symud yn ei blaen ar wib.

    Rodden ni mor hapus.
    Rhy hapus.
    Mae'n debyg mai dyna pam aeth popeth o chwith.
    Am nad oes gan neb yn y byd yr hawl i fod mor hapus 芒 hynny.

    O fewn dim o dro clywn fod g诺r Gwen Morgan - Geraint - wedi'i ladd mewn damwain car. Digwyddiad sy'n arwain ar dorcalon mewn mwy nag un ystyr. Oblegid roedd Geraint wedi bod yn cynnal perthynas gyda Rita Salisbury - ffaith sy'n esgor ar gyfres o gymhlethdodau pellach.

    Cryfder y nofel heb os yw'r ymblethu yma rhwng cymeriadau. Ond roedd na adegau lle teimlwn fod na orgymhlethu. Er enghraifft yr olygfa lle mae Emrys yn cysuro Non wedi iddi golli ei thad:

    Y ddau ohonon ni'n cydio yn ein gilydd rhyw fymryn yn rhy dynn. Merch i ffrind fu farw. Roeddwn i'n ddigon hen i fod yn dad iddi fy hun. Fi oedd tad ei chariad hi. Non oedd hi. Merch Gwil. Cariad Huw, fy mab.

    Ar adegau fel hyn roedd angen troi at y rhestr o gymeriadau ar ddechrau'r nofel er mwyn atgoffa dyn o bwy oedd pwy! Ond falle mai fi sy'n dangos fy oed!

    Mwynhad mawr
    Er gwaetha'r cymhlethdodau ces fwynhad mawr o ddarllen Deryn Gl芒n i Ganu.

    Oedd, roedd yma stori afaelgar a chymeriadau credadwy ond y fformat dyfeisgar a'r hiwmor tywyll a greodd fwyaf o argraff ar y darllenydd 'aeddfed' yma!


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy