主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cof Cenedl
Dathlu pen-blwydd yn ugain oed
Mawrth 2005

Pan gyhoeddwyd cyfrol gyntaf y gyfres Cof Cenedl ugain mlynedd yr oedd y ganmoliaeth a'r croeso yn unfryd.

A thros y blynyddoedd go brin i'r un llais beirniadol gael ei godi yn erbyn y csgliad hwn o ysgrifau ar wahanol agweddau o hanes Cymru a olygwyd o'r cychwyn cyntaf gan Geraint H Jenkins, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth.

Nid yn unig llanwodd y gyfres fwlch pwysig ond gwnaeth hynny yn ddifyr yn ddiddan ac yn wybodus.

Geraint H Jenkins, canol, noson gyhoeddi'r ugeinfed gyfrol Dros yr ugain mlynedd cyhoeddwyd 120 o ysgrifau gan 107 o awduron - tair ohonyn nhw gan y golygydd ei hun.

Pa ffordd bynnag y mae rhywun yn edrych ar y peth mae'n gryn gamp - yn enwedig o gofio natur sgrifennu am hanes yng Nghymru cyn ei dyfodiad.

Meddai Geraint H Jenkins:
"Petai rhywun wedi proffwydo yng nghanol hirlwm y drefn Thatcheraidd y gellid rhwydo dros gant o bobl I lunio ysgrif yn Gymraeg ar gyfer cyfres ar hanes Cymru, prin y byddai neb wedi ei goelio.

"Tybid mewn sawl cylch y pryd hwnnw mai Saesneg oedd yr unig iaith briodol ar gyfer haneswyr Cymru."

Ac er ein body yn parhau dan gysgod y feddylfryd honno fe fu Cof Cenedl yn gyfraniad pwysig tuag at gyflawni'r hyn a ddisgrifia Geraint H Jenkins fel y dyletswydd o "ysgrifennu ein hanes yn ein mamiaith" a sicrhau fod "deunydd cyfoethog a darllenadwy ar gael ar gyfer ein pobl."

Arwydd o natur 'boblogaidd' y gyfres oedd y ffaith mai Ray Gravell oedd un o'r rhai a wahoddwyd i arwain parti dathlu ugain oed y gyfres yn Aberystwyth ar Ddiwrnod y Llyfr, Mawrth 3, 2005.

Chwiw beicio
Dros y blynyddoedd rhoddodd Cof Cenedl sylw nid yn unig i ffigurau mawr a phwysig ein hanes fel Owain Glynd诺r; Iolo Morganwg; Sion Cent, William Williams, Pantycelyn, David Lloyd George ond hefyd i bobl yr encilion a digwyddiadau y gwyddem lawer iawn llai amdanyn nhw fel dylanwad Billy Butlin; hanes gwrachod nodedig ac yn y gyfrol ddiweddaraf mae erthygl am y chwiw feicio a gododd ymhlith y Cymry yn y 1890.

Dros y blynyddoedd bu cyfranwyr nodedig yn eu meysydd hefyd; Yr Arglwydd Kenneth O. Morgan, John Davies a'r diweddar Gwyn Alf Williams; J. E. Caerwyn Williams a'r Dr R. Tudur Jones yn eu plith.

Dros y blynyddoedd bu Cof Cenedl yn driw i'r egwyddor ganolog na all cenedl ddeall na dehongli ei thynged heb ddeall ei hanes ac nad oes modd gwneud synnwyr o heddiw ac yfory heb ddeall ein doe.

Rhifynnau prin
Erbyn hyn mae'n ymddangos bod dwy gyfrol gyntaf Cof Cenedl yn llyfrau casgledig erbyn hyn.

"Mae'r rhifyn cyntaf hwnnw, ynghyd 芒'r ail yn y gyfres, wedi hen werthu gan fynd mor brin eu bod bellach yn werthfawr fel aur i gasglwyr y gyfres i gyd," meddai llefarydd o Wasg Gomer y cyhoeddwyr.

Cof Cenedl XX. Gol. Geraint H. Jenkins. Gwasg Gomer. 拢8.50

Cysylltiadau Perthnasol


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy