主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Llyfr Lloffion Yr Ysgwrn
Cofio taith Tr锚n y Gadair Ddu
Adolygiad gan Glyn Evans o Llyfr Lloffion Yr Ysgwrn - Cartref Hedd Wyn. Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd, Gerald Williams a Rachel Wyn Jones. Llyfrau Llafar Gwlad 61. Gwasg Carreg Gwalch. 88 tudalen. 拢5.50.

Y dyddiau hyn, pan fo cymaint o bryderu ein bod mewn peryg o golli gafael ar ein gorffennol braf oedd darllen fod cymaint a 3,000 o bobl yn galw heibio hen gartref Hedd Wyn bob blwyddyn.

Clawr y llyfrGwir nad yw hynny yn nifer fawr o gymharu 芒'r niferoedd sy'n troedio muriau castell Caernarfon neu crwydro Gastell Coch, dyweder, ond y mae yn codi calon rhywun nid yn unig fod cymaint o ddiddordeb yn parhau yn hanes bardd a laddwyd ym 1917 ond hefyd bod ei deulu yn fodlon agor drws eu cartref personol i'r ymwelwyr hyn.

Wrth gwrs, mae'r stori am fardd ifanc yn cael ei ladd yn ffosydd Ffrainc cyn medru hawlio y gadair a enillodd mewn Eisteddfod Genedlaethol yn stori ramantus a thrist a fyddai'n cipio dychymyg unrhyw genedl.

Mab fferm yr Ysgwrn ger Trawsfynydd oedd Hedd Wyn ac mae'r olyniaeth deuluol - a'r cof amdano - yn parhau yno.

Gerald, mab i chwaer Hedd Wyn, sy'n ffermio yno heddiw a chadw fflam y cof am Fardd y Gadair Ddu ynghyn.

Mewn cydweithrediad ag ef y mae Gwasg Carreg Gwalch wedi cyhoeddi Llyfr Lloffion yr Ysgwrn yn y gyfres, Llyfrau Llafar Gwlad.

Detholiad byr, megis briwsion, yn lluniau ac yn eiriau, o lyfrau lloffion sydd yn Yr Ysgwrn ei hun yw cynnwys y llyfr gyda'r diolch am eu diogelu i Ellis Williams, nai Hedd Wyn.

Cyfrol ar 么l cyfrol
"Rachel Wyn Jones yn cyflwyno'r gyfrol i Gerald WilliamsMae wyneb yr hen ffermdy, a'r gegin a'r parlwr, yn ddigyfnewid ers dyddiau Hedd Wyn. Ar 么l croesi'r trothwy bydd Gerald yn ymestyn am gyfrol ar 么l cyfrol o lyfrau lloffion sydd wedi'u pentyrru ar y piano.

"Mae llythyrau gwreiddiol yn dyddio'n 么l i 1917 o fewn eu cloriau; hefyd ychwanegiadau diweddar gan englynwyr, grwpiau ysgolion ac ymwelwyr o bob cwr . . .

"Blas ar gasgliad mawr y llyfrau lloffion hynny sydd yn y gyfrol hon," eglurir wrth ddiolch i Gerald Williams am "gadw'r aelwyd yn aelwyd genedlaethol, er nad oes yr un corff cenedlaethol yn ei gefnogi i wneud hynny."

O ddarllen rhwng y llinellau mae rhywun yn synio fod yna yn Yr Ysgwrn ddigon o ddeunydd ar gyfer cyfrol llawer iawn mwy uchelgeisiol na hon a chawn ein hatgoffa hefyd fod llawysgrifau gwreiddiol yn Llyfrgell y Brifysgol, Bangor, ac yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth y gellid dwyn eu cynnwys i'n sylw.

Digon o feysydd i gynaeafu ynddynt.

Tr锚n y Gadair Ddu
Un o'r atgofion mwyaf trawiadol a'r mwyaf gwfreiddiol yn Llyfr Lloffion yr Ysgwrn yw disgrifiad Lucy Margaret Jones o'r tr锚n a gludai'r Gadair Ddu yn aros yng ngorsaf Glyndyfrdwy ar ei ffordd i Drawsfynydd.

"Llithrodd yn ddistaw ar hyd y platfform, ac yr oeddem ni blant wedi cael ein gosod yn yr union fan lle byddai cerbyd cauedig y Guard yn sefyll.

"Cawsom ein siarsio ymlaen llaw gan yr Orsaf Feistr i ofalu bod yn ddistaw, a pheidio siarad.

"Ymhen ychydig eiliadau agorwyd drysau'r cerbyd at allan, a daeth y Guard i'w gosod yn sefydlog. Tu mewn iddi cawsom gipolwg ar y gorchudd du, a oedd yn cuddio'r gadair!

"Yna aeth y dyn yn 么l, a sefyll ar yr ochr chwith iddi, a phlygu'r hugan yn araf a threfnus i ben uchaf y dodrefnyn hanesyddol, a ninnau blant wedi ein syfrdanu wrth weld ei harddwch, a'r cywreinrwydd.

"Munudau trist oeddynt, ac yr oedd y distawrwydd yn anhygoel, a bythgofiadwy.

"Heb ddim brys, aeth y Guard yn 么l gerllaw y Gadair fendigedig, a thynnu'r gorchudd i lawr drosti. Cauwyd y drysau a'r dyn tu mewn efo hi!"

Mae'n ddisgrifiad sy'n cydio - megis rhyw olygfa o ffilm neu nofel Rwsiaidd.

Y ffermdyFel y byddai rhywun yn disgwyl mae s么n mawr am y gadair yn y llyfr gan ei bod yn un go nodedig ar wah芒n i'r amgylchiadau yngl欧n 芒 hi.

Od o ddiddorol yw llun ohoni yn nodi'r holl symbolau a gerfiwyd arni ond, yn anffodus, nid yw'r un o'r lluniau yn ddigon eglur inni werthfawrogi'r manylder y crefftwaith yn iawn.

Llythyr deryn drycin
Diddorol hefyd yw'r llythyrau cydymdeimlad sy'n cael eu cynnwys.

Llythyr cydymdeimladRhai yn hynod o bersonol ond yr un o Eglwys Annibynnol Jerusalem, Blaenau ffestiniog, yn dra ffurfiol ac un arall o Gyfarfod Misol Gorllewin Meirionnydd yn ddim namyn ffurflen gyda bylchau ar gyfer yr enwau wedi eu llenwi mewn llawysgrifen!

Mae briwsionyn blasus yn llythyr Bob Owen (Croesor) sy'n rhoi cip inni ar fywyd cecrus y deryn drycin hwnnw.

Wedi dweud iddo anfon tri llythyr oddi wrth "edmygydd mawr o'ch annwyl fab" at yr Herald mae'n ychwanegu:

"Buaswn wedi eu hanfon i'r Rhedegydd onibai fy mod yn ofni braidd na chaent ymddangos, oblegid bu ffrwgwd fach cydrhyngddof 芒'r golygydd ers rhyw ddeufis yn 么l. Hwyrach y gyrrwch chwi hwynt iddo . . ."

Na, dydi'r hen Gymru fach heb newid rhyw lawer!

Mae cymaint o sgwarnogod y gellid eu codi yn y gyfrol ni fyddai rhywun byth yn dod i ben ac, yn wir, digon yw dweud ei bod mor flasus ag i fod a blas mwy arni.

Tybed a fydd hynny yn fodd i berswadio Carreg Gwlach i feddwl am gyfrol mwy uchelgeisiol - er bod rhywun am wneud ei orau i osgoi'r ymadrodd bwrdd coffi mewn cyd-destun mor werinol dyna sydd gen i mewn golwg!



cyfannwch

Nia Parry o Dremeirchion
Oes gan unrhyw un llun o Hedd Wyn a'i deulu i gyd os gwelwch yn dda?



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy