主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Casglwr gan Llion Iwan
Adolygiad gan Glyn Evans o, Casglwr gan Llion Iwan. Gomer. 拢7.99. 216 tudalen.


Mae'r nofel dditectif neu'r nofel ddatrys yn un o'r ffurfiau mwyaf poblogaidd a does dim gwell nag ymgolli yn un o'r rhain dros benwythnos, ar daith neu yn ystod gwyliau.

Clawr y llyfrMae yna eitha traddodiad o'r sgrifennu hwn yn y Gymraeg gyda'r pleser digymysg a roddwyd gan John Ellis Williams, E. Morgan Humphreys, Meuryn, John Pierce a G. E. Breeze yn melysu'r cof.

Er yn parhau'n ffurf mor boblogaidd ag erioed yn y Saesneg collodd rhywfaint o'i fri yn y Gymraeg ond da gweld yn ystod y blynyddoedd diwethaf awduron yn ail-afael yn y math yma o ddileit gyda Geraint Vaughan Jones wedi ennill prif wobrau steddfodol hyd yn oed.

Nofel y mis
Y diweddaraf yw Llion Iwan y dewiswyd ei nofel gyntaf, Casglwr, yn Nofel y Mis gan Gyngor Llyfrau ym Mai.

Mae Casglwr yn gyfuniad o ddatrys a braw. Cychwyn yn ddramatig gyda gwr ifanc a'i ddwylo mewn gefynnau y tu 么l i'w gefn yn cael ei erlid trwy goedwig ddieithr gan elyn ag angau yn ei fryd.

Gyda'r adeiladwaith drwyddo draw yn atgoffa rhywun o srtrwythur ffilm mae'r bennod agoriadol megis yr olygfa honno cyn y prif deitlau gyda'r stori wedyn yn ail-gychwyn o ddifri mewn swyddfa bapur newydd ar arfordir gogledd Cymru lle mae Dafydd Smith, cyn arwr newyddiadurol gyda'r Times, yn awr yn hel briwsion cynhaliaeth, yn ceisio cael ei fywyd bregus i drefn ac, yn bwysicach na dim, yn chwilio am y stori dalen flaen honno sy'n mynd i'w gadw mewn swydd sydd dan fygythiad.

Ymhlith yr elfennau mae priodas ar chwal a bwli o olygydd atgas sydd am ei waed.

Nid gwiw datgelu llawer mwy rhag difetha rhediad y stori - digon yw dweud bod yna ladd - a Dafydd yn sylweddoli fod rhyw gyfrinach ddieflig yn llechu yn ardal Bae Colwyn a Dyffryn Conwy.

Cymeriad sinistr
Yn y cefndir mae cymeriad sinistr Y Casglwr megis rhith difaol a straeon yn mynd yn 么l ddeng mlynedd ar hugain am ymosodiadau ar ddynion.

Yng ngeiriau un o'r cymeriadau, "Mae rhywun yn hela dynion yn y dyffryn."

Does dim dwywaith fod hon yn nofel ddarllenadwy iawn wrth i Ddafydd a'i gyfeillion hela'r Casglwr brawychus gyda'r 'golygfeydd' tywyll o hwnnw wrth ei waith yn y cysgodion dirgelaidd, sy'n atalnodi'r nofel, yn cadw'n fyw elfen hanfodol o ddychryn ac ofn.

Dro ar 么l tro mae Llion Iwan Yn cael hwyl ar greu awyrgylch iasol o fygythiad yn y cysgodion.

Efallai y bydd rhai yn siomedig pan ddatgelir pwy yn union yw Y Casglwr. Yn siomedig na fyddai mwy o 'dro' i'r gynffon arbennig hon ac na fu mwy o benwaig cochion yn y stori. Fodd bynnag mae tro cwbl annisgwyl i ddiwedd y nofel yn dilyn datgelu'r dihiryn.

Creu cymeriad
Mae yma hefyd ymgais i ddadansoddi cymeriad Dafydd gan sicrhau nad cwbl ystyrdebol ei gymeriad - er bod ystrydebau disgwyledig y genre yn britho'r nofel.

"Bob tro roedd yn dod yn agos at gael ei fywyd ar echel wastad, roedd yn gwneud rhywbeth hollol dwp a chael ei hun mewn trwbl eto. Pe byddai yn onest ag ef ei hun, fe gyfaddefai mai dyna oedd un o'r rhesymau pam iddo fethu yn Llundain," synia Dafydd amdano'i hun tra'n gorfod byw 芒'r amheuaeth mai "ffliwc" oedd ei "stori fawr gyntaf".

"Ac wrth yfed gallai ei dwyllo ei hun nad oedd angen sgwennu neu daclo mwy o straeon mawr, anodd."

Angen chwynnu
Ar adegau mae rhywun yn teimlo y byddai'r sgrifennu ychydig yn llac a thuedd i dindroi gyda sgyrsiau nad ydynt yn gyrru'r stori yn ei blaen wedi elwa ar law golygydd a fyddai hefyd wedi chwynnu manion lithriadau iaith o'r testun - cyson ddefnyddir y ffurf "er fod" yn lle "er bod" ac "er ei waethaf" yn lle "ar ei waethaf".

Byddai golygu cydwybodol wedi sicrhau hepgor y 'gymhariaeth' ddiystyr, "Teimlodd Dafydd boen fel gwayw" lle mae'r gair poen a gwayw yn golygu yr un peth yn union.

Byddai'r un golygydd wedi sicrhau hefyd na ddywedid am y cymeriad Huw, ar dudalen 46; "Mynnai alw pawb yn 'chi', a siaradai yn ffurfiol bob amser" ond yn ei ddyfynnu yn dweud, "Dwi am fynd am ginio . . . Oes rhywbeth arall ti eisiau" ar dudalen 47!

Mae peryg i rywun ymddangos yn gysetlyd wrth gyfeirio at lwch mor f芒n wrth gloriannu ond gall pethau o'r fath fennu ar lyfnder y darllen - ac mae pob awdur yn haeddu y p芒r ychwanegol yna o lygaid golygyddol sy'n mynd i'w hepgor.

Ta beth, mae Casglwr yn nofel gyntaf y gall yr awdur fod yn fodlon iawn 芒 hi ac yn addo'n dda am ragor yn yr un cywair gan Llion Iwan.

Cysylltiadau Perthnasol
Holi Llion Iwan


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy