主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Nofelau ar CD
Mae fersiwn sain yn awr ar gael o'r nofel sy'n cael ei henwi'n gyson fel nofel fwyaf poblogaidd Cymru.


Cysgod y Cryman a ddewiswyd mewn pleidlais yn nofel y ganrif yn 1999 a phan ofynnwyd i bobol ifanc ar Ddiwrnod y Llyfr 2005 enwi eu hoff lyfr nofel gyntaf Islwyn Ffowc Elis, a gyhoeddwyd yn 1953, oedd ar ben y rhestr unwaith eto.

Erbyn hyn mae Cysgod y Cryman ar gael ar bedair CD yn cael ei darllen gan J. O Roberts.

Fe'u cyhoeddir gan gwmni Tympan.

Radio a theledu
Dywed J O Roberts iddo gael pleser arbennig o ail gydio yn y nofel a roddodd gymaint o fwynhad iddo ar hyd y blynyddoedd.

"Mae Cysgod y Cryman yn agos iawn at fy nghalon i," meddai.

A da iawn hynny gan iddo ei recordio ddwywaith o'r blaen - y tro cyntaf dan gynllun Nuffield i ddeillion gogledd Cymru ganol y chwedegau ac wedyn, ar gyfer y rhaglen radioO Glawr i Glawrar 主播大秀 Radio Cymru yn yr wythdegau.

Ef hefyd chwaraeodd ran Harri Vaughan, mewn addasiad radio cynnar o'r nofel a gynhyrchwyd gan Herbert Davies ganol y pumdegau.

Yna, mewn fersiwn teledu, Lleifior, chwaraeodd ran Edward Vaughan y tad, ar S4C ddiwedd y nawdegau.

Yr oedd Cysgod y Cryman yn un o bedwar llyfr llafar newydd a gyhoeddwyd gan Tympan ar gyfer mis Mawrth 2005.

Crynwyr Meirionnydd
Mae talfyriad o nofel gyntaf rymus Marion Eames, Y Stafell Ddirgel ar gael ar dair CD gyda Betsan llwyd yn darllen.

Yn cael ei chydnabod fel un o brif nofelau yr iaith Gymraeg mae Y Stafell Ddirgel yn olrhain hanes Rowland Ellis, Bryn-mawr, a chrynwyr Meirionnydd yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg.

Betsan Llwyd chwaraeodd ran Marged, ail wraig Rowland Ellis, mewn addasiad teledu o'r nofel ar S4C.

Gwobr gan Islwyn
Nofel y dywedodd Islwyn Ffowc Elis y byddai ef wedi hoffi ei sgrifennu yw nofel arall a recordiwyd.

Yr oedd Islwyn Ffowc Elis yn un o'r beirniaid a ddyfarnodd wobr i Alun Jones am Ac yna Clywodd S诺n y M么r, yng Nghystadleuaeth Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1978.

Yn gymysgedd o stori dditectif, stori ddirgelwch a stori garu yr oedd hon yn nofel gyntaf nodedig ac fe'i darllenir gan Llion Williams.

Dyddiadur merch
Stori ar ffurf dyddiadur yw Bywyd Blodwen Jones, nofel gyntaf mewn cyfres a ysgrifennwyd gan Bethan Gwanas yn arbennig ar gyfer dysgwyr.

Dyddiadur preifat merch sengl 38 oed, sy'n byw ar ei phen ei hun mewn bwthyn yng ngogledd Cymru ac yn dysgu Cymraeg. Ei breuddwyd yw priodi ei thiwtor Llew "hyfryd hyfryd" Morgan, a siarad Cymraeg yn iawn.


Gellir prynu'r CDiau mewn siopau llyfrau neu ar wefan
neu o

Cysylltiadau Perthnasol




cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy