主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Rhagom
Ar daith drwy ddau ryfel
Adolygiad Catrin Jones o Rhagom gan Angharad Tomos, Gwasg Carreg Gwalch, 拢6.00

I gopa'r Wyddfa ar droad y mileniwm ac mewn car gyda hen wraig - dyna rai o'r teithiau yn nofelau blaenorol Angharad Tomos.

Wedi saith mlynedd o seibiant, braf yw gweld fod ganddi daith arall ar ein cyfer.

Taith drwy ddau ryfel byd a geir yn ei nofel ddiweddaraf, Rhagom, sy'n cwmpasu hanner canrif ac yn darlunio effaith y rhyfeloedd byd ar ddwy genhedlaeth o deulu'r awdures.

Brawd ei nain
Mae crynswth y nofel wedi ei seilio ar hanes bywyd brawd ei nain, William Henry Williams o Gaernarfon, ac yna Bethesda.

Dewisodd ef ymuno 芒'r fyddin gyda chriw o Gaernarfon ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. A dyddiaduron Gwilym, fel mae'n cael ei alw yn y llyfr, a'i brofiadau'n ymladd yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna ym Mhalestina yw tarddiad y nofel.

Clawr y llyfrAr ei dechrau mae ei nai, Gwilym Rhys, yn pendroni am hanes Yncl Gwilym Brawd Mam Wedi Marw, y llanc mewn lifrai yn y ffr芒m arian ar y silff ben t芒n.

Mae'n gyfnod yr Ail Ryfel Byd a chaiff Gwilym Rhys ei anfon i Balestina lle bu ei ewythr flynyddoedd ynghynt. Cyn mynd mae'n darllen llythyrau ei ewythr a daw'r "dyn melyn mewn iwnifform yn y ffr芒m ar y silff ben t芒n yn rhywun o gnawd ac esgyrn, ac wrth fyseddu'r cyfan, daeth stori anhygoel yn fyw...".

Eu hudo gan ryfel
Mae rhan helaeth y nofel yn canolbwyntio ar gyfnod Gwilym yn Ffrainc. Gwelwn sut y caiff ef a rhai o hogiau eraill Caernarfon eu hudo gan ramant y rhyfel.

Gwelwn eu cyffro a'u breuddwydion a gaiff eu dryllio ymhen dim wrth iddyn nhw ddod wyneb yn wyneb 芒 realiti'r sefyllfa.

Wrth i'r hogiau geisio ymdopi ag undonedd bywyd yn y gwersylloedd hyfforddi gwelwn effaith penderfyniad Gwilym ar weddill y teulu. Trwy lygaid ei chwaer Hannah gwelwn effaith y rhyfel ar deulu cyffredin yng Nghaernarfon.

Mae Hannah yn ferch annibynnol sy'n breuddwydio am gael teithio'r byd. A hithau ymhell o ffosydd Ffrainc gwelwn fod y rhyfel yn effeithio arni hithau hefyd a'i g诺r sy'n wrthwynebydd cydwybodol.

Mae'r tensiynau a ddeilliodd o'r rhyfel i gyd yn brigo i'r wyneb yma.

Nid yn hawdd
Rhagom yw nofel hanesyddol gyntaf Angharad Tomos ac mae'n debyg nad oedd ysgrifennu am ddigwyddiad a fu'n destun cymaint o lenyddiaeth yn ystod yr ugeinfed ganrif yn dasg hawdd.

Gyda llu o nofelau a ffilmiau eisoes wedi darlunio profiad milwyr cyffredin yn ymladd yn ffosydd Ffrainc roeddwn i'n amau a fyddwn i'n mwynhau nofel arall ar y pwnc - ond trwy ddilyn hanes un teulu mae Rhagom yn rhoi golwg llawer mwy personol ar y rhyfel ac Angharad Tomos yn llwyddo i gyfleu'r hunllef a brofodd dwy genhedlaeth, yn filwyr a phobol gyffredin.

Tasg anodd arall mae'n debyg oedd cynnal diddordeb y darllenydd wrth gyfleu'r ymladd. Gall darllen am erchyllterau bywyd yn y ffosydd fod yn faich yn aml ond mae'r awdures yn llwyddo gan fod y penodau am yr hogiau yn Ffrainc wedi eu gosod ochr yn ochr 芒'r penodau am fywyd y teulu yng Nghaernarfon.

Mae'r symud parhaus o'r ffosydd i strydoedd Caernarfon yn gweithio gan roi darlun cyflawn i ni o brofiad y rhyfel.

Creu cymeriadau
Hefyd, daw dawn arbennig yr awdures i greu cymeriadau difyr a'r ddeialog rwydd i'r amlwg yn y nofel fel yn ei gweithiau blaenorol.

Mae yma gymeriadau lliwgar fel Hen Walia, Chwech a Tre Go ac er gwaethaf eu sefyllfa mae yma ddigon o hwyl a chwerthin.

Mae'r ffaith fod y cymeriadau yn cael eu henwi ar 么l strydoedd Caernarfon unwaith eto yn pwysleisio mai hogiau cyffredin yw'r rhain a'r golled a brofodd y dref honno.

Heb weithio
Ond er imi deimlo ar y cyfan fod yr awdures wedi dygymod 芒'r grefft o ysgrifennu nofel hanes roedd ambell beth nad oedd yn gweithio yn fy marn i.

Ar ddiwedd yr ail bennod ceir adran dan y pennawd 'Ewrop, yn y cyfamser...', lle mae'r awdures yn nodi'r digwyddiadau a arweiniodd at y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae'n rhaid imi ddweud na welwn fawr o bwrpas i'r adran hon sy'n tarfu ar rediad y nofel.

A chan nad oes adran arall o'r fath yn y nofel mae'n sefyll fel rhyw atodiad diangen.

Ond dim ond ychydig dudalennau yw'r adran hon mewn nofel sy'n llwyddo i ddarlunio cyfnod a phrofiad un teulu. O erchyllterau maes y gad i ofidion y rhai sydd ymhell o s诺n y gynau mae'r awdures wedi llwyddo i ddod 芒'r gyflafan a ddigwyddodd bron i ganrif yn 么l yn fyw i ni heddiw.



cyfannwch

Guto, Ynys Mon
Mae'r llyfr yma wedi bod yn bleser i mi i'w darllen.



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy