主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ar Lwyfan Cymru
Adolygiad o Ar Lwyfan Cymru gan Alun Guy. Gomer. 拢8.99.

Yr hyn sy'n dod yn glir yn fuan iawn o ddarllen y gyfrol hon yw pa mor allweddol fu' ein heisteddfodau yn lleol a chenedlaethol i yrfa ein cantorion.

Dro ar 么l tro mae Alun Guy yn cyfeirio at gantorion o fri yn dod i'r amlwg mewn eisteddfodau m芒n a mawr ac yn hogi'r doniau hynny ar y llwyfannau eisteddfodol wedyn.

Chwech o gantorion
Portreadau byrion o chwech o gantorion sydd yn y gyfrol - oll yn rhai y mae Alun Guy, fel cerddor a beirniad eisteddfodol o fri, yn gyfarwydd iawn 芒 hwy ac yn rhai y mae wedi dilyn eu gyrfaoedd gyda diddordeb.

Clawr y llyfrMae wedi'i sgrifennu ar gyfer y darllenydd cyffredin yn ogystal a gwybodusion yn y maes.

Y chwech yw: Sh芒n Cothi, Dai Jones, Tom Gwanas, Trebor Edwards, John Eifion Jones a Fflur Wyn.

Mae'n ddewis sy'n sicrhau amrywiaeth nid yn unig o ran oedran; gyda Fflur Wyn yr ieuengaf ac yn cychwyn dringo ysgol ei gyrfa hi ond eraill wedi hen ennill eu plwyf ac yn nes at ymddeol nag at gychwyn!

Llais telynegol
Yn ogystal 芒 dweud eu hanes mae Alun Guy hefyd yn pwyso a mesur eu doniau.

"Llais telynegol, hyblyg sydd ganddi, gydag elfennau deniadol o coloratura yn perthyn iddo" meddai am Fflur Wyn.

"Er mai bychan o gorff yw Fflur, mae ei hewyllys a'i hawydd i lwyddo yn enfawr. Mae'n hyderus, ac yn derbyn canmoliaeth a beirniadaeth yn eu tro gyda'r un w锚n ddiniwed, chwareus. Nid yw'n cymryd ei hunan ormod o ddifri, chwaith - mae ganddi athroniaeth real ac ymarferol tuag at ei phroffesiwn," meddai.

Ie, proffesiwn - achos dyna fwriad Fflur, gwneud gyrfa o ganu.

Nid dyna fu dymuniad na hanes pob un yn y gyfrol.

Dai Jones yn cael ei ddisgrifio fel un o'r "tenoriaid telynegol blaenaf" wedi mynd rhagddo i ganolbwyntio ar yrfa mewn teledu.

Gorchestion Tom Gwanas, ar lwyfan Eisteddfod yn hytrach nag fel canwr proffesiynol. A bu gorchestion hefyd: ennill naw gwaith ar yr unawd bariton yn y Genedlaethol - "record anhygoel yn wir".

Ac, wrth gwrs, un o uchelbwyntiau Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 oedd y canwr gyda'r melfed yn ei lais yn cipio'r Rhuban Glas am yr eildro trwy efelychu camp a gyflawnodd gyntaf yn 1986.

"Yn bersonol, mi wn am nifer o gantorion naturiol, da . . . erbyn heddiw mae'r llais wedi mynd, neu mae 'na gryndod a vibrato annisgybledig ynddo. Nid felly gyda Tom. Hyd y dydd heddiw, mae'r llais melfedaidd yma wedi aros yn bur a chyfoethog," meddai Alun Guy.

Dim rhyfedd iddo gael ei ddewis yn brif gantor Eisteddfod Llangollen yn 1984 ac wedyn yn '89.

Pytiau difyr
Dydi Alun Guy ddim yn cyfyngu ei hun i nodiadau am yrfaoedd y cantorion hyn ond yn s么n am eu cefndir ac mae pytiau difyr am eu bywyd y tu allan i ganu hefyd.

Ond yr un peth sy'n gyffredin iddyn nhw yw eu bod un ac oll yn rhai y mae ganddo edmygedd mawr ohonyn nhw.

Maent hefyd yn rhan ddiymwad o'r gymdeithas a'r diwylliant Cymraeg traddodiadol:

"Maen nhw wedi cyrraedd . . . enwogrwydd . . .trwy ffyrdd gwahanol . . .ond mae un peth yn gyffredin i'r chwech - cynnyrch y diwylliant Cymraeg yw pob un ohonynt. Yr eisteddfodau bach gwledig, y llwyfan lleol, oedd y man cychwyn iddynt i gyd. I bump ohonynt, bu llwyfan yr eisteddfod, o'r lleol i'r Genedlaethol, yn gyfrwng pwysig i ddatblygu eu dawn a'u gyrfa," meddai.

Yr un, ychydig yn wahanol, ydi Trebor Edwards "gan iddo ennill ei blwyf trwy gystadlu mewn gornestau talent."

Ychwanega: "Maent i gyd wedi perfformio a chynrychioli diwylliant Cymru gydag urddas ac anrhydedd ar lwyfannau ar hyd a lled y byd, ond mae pob un ohonynt yn falch o'i fagwraeth ar lwyfan Cymru."

Mae'n braf dod i'w hadnabod yn well trwy gyfrol Alun Guy a diau y gallwn edrych ymlaen at un arall i'w dilyn.

Ffeithiau difyr o'r gyfrol:
Enw bedydd Sh芒n Cothi yw Sh芒n Margaretta Morgan. Mabwysiadodd ei henw llwyfan pan oedd yn un o ddwy Sh芒n Morgan yn cystadlu yn Eisteddfod Aberteifi yn blentyn. Fel Sh芒n y Gof yr oedd yn cael ei hadnabod yn lleol

Yn Llundain y ganwyd Dai Jones, Llanilar, ac mae ei frawd yn dal yn yrrwr tacsi yno.

Byddai Dai Jones yn ymarfer ei lais wrth ei waith ar y fferm. Yn ymarfer gwaelod y llais cyn brecwast, canol y llais yn y prynhawn a thop y llais wrth olchi'r parlwr godro fin nos.

Rhyw ffermwr, gwerinwr yw,
Di-hid o ymffrost ydyw
Yw llinellau agoriadol cerdd deyrnged i Tom Gwanas.

Gwrthododd Trebor Edwards droi'n broffesiynol - oherwydd ei fod mewn cariad!

Mae gan John Eifion Jones gariad arbennig tuag at Ffrainc.

Bu Fflur Wyn yn cynorthwyo ei thad gyda thriciau consuro.
gan Glyn Evans



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy