主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Mae Rhywun yn Gwybod
Chwythu fflamau ymgyrch losgi
Adolygiad Gwilym Owen o Mae Rhywun yn Gwybod gan Alwyn Gruffydd. Gwasg Carreg Gwalch.

Mae'n anodd credu fod chwarter canrif wedi mynd heibio ers y bore hwnnw ym mis Rhagfyr 1979 pan ganodd y ff么n yn swyddfa HTV Cymru ym Mangor gyda neges fod t芒n wedi bod dros nos mewn bwthyn o'r enw Tyddyn Gw锚r ar Fynydd Nefyn.

Dywedodd y neges hefyd fod yna rywbeth tebyg wedi digwydd yn Sir Benfro.

Rhuthrodd Roger Richards, y g诺r camera, a minnau yno - a ni oedd y cyntaf i gyrraedd. Roeddem ni yno cyn i'r swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru ddod o hyd i'r lle.

Roedd Roger wedi cael ei luniau cyn i'r swyddog roi gorchymyn inni adael gan ddweud nad oedd stori yno. Mellten oedd wedi taro Tyddyn Gw锚r.

Neges arall
Ychydig yn ddiweddarach cafodd Roger a minnau neges arall a chawsom ein hunain yn S诺n y M么r, Llanbedrog.

Unwaith eto roedden ni yno o flaen yr un swyddog 芒'i ddynion.

"Mae'r mellt wedi bod yn brysur neithiwr," meddwn i wrtho. Ond doedd o ddim yn gweld y j么c!

Ond yr oedd yntau erbyn hynny yn dechrau gweld fod rhywbeth ar droed.

Roedd yr ymgyrch losgi tai haf wedi cychwyn.

Ymchwil manwl
A chroniclo hanes yr ymgyrch honno y mae Alwyn Gruffydd yn ei gyfrol, Mae Rhywun yn Gwybod.
A does dim dadl nad yw'r awdur wedi cadw cofnod gofalus o'r hyn ddigwyddodd yn ystod y degawd, a mwy, o losgi ledled Cymru.

Clawr y llyfr Ac ar y lefel honno mae'r gyfrol hon yn ddogfen hanesyddol bwysig ac yn dangos ymchwil manwl gyda chofnod o bron bob t芒n a fu.

I rywun fyddai'n dymuno mynd at i ddadansoddi lle'r ymgyrch losgi yn hanes Cymru mae gwaith Alwyn Gruffydd yn mynd i fod yn amhrisiadwy.

Ond go brin y gallai'r awdur na'i gyhoeddwyr ddadlau eu bod nhw wedi cyflwyno gwaith gwrthrychol yn y gyfrol hon.

Yn wir, mae'r cyhoeddiad yn f'atgoffa i o'r dyddiau hynny pan oeddwn i'n mynd i'r pictiwrs yn Amlwch erstalwm ar bnawn Sadwrn i weld ffilmiau cowbois.

Roedd yna gowbois da a chowbois drwg - a dyna fel mae hi yn y gyfrol hon.

Y cowbois da drwy'r stori ydi'r llosgwyr a'u cefnogwyr. Y cowbois drwg, yr heddlu - Heddlu Gogledd Cymru a'r heddlu cudd, yn ogystal ag unrhyw un a godai lais yn erbyn yr ymgyrchwyr.

A chan fod yr awdur yn ei ddisgrifio ei hun fel newyddiadurwr i'r 主播大秀 yn ystod y cyfnod, tybed na ddylai fod yn ymagweddu ychydig yn fwy eang ei olygon wrth drafod y digwyddiadau?

Wrth gwrs, roedd yna gydymdeimlad ymhlith gwerin Cymru 芒 gwaith y llosgwyr ond mi dybiwn i - fel un oedd yn newyddiadura yr un pryd ag Alwyn Gruffydd - fod mwyafrif pobl Cymru yn wrthwynebus ac yn ofni peryglon gweithredu o'r fath.

Fe garwn i fod wedi gweld peth o hynny yn y gyfrol hon.

Mae'r agwedd unllygeidiog yn cyrraedd penllanw pan yw'r awdur yn dychanu'r ddau fargyfreithiwr a oedd yn erlyn y triawd yn Llys y Goron yng Nghaernarfon.

Yr Arglwydd Martin Thomas yn cael swadan am ei fethiannau gwleidyddol ac nid yw Michael Farmer yn cael llawer gwell triniaeth tra bo'r tri oedd yn amddiffyn Sion Aubrey Roberts, Dewi Prysor Williams a David Gareth Davies, yn cael eu darlunio fel arwyr cyfreithiol.

Mae pethau fel hyn sy'n codi cwestiynau am hygrededd y dadansoddi yn y gyfrol hon.

Dau'n cyfarfod
Ac mae gen i ddau gwestiwn bach arall.
Yn gyntaf, mae'r gyfrol yn cychwyn gyda pharagraff sy'n ddirgelwch llwyr a'r awdur yn cyhoeddi fel ffaith ei fod o'n gwybod i ddau lanc gyfarfod ym Mhen Ll欧n y noson cyn i'r ymgyrch gychwyn.

Bwriad y ddau oedd rhoi ystyriaeth ddwys i weithredu'n uniongyrchol yn erbyn tai haf. Teimlai'r ddau nad oedd dewis arall. Teimlai'r ddau mai digon oedd digon. A llosgi tai oedd eu bwriad - fe wneir hynny yn gwbl glir. Ditectifs yn ymchwilio - un o nifer o luniau yn y llyfr

Ond cawsant eu goddiweddyd gan yr ymgyrch arall a barhaodd am flynyddoedd.

Pwy oedd y ddau yma? Ydi'r awdur yn gwybod? Yn amlwg mae 'rhywun yn gwybod'.
Dirgelwch rhyfedd ydi hwn.

Digwyddiad rhyfedd arall
A r诺an, digwyddiad rhyfedd arall na chaiff ei esbonio'n llawn yn y gyfrol.

Mae'n amlwg fod Alwyn Gruffydd wedi penderfynu ymweld 芒 Sion Aubrey Roberts yn y carchar yn Full Sutton yn Efrog.

Disgrifia hunllef y carchar mewn manylder; mae'n s么n am y trafferthion o gael ymweld 芒'r carcharor a'r gorchmynion oedd yn rhaid ufuddhau iddyn nhw.
Ond yna'n sydyn ynghanol sgwrs mae Sion Aubrey yn codi o'r gadair a gadael yr ymwelydd heb ddweud gair na ffarwelio - dim ond ymuno 芒'r swyddogion a mynd yn 么l i'w gell.

Nid yw'r awdur yn ceisio esbonio'r diflaniad swta.

Ond efallai fod Sion yn cofio'r bore hwnnw yng Nghaernarfon pan gafodd ei ddedfrydu ar ei ben ei hun i ddeuddeng mlynedd o garchar.

Fel y dywaid Alwyn Gruffydd yn ei gyfrol, bu degau o Gymry 'da' yn y Llys yn cefnogi'r triawd. Roedden nhw yno'n llawenhau pan ryddhawyd Dewi Prysor Williams a Gareth Davies.

Ond 芒 Sion Aubrey wedi ei gael yn euog ac ar y ffordd i'w gosbi doedd yna'r un copa walltog o honedig gefnogwyr yno.

Roedd o ar ei ben ei hun a neb eisiau cael eu gweld yn ei gwmni.

Ai talu'r pwyth yn 么l a wnaeth yntau y bore hwnnw yn Full Sutton?

Darlun manwl
Y mae cyhoeddi Mae Rhywun yn Gwybod wedi rhoi darlun manwl iawn inni o fanion yr ymgyrch losgi tai haf yng Nghymru ac mae lle i ddiolch i Alwyn Gruffydd am hynny.

Ond mae'n ddrwg gen i, mae ei ddadansoddiad a'i ganfyddiad o'r digwyddiadau hynny yn creu amheuaeth fawr yn fy meddwl i.

A taswn i'n gwbl onest, doeddwn i ddim yn hoffi ffilmiau cowbois 'chwaith!



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy