主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Marion Eames
Trafod gwaith awdur nofelau hanes
Adolygiad Glyn Evans o Marion Eames gan Richard R Evans. Ll锚n y Llenor. Gwasg Pantycelyn. 拢5.

Doedd hanes ddim yn bwnc yr oedd un brif nofelwyr hanes Cymru yn cael llawer o hwyl arno pan yn yr ysgol.

"Pan oedd Marion Eames yn Ysgol Dr Williams [Dolgellau] . . . marciau digon isel a g芒i mewn hanes," meddai awdur astudiaeth o waith y nofelydd.

Clawr y llyfrMae Richard R Evans yn mynd ymlaen i ddweud:
"Yr adeg honno, fe ddysgid y pwnc drwy bentyrru ffeithiau ar ben ffeithiau am ddyddiadau brenhinoedd Lloegr a dyddiadau rhyfeloedd ac ati.

"Rywsut fe deimlai nad oedd y pethau hyn wedi digwydd i bobl go-iawn. O ganlyniad byddai hi - wrth ateb cwestiynau - yn ceisio gwneud pobl yn fwy real gan roi tipyn bach mwy o gig a gwaed iddynt"

Cael ei beirniadu
A dyna, mae'n debyg eginfa nofelydd hanes gyda phwysicaf ein gwlad. Ond yn hytrach na chael ei gwerthfawrogi dod dan lach ei hathrawes fyddai hi yn yr ysgol.

"C芒i ei beirniadu am orysgrifennu, rhamanteiddio a brodio'r deunydd a gyflwynwyd iddi gan Miss Ida Jones, ei hathrawes hanes."

Yn ffodus i ni heddiw, ni ffrwynodd ei haddysg ei dychymyg ac ni chyfyngodd ar ei chreadigrwydd ac y mae ei dwy nofel am hanes y Crynwyr - Y Stafell Ddirgel ac Y Rhandir Mwyn - yn ddwy o nofelau hanes gorau'r Gymraeg.

Mae'r ddwy nofel, a phedair arall, yn cael eu trafod mewn manylder gan Richard R Evans yn y gyfrol ddiweddaraf i'w chyhoeddi yn y gyfres Ll锚n y Llenor gan Wasg Pantycelyn.

Yn byw ym Mhenrhyn-coch ger Aberystwyth enillodd Richard R Evans, sy'n dod o ardal Tabor ger Dolgellau yn wreiddiol, radd M.Phil am ymdriniaeth o nofelau Marion Eames a hithau'n amlwg yn nofelydd y mae'n edmygydd mawr ohoni.

Arweiniad gwerthfawr
Bydd y gyfrol hon yn arweiniad gwerthfawr i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr fydd yn astudio ei gwaith ond efallai braidd yn draethodol ei harddull at ddant y darllenydd cyffredin.

罢丑别尘芒耻
Nid yn unig mae'n trafod cymeriadau ac adeiladwaith ond hefyd them芒u.

"Ni does amheuaeth nad yw alltudedd yn nodwedd amlwg yn ei gwaith . . . pobl a gefnodd ar eu cynefin ac a adawodd Gymru yw arwyr ei nofelau cynnar, ac mae'r thema waelodol o'r angen am wreiddiau i'w chanfod yn ei chwe nofel Gymraeg i oedolion."

Ac fe gofiwn ninnau fod alltudiaeth y Crynwyr yn eu cymuned o fewn eu milltir sgw芒r yn ganolog i Y Stafell Ddirgel ac alltudiaeth wedyn ym mhellafoedd byd yn dilyn yr ymfudiad i Bennsylvania sy'n gefndir i Y Rhandir Mwyn.

At hynny, bywyd Cymry yn Lerpwl yw'r cefndir i'w thrydedd nofel , I Hela Cnau - cefndir y byddai Marion Eames yn bersonol gyfarwydd ag ef fel y mae Richard R Evans yn ein hatgoffa.

Straeon nid gwersi
Er mai nofelydd hanes yw hi creadigaethau llenyddol yw ei nofelau - ac nid gwersi hanes ar ffurf straeon ychwaith.

Y dychymyg a chreadigrwydd yw ei llawforynion fel sy'n anhepgor i'r llenor. Hynny a Chymraeg gymen.

Yn y cyswllt hwn mae Richard R Evans yn dyfynnu rhywbeth 芒 ddywedodd Kate Roberts:

". . . ddylai'r artist ddim defnyddio camera," meddai Kate Roberts. "Rhaid iddo beidio 芒 rhoi llun naturiol, dylai daflu'r hyn mae'n ei weld i'w ddychymyg, a gadael i hwnnw weithio."

Dyna, meddai Richard R Evans, "gamp" Marion Eames "wrth iddi lwyddo i greu cymeriadau credadwy a pheri bod realrwydd yn y sefyllfaoedd sy'n ei gwaith."

Bywiogi trafodaeth
Mae'n ein tywys hefyd at enghreifftiau yn ei gwaith sy'n dangos "sut mae dychymyg y nofelydd yn bywiogi trafodaeth yr hanesydd drwy ddefnyddio naratif ddisgrifiadol a deialog."

Yn hyn o beth y mae, wrth gwrs, yn cael ei hun ar ei ben yn y drafodaeth yngl欧n 芒 'hawliau'r ysgrifennwr creadigol i "frodio" digwyddiadau hanesyddol er lles y greadigaeth lenyddol a newid pethau er mwyn "llunio cyfanwaith pefr a lliwgar."

Meddai: "Er enghraifft, hyd y gwyddys, ni cheir cofnod i Lywelyn ap Gruffudd (gwrthrych Y Gaeaf Sydd Unig) fod yng Nghastell y Bere erioed, ond nid yw hynny'n ei rhwystro hi [Marion Eames], fel nofelydd, rhag ei wneud yn ymwelydd 芒'r lle. Byddai'n rhaid i rywun brofi i'r gwrthwyneb cyn y gallai wrthod y syniad," meddai.

Cors ddyrys
Ond mae hon yn gors ddyrys i gael eich tynnu i mewn iddi a'r cwestiwn yn codi yngl欧n 芒 pha derfynau sy'n rhaid eu parchu - yn enwedig o gofio na fydd y darllenydd, gan amlaf, mewn lle i wybod ai'r dychymyg sydd ar waith neu beidio.

Dyfais fuddiol
Un 'ddyfais' fuddiol yw cyflwyno cymeriadau newydd o fyd dychymyg i'r stori wir a diddorol yw gweld y feddylfryd y tu 么l i'r penderfyniad i beidio 芒 gwneud Llywelyn yn brif gymeriad Y Gaeaf Sydd Unigond yn hytrach greu'r ddau gymeriad , Tegerin a Mabli, i fod yn ganolbwynt y stori a hynny "yn rhyddhau'r awdur o orfod edrych dros ei ysgwydd, fel petai, a gofyn: 'Ydw i'n deg a hwn a hwn neu hon a hon?'"

Meddai Richard R Evans: "Cred Marion Eames ei bod yn iawn cyfeirio at y 'mawrion' go-iawn a dangos eu pwysigrwydd mewn hanes, ond mai tipyn o haerllugrwydd yw ceisio rhoi geiriau yng ngenau'r bobl hyn a dyfeisio pethau'n digwydd iddynt heb unrhyw sail ac eithrio bod yr hyn a briodolir iddynt yn gyson 芒'r wybodaeth a gasglwyd ganddi wrth wneud ei gwaith ymchwil."

Fel y gw欧r Richard R Evans a Marion Eames, nid pawb sy'n cadw'n driw i hynny ychwaith yn 么l mae rhywun yn ei gasglu y dyddiau hyn!

Yn nhraddodiad y papur arholiad - trafodwch, nid yn unig hyn ond bynciau eraill sy'n cael eu sbarduno gan y gyfrol fach fuddiol hon


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy