主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Symudliw
Byr ac i bwrpas

Gwerthfawrogiad Lowri Wyn Roberts o Symudliw gan Annes Glynn. Gwasg Gwynedd.

Yr oedd Symudliw , cyfrol fuddugol y fedal ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd y llynedd gan Annes Glynn yn un cwbl wahanol i'r hyn a gafwyd o'r blaen.
Rydym oll yn gyfarwydd a'r stori fer - yn enwedig y clasuron gan rai fel Kate Roberts ond nid yw'r yw'r stori feicro a'i hysgrifennu'n gynnil mor gyfarwydd.

Hynny a wnaeth Symudliw, yn wahanol y gymysgedd yma rhwng cerdd a stori fer gyda'r pwyslais yn fwy nag erioed ar ddethol geirfa'n ofalus.

Yn wahanol i'r stori fer gyffredin nid oes unrhyw wastraff i'w weld yng ngwaith Annes Glynn ond ar y llaw arall does yna ddim, ychwaith, gyfle i'r awdur ddatblygu plot o fewn pob stori unigol sy'n aeddfedu wrth ddarllen ymlaen fel y gwelwn yn y stori fer draddodiadol.

Gall hyn am amharu'n fawr iawn ar farn rhai wrth ddarllen y gyfrol gan na theimlant eu bod yn cael gafael a blas pendant ar y stor茂au oherwydd eu byrder.

Peth arall i'w nodi yw cymysgedd arddull yr awdur, gwelwn gyflwyno nifer o'r stor茂au ar ffurf sgwrs ond mae eraill ar ffurf llythyr.

Ychwanega hyn amrywiaeth i'r gyfrol a rhoi rhywbeth sy'n addas ar gyfer dant pawb.

Hyd yn oed os nad yw pob stori yn taro deuddeg mae'n hynod o debyg y bydd nifer o rai eraill yn plesio'r darllenydd.

Ond wedi dweud hynny mae'n bosibl y bydd nifer sy'n ffafrio'r dulliau traddodiadol yn cwestiynu pwrpas y math yma o ysgrifennu ond, fy hun, rwy'n ffyddiog y byddent yn cael tr枚edigaeth ar 么l cael blas ar waith crefftus Annes Glynn.

Newidiadau dychrynllyd
S么n y gyfrol yma am y newidiadau dychrynllyd sy'n digwydd yn ein cymunedau heddiw a'u heffaith ar y gymdeithas Gymreig ac ar agweddau pobl. Egyr y gyfrol gyda dyfyniad sy'n graidd i'r holl stor茂au:
Er anwadalwch byd,
Yr un yw dyn o hyd.

Esbonia'r dyfyniad nad yw dyn yn newid mewn gwirionedd er bod y byd yn prysur ddatblygu o'i gwmpas a rhydd hyn deimlad o ofn i mi gan nad oes gobaith i ddyn newid er gwell o'r herwydd.

Tri phennawd
Yn ogystal 芒'r dyfyniad agoriadol ceir tri phennawd sy'n gwahanu'r stor茂au. Efallai fod y penawdau hyn yn adlewyrchu'r holl fathau o newid sy'n digwydd o fewn ein cymdeithas ac yn cyflwyno'r stor茂au o ran eu pwysigrwydd, ond nid wyf yn sicr beth oedd pwrpas defnyddio'r penawdau i fod yn gwbl onest.

Heb amheuaeth rwy'n si诺r y byddwch oll yn teimlo'n drist wrth ddarllen y gyfrol yma am gyflwr y gymdeithas heddiw a ffawd y dyfodol.

Mae'n sefyllfa druenus gyda'r iaith yn dirywio, Saeson yn herio ein pentrefi ac agweddau'r ifanc yn newid o fod yn ddiniwed i fod yn heriol.

Mae hi'n bechod gweld pobl yn torri eu calonnau wedi dirywiad perthynas a pheth truenus yw gweld merch ifanc yn ceisio ymddwyn a bod fel oedolyn cyn ei hamser - ond mewn realiti hynny sy'n gyffredin yn ein gwlad heddiw a dyma'r realiti y mae Annes Glynn yn ei bortreadu.

Cyfleu yn gynnil
Llwydda i gyfleu y newidiadau hyn mewn ffordd gynnil sy'n gwneud ichi feddwl ac ystyried yn bellach ond hefyd trwy ddefnyddio iaith sy'n addas ar gyfer y cyd destun ac sy'n galluogi'r darllenwyr i ddeall ei phwynt.

Er enghraifft, ceir defnydd pwrpasol o fratiaith Saesnig yn ambell stori fel Yn erbyn y ffactorau er mwyn pwysleisio'r agwedd ddigywilydd sy'n cael ei ddangos tuag at yr henoed heddiw:

"Don't understand you, Grandad. It's time you were in bed like the rest of this shitty Welsh village."

Yn ogystal, trwy ddefnyddio'r iaith Saesneg dengys yr awdur effaith y mewn lifiad ar ein cymunedau a'n hiaith.

Awgryma'r dyfyniad "We're the new fg kids on the block now" mai dyma'r dyfodol bellach. Mai hyn fydd y 'norm' a mae hynny'n ergyd i chi.

Ymhlith y stor茂au, fy ffefrynnau oedd, Ar werth, Iaith y Farchnad, Rhestru'r blaenoriaethau, Yn erbyn y ffactorau a Tu chwith.

Mae Ar werth, Iaith y farchnad ac Yn erbyn y ffactorau i gyd yn rhannu'r un thema o Saeson yn symud i gefn gwlad ac yn herio ein ffordd o fyw.

Ap锚l y stor茂au hyn yw eu bod yn berthnasol iawn i mi sy'n byw mewn ardal hardd sy'n bot m锚l i ymwelwyr Saesneg sydd wedyn yn dewis symud yno gan gwyno ar 么l ein bod yn siarad Cymraeg!

"Why do they insist on talking to us behind our backs in that ridiculous way."

Iaith y mwyafrif
Clywais innau yr un gwyn sawl gwaith, ond erbyn hyn mae'r sefyllfa'n dechrau newid yn fy mhentref i wrth i'r Saesneg droi'n iaith y mae'r mwyafrif.

Hefyd, gwelaf barch yr ifanc tuag at henoed y gymdeithas yn dirywio. Gallaf uniaethu'n llwyr 芒 geiriau Annes Glynn.

Rhaid imi gyfaddef nad oeddwn yn edrych ymlaen at baratoi'r adolygiad hwn ond o fynd ati gwir fwynheais ddarllen y gyfrol hon.

Nid yw'n un anodd i'w ddarllen ac mae'n berthnasol i bawb ohonom. Eisteddwch a mwynhewch hi.

Efallai ei fod yn ymddangos yn syml ac yn arwynebol ar yr olwg gyntaf, ond coeliwch chi fi mae'n gyfrol ddwys sy'n gwneud ichi ystyried cyflwr a dyfodol ein gwlad yw hon.

Cysylltiadau Perthnasol




cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy