主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Martha Jac a Sianco
'Tyndra cefn gwlad mewn nofel bwerus'. Martha Jac a Sianco gan Caryl Lewis. Y Lolfa. 拢6.95.
Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2005

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.


Adolygiad Lowri Rees:

"Y nofel Gymraeg orau imi ddarllen erioed," meddai John Hardy ar Pnawn Da wrth ddisgrifio'r nofel Martha, Jac a Sianco.

Ac yn wir mae'r nofel wedi cyrraedd brig y siart a chael adolygiadau gwych yn Golwg a Barn.

Clawr y llyfrPob rheswm, felly, dros ddarllen nofel ddiweddaraf yr awdures o Geredigion - fel y gwnes i un nos Sadwrn yn ddiweddar.

Anodd credu i awdur mor ifanc ysgrifennu nofel mor bwerus ac aeddfed.

Gyda chymeriadau sy'n taro deuddeg mae Caryl Lewis - merch Doreen Lewis - wedi cyffwrdd 芒 chalonnau llu o ddarllenwyr.

Nofel yw hi am deulu o frodyr a chwiorydd yn gwrthod gadael y fferm deuluol rhag iddynt golli eu si芒r o hen arian eu cyndeidiau.

Er gwaethaf cariad mae'n well gan y tri frwydro ymlaen gyda'i gilydd na thorri'r llinyn bogel 芒 chartref y teulu.

Y tro cyntaf imi gyfarfod Caryl Lewis oedd ar faes Sioe Llanelwedd. Fi yn barod am noson allan a hithau'n fwd drosti yn dilyn gornest tynnu rhaff ac yn amlwg o gefndir amaethyddol.

Mae'r cysylltiad hwnnw a'r bywyd gwledig yn amlwg drwy'r nofel a hithau'n tynnu ar ei phrofiadau a'i deialog yn frith o eirfa a ffraethineb amaethyddol.

"Ti di clywed lot, glei," meddai Jac gan eistedd yn 么l. Weden i bod ti'n gwbod y blydi cwbwl."
"Na, na. Clywed nes i bod Jams lladd-dy wedi gorffod mynd a hi o'ma. Dim tethe da hi ar 么l."
"Brid newydd ti'n gweld, tit-less cow. Peth od na fyset ti di clywed amdanyn nhw, ti di clywed am bopeth arall."

Mae'r nofel yn ddwys iawn wrth drafod bywydau y prif gymeriadau: Martha, er enghraifft, y gallaf o'r tri ond yr un sy'n gwrthod ildio i'w anghenion ei hunan er mwyn gwarchod ei brodyr a'i hetifeddiaeth.

Mae Jac yn ffarmwr cadarn, cryf, gyda'i fywyd yn ymdroi o amgylch y ffarm nes iddo golli ei ben ar Judy, y Saesnes grafangus sydd wedi gweld y g诺r despret o bell, ac am ei flingo.

"Jac's been so kind to me."
Cododd Martha ei haeliau.
"He said I could keep my horses here if I liked. He's so sweet. That's where we met you see. I was buying feed at the..."
"We don't like horses," meddai Martha. "They contribute nothing to the farm."
"Tebyg i chi, te, Martha," wedodd Jac. Stopiodd Martha fyta.

Ac yna Sianco, y brawd bach, sy'n cael ei faldodi gan ei chwaer a'i ddwrdio gan ei frawd am ei fod fricsen yn fyr o lwyth.

Yn y nofel mae'r awdures yn cynnal diddordeb y darllenydd o'r dechrau i'r diwedd gyda chymysgedd o chwerthin uchel ar adegau a thristwch dwys dro arall yn cydio yn ein calonnau.

Nofel o benodau byrion yw hi gyda defnydd helaeth o symbolau.

Yn sicr mae rhywun yn ei chael yn hawdd cytuno 芒'r hyn ddywedodd John Hardy.

Ac fe fyddwn i'n annog unrhyw gwmni teledu sy'n chwilio am ddeunydd fynd ati i droi'r nofel wych hon yn ffilm.





Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad arall


  • cyfannwch

    C, Pontsian
    Arbennig o dda drwyddo draw! Teimlais fy mod ar clos y ffarm efo'r cymeriadau yma. Cytunaf bod hon yn nofel Gymraeg orau imi ddarllen hefyd - gobeithio daw mwy o rhain!



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy