主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
  • Adolygiad Kate Crockett o Petrograd gan William Owen Roberts. Barddas. 拢11.95.



  • Pan fentrodd Llion Iwan ar gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith y llynedd, cafodd ei nofel Yr Anweledig ei chanmol am lwyddo i wneud rhywbeth prin yn y Gymraeg, gan nad oedd i'w stori unrhyw gysylltiad Cymreig na chymeriadau o Gymru o gwbl.

    Clawr y llyfr Ychydig fisoedd wedi cyhoeddi'r nofel honno, dyma waith arall a all frolio'r un peth.

    Gan fod Petrograd gan William Owen Roberts yn waith mor swmpus, mae'n sicr nad ceisio efelychu camp Llion Iwan yr oedd - bu'r nofel hon ar y gweill ers amser.

    Chwyldro Rwsia
    Afghanistan y cyfnod diweddar oedd o dan sylw gan Llion Iwan ond nofel hanesyddol yw Petrograd fel mae'r teitl yn awgrymu, wedi'i gosod yn Rwsia adeg y Chwyldro.

    Efallai y bydd rhai sydd wedi darllen campwaith Marcsaidd Wiliam Owen Roberts,Y Pla, wedi disgwyl y byddai'r nofel hon yn dilyn hanes y chwyldroadwyr, ond nid felly mae. Daw'r prif gymeriadau o deuluoedd cefnog, ac wrth i'w byd cyfforddus ddymchwel, dilynwn eu hanes wedi iddyn nhw ffoi i Berlin.

    Ond mae hon hefyd yn nofel am lanc ar ei brifiant. Tair ar ddeg oed yw Alyosha ar gychwyn y nofel, ond mae'r digwyddiadau'n ei orfodi i dyfu'n ddyn yn gynt na'r disgwyl.

    Nofel am gymeriadau
    Nofel realaidd yw hon yn dilyn llinyn stor茂ol syml cronolegol, a stori Alyosha a'i ddwy gyfnither sy'n cynnal y diddordeb: nofel am gymeriadau yw hi yn bennaf oll.

    Er na ellid fod wedi ysgrifennu nofel fel hon heb grugyn o waith ymchwil yn gefn, mae'r awdur yn llwyddo i'n hargyhoeddi heb ildio i'r demtasiwn o frolio'i wybodaeth.

    Daw'r nofel i'w huchafbwynt yn Berlin, wrth i rai o'r Rwsiaid ariannog eu perswadio'u hunain mai rhywbeth dros dro yw eu halltudiaeth ac na fydd y drefn gomiwnyddol yn para yn Rwsia.

    Ond yn y cyfamser mae cyflwr economi 'r Almaen yn dirywio yn sydyn o'u cwmpas ac mae'r Rwsiaid breintiedig yn dysgu' n sydyn sut beth yw crafu byw heb arian.

    Hynod gyfoes
    Ar 么l yr ergydion i'r economi yn 2008, mae problemau Berlin ar ddechrau'r 1920au yn teimlo'n hynod gyfoes: banciau'n mynd a'u pen iddyn, arian yn colli'i werth, a phobl yn gwneud amdanyn nhw eu hunain oherwydd y sefyllfa.

    Elfen arall sy'n rhoi i'r nofel ei chyfoesedd yw cymeriad Inessa, mam Alyosha.

    Ar gychwyn yr hanes mae hi'n gwirioni o gael llofnod ei hoff actor, Alexei Dashkov. Erbyn diwedd y nofel mae'r ddau'n cyfarfod eto gyda chanlyniadau dybryd.

    Cymeriad cwbl hunanol yw Alexei Dashkov sy'n byw archampagne ac yn breuddwydio am ddod yn seren yn Hollywood - mae diwylliant arwynebol y selebs yn fyw ac yn iach ymhell cyn dyfodiad y cylchgrawn Heat.

    Mae Petrograd yn nofel sy'n gafael ac yn argyhoeddi ac sy'n llwyddo i wneud inni gydymdeimlo 芒'r Rwsiaid breintiedig ond heb ein dallu i'w ffaeleddau fel unigolion na diffygion y drefn yr oedden nhw mor frwd i'w gwarchod.

    Rheswm arall
    Er bod mawr angen nofelwyr sydd yn mynd i'r afael 芒'r Gymru gyfoes, mae'n braf gweld hefyd awduron fel Wiliam Owen Roberts a all ysgrifennu mor hyderus am fywydau sydd yn anghyfarwydd i ni.

    Gyda chyhoeddi Petrograd mae yna reswm arall dros ddathlu llewyrch presennol y nofel Gymraeg.

    Gwrando hefyd . . .

    Un o'r nofelau gorau a ddarllenodd erioed "mewn unrhyw iaith" meddai. "Mae hi'n arbennig o dda - yn epig o nofel [ac] mor eang ei rhychwant" ychwanegodd.

    Fe'i disgrifodd fel mwy na stori dda:
    "Mae o wedi creu cymdeithas, mae o wedi creu byd mae hyd yn oed y disgrifiadau o gymeriad sydd ond yn digwydd bod yna am rhyw hanner tudalen mae hyd yn oed y rheini wedi'u disgrifio yn ofalus yr ydych yn gallu credu . . yr ydych yn gallu ogleuo y nofel," meddai.

    Ychwanegodd ei bod yn nofel ryngwladol a fyddai'n goddef ei chyfeithu i ieithoedd eraill.




    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy