主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Pin-yp
Dinoethi merched noeth
Adolygiad Glyn Evans o Pin-yp gan Janice Jones. Gwasg y Bwthyn. 194 tudalen. 拢7.

Pan gyhoeddodd merched Rylstone, Swydd Efrog, eu calendr noeth cyntaf ar gyfer y flwyddyn 2000 yr oedd y syniad o aelodau WI canol oed, parchus, yn ymddangos yn noeth ar galendr yn un beiddgar a gwreiddiol.

Calendr RylstonerMor wreiddiol, y codwyd 拢600,000 tuag at ymchwil leucaemia ac y gwnaed ffilm lwyddiannus o'r fenter yn 2003, gyda Helen Mirren a Julie Walters.

Baglu ar draws ei gilydd
Ers hynny, fodd bynnag, mae'n ymddangos bod pob yn ail sefydliad yn baglu ar draws ei gilydd, hyd syrffed, i gynhyrchu calendrau noeth o'r fath.

Yn sicr dydi'r syniad ddim yn un gwreiddiol mwyach ac mae ymhell o fod yn feiddgar.

Gyda hynny mewn golwg yr oedd rhywun yn troi at nofel gyntaf Janice Jones, Pin-yp sy'n s么n am aelodau Merched y Wawr pentref dychmygol Nant-yr-Onnen yn Sir Cedog (ydi'r -sillafiad bron yn aflednais yn fwriadol?) yn mynd ati i gynhyrchu calendr noeth er mwyn codi arian i achub y neuadd bentref.

Y cyfarfod lle codir y syniad yw cychwyn y nofel sydd wedi ei rhannu yn bennod ar gyfer pob mis o'r flwyddyn.

Mwy na hwyl
Ond mae Pin-yp yn amcanu at fod yn rhywbeth mwy na hwyl beiddgar a mentrus.

Er enghraifft gall rhywun ddychmygu sut y byddai rhywun fel Dafydd Meirion wedi trafod deunydd crai o'r fath a chymharu hynny a'r hyn a gawn yma ac yr ydym mewn bydoedd a chydag awduron gwahanol iawn i'w gilydd.

Nid doniolwch yw bwriad Janice Jones. Defnyddia hi'r achlysur yn gyfrwng i edrych y tu 么l i gyrtans ffenest y merched dan sylw gan ddinoethi, nid eu cyrff, ond eu bywydau.

Ac fe welwn fod Nant-yr-Onnen yn grochan o wewyr, angst, rhwystredigaethau, tensiynau a thyndra benywaidd.

Dydi bywyd fawr neb ddim yr hyn yw'n ymddangos ar yr wyneb.

Nant-yr-Onnen, debygwn i, yw'r lle olaf i fynd i chwilio am 诺r gan fod mwy nag un o'r merched wedi paru a dynion diarhebol o anystyriol a di-feind ohonyn nhw.
,br>Mae gwraig weddw ifanc yn teimlo tynfa at wraig arall; mae un arall sy'n briod a mochyn o ddyn yn troi am gysur at yrrwr ystyriol y llyfrgell deithiol!

Er gwaethaf y syniad canolog o aelodau syber Merched y Wawr yn dinoethi ar gyfer calendr nid nofel ddoniol mo hon ond un sy'n dadberfeddu priodasau a theimladau personol.

Ond dydi hynny ddim gyfystyr a dweud ei bod yn feichus. I'r gwrthwyneb.

Gormod o goflaid
Ac os oes bai o gwbl, y bai hwnnw yw fod yr awdur yn ceisio gwneud gormod gyda gormod o gymeriadau.

Er i 11 o ferched fod yn rhan o fenter WI Rylstone; pan aed ati i wneud ffilm am y digwyddiad dewiswyd canolbwyntio ar ddwy brif gymeriad gyda rhannau ymylol i'r gweddill ac fe lwyddodd hynny yn wych.

Mae Janice Jones, fodd bynnag, am roi yr un faint o sylw i bawb a hynny yn ei dro yn trethu ac weithiau'n cymysgu'r darllenydd.

Yr oeddwn i'n cael fy hun yn troi'n fynych i ddalennau - anhepgor - 12 a 13 lle mae'r oll oedd yn bresennol yng nghyfarfod misol tyngedfennol Clawr y llyfrMerched y Wawr Nant-yr-Onnen yn cael eu rhestru gyda brawddeg fer o ddisgrifiad.

"Marian Tomos, trysorydd y gangen a chyd-berchennog siop a llythyrdy Nant-yr-Onnen . . . Tina Roberts, cynorthwywraig y cylch meithrin, barforwyn ran-amser y Llew Coch, a morwyn lawn-amser i'w g诺r di-waith," er enghraifft.

Y tu 么l i'r disgrifiadau cryno hyn mae stori fwy wrth gwrs a'r straeon hynny yw cynnwys y nofel a ninnau'n dod i sylweddoli fod mwy i fywyd Caryl Harper, er enghraifft, na'i phwysigrwydd a'i chrandrwydd arwynebol a bod bywyd Phyllis Gruffydd gyda mochyn o 诺r yn hunllef a hithau yn gweld y cyfle i ymddangos mewn calendr yn "un weithred herfeiddiol" i ddial arno.

Ond byddai coflaid llai o gymeriadau wedi bod yn fwy effeithiol gan fod gormod o debygrwydd rhwng rhai sefyllfaoed a'i gilydd.

Ystrydebau
Mae'n nofel gyda rhywfaint o bregethu ynddi hefyd ac yr oedd yn rhywfaint o ofid gweld rhai ystrydebau fel pe byddent wedi eu codi yn syth o ddatganiadau Cymdeithas yr Iaith neu Cymuned yn cael eu defnyddio - "Roedd yn rhaid i rywun yn rhywle wneud safiad i warchod cymunedau cefn gwlad" - yn hytrach na gadael i ddigwyddiadau a stori gyfleu y pethau hyn.

I ferched
Go brin fod wiw dweud hynny y dyddiau hyn ond ni chredaf y byddwn yn annheg 芒'r awdur na darllenwyr yn dweud mai nofel sy'n mynd i apelio'n bennaf at ferched yw hon gyda'i gwyr anystyriol a'i gwragedd slaf.

Ond wedi dweud hynny, rydw innau'n digon balch i minnau gael cip ar fywyd o'r safbwynt hwnnw.

Cysylltiadau Perthnasol


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy