主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Pair Dadeni
Hanes Gwyddelod gwersyll y Fron-goch
Gwersyll ym Meirion arweiniodd at wrthryfel yn Iwerddon

Adolygiad Dafydd Meirion o Y Pair DadeniHanes Gwersyll y Fron-goch ganLyn Ebenezer. Gwasg Carreg Gwalch. 拢6.95.

"Y Fron-goch oedd y crochan dadeni a adfywiodd yr IRA. Fe fyddwn i'n mynd mor bell 芒 mynnu mai'r Fron-goch wnaeth epilio'r IRA." Clawr y llyfr

Dyna ddywed Sean O Mahony yn ei gyfrol Frongoch, University of Revolution, sef un o ddim ond dau lyfr a ysgrifennwyd am y Gwyddelod a gymrodd ran yng Ngwrthryfel 1916 - a arweiniodd y pendraw i ryddid 26 sir - ac a garcharwyd yn y Fron-goch ger Y Bala.

R诺an mae yna drydydd.

Y syndod yw bod yna gyn lleied wedi ei ysgrifennu am y lle a'r gwersyll sydd, yn 么l pob s么n, wedi chwarae rhan hanfodol yn y frwydr i gael rhyddid i'r rhan fwyaf o Iwerddon.

Paratoi'r tir
Mewn cyfnod byr ym Meirionnydd, dywedir, "y paratowyd y tir ar gyfer Rhyfel Annibyniaeth, y Rhyfel Cartref a sefydlu Talaith Rydd heb s么n am sefydlu hefyd Fianna Fail, y Cumann na nGaedheal (Cymdeithas yr Iaith Wyddeleg) ac, yn ddiweddarach, Fine Gael."

Ceir yma, nid yn unig hanes y gwersyll ond hefyd hanes y frwydr o 1916 ymlaen am ryddid i Iwerddon, ac mae'r awdur yn gyson yn cyfeirio at ran y rhai a gafodd eu carcharu yn y Fron-goch yn y frwydr.

Neb llai na Michael Collins a ddefnyddiodd ei gyfnod ger Y Bala, nid yn unig i geisio dysgu rhywfaint o Wyddeleg, ond hefyd i osod y seiliau ar gyfer y frwydr yn erbyn y Saeson.

Wedi methiant Pasg 1916, fyddai yna ddim mwy o ddynion mewn lifrau yn meddiannau adeiladau yn Nulyn.

Na , tactegau ymosod a chilio fyddai'n cael eu defnyddio, tactegau a gafodd eu defnyddio'n ddiweddarach gan wrthryfelwyr drwy'r byd, yn amrywio o Che Guevara i Mao a Menachem Begin.

Sandhurst a West Point!
Dywedir i dactegau lluoedd Collins - y rhai a ddyfeidiodd yn y Fron-goch - gael eu hastudio yng ngholegau milwrol Sandhurst a West Point.

Sylweddolodd Collins yma hefyd bwysigrwydd cael gwybodaeth am y gelyn ac wedi dychwelyd i Ddulyn ffurfiodd fyddin o ysbiwyr i gael y gorau ar luoedd Prydain.

Y gwersyllNid Collins oedd yr unig un wnaeth ei farc wedi gadael y Fron-goch. Enwir sawl un arall a ddaeth yn amlwg ym Myddin Gweriniaethol Iwerddon ac aeth sawl un yn TD - aelod o senedd Iwerddon - heb s么n am fod yn llywyddion eu gwlad.Cysylltiadau Cymreig
Er hynny, yr hyn sy'n ddiddorol i ni yw'r cysylltiadau Cymreig.

Daeth y Gwyddelod yn gyfeillgar 芒'r Cymry lleol oedd yn gweithio yn y Fron-goch - gan gynnwys Bob Tai'r Felin.

Rhyfeddai sawl un o glywed y Cymry yn siarad Cymraeg mor naturiol ac o weld arwyddion dwyieithog ar orsafoedd tr锚n.

Aeth y Gwyddelod ati i ddysgu Gwyddeleg yn y gwersyll a rhai yn mynd ati i ddysgu Cymraeg hefyd gyda chymorth Geiriadur Spurrells a chardiau dysgu'r Methodistiaid i blant.

Mewn gwlybaniaeth
Roedd y bobl leol yn teimlo dros amgylchiadau'r Gwyddelod yn y gwersyll.

"Doedd o ddim yn lle i fod fel j锚l i'r carcharorion o gwbl," meddai Robert J Roberts o'r Bala a fu'n gweithio yno.

"... roedd y lle mor wlyb ac mor damp, roedd o'n bechod. Roedd o'n arw iawn gen i fod y Gwyddelod yn gorfod cysgu mewn gwlybaniaeth ... Ddim bwyd iawn oeddan nhw'n gael. Bara du a thatws fyddai'r rhan fwyaf o'u bwyd nhw."

Ac roedd y lle'n berwi o lygod mawr.

Beirniadu
Ond doedd pawb yng Nghymru ddim yn cefnogi gwrhydri'r Gwyddelod.

Yn rhifyn Awst 1916 o Cymru beirniadu Syr Roger Casement a smyglodd arfau ar gyfer Gwrthryfel y Pasg mae O M Edwards,
"... mae bradwriaeth yn bechod anfaddeuol pan fydd bywyd cenedl [sic] mewn perygl."

Roedd O M Edwards hefyd yn feirniadol o erthygl gan D J Williams mewn cylchgrawn myfyrwyr oedd yn cefnogi gwrthryfel y Gwyddelod.

Ac mae'r awdur hyd yn oed yn awgrymu fod Dora Herbert Jones, yr arbenigwraig ar ganu gwerin Cymreig, yn ysb茂wraig i'r Saeson yn Iwerddon ac y gallai hi fod ar restr Collins o rai oedd i gael eu dienyddio!

Streic newyn
Mae pennod ddifyr iawn gan yr awdur tuag at y diwedd am gysylltiadau Cymru 芒'r gwrthryfelwyr Gwyddelig.

Yr oedd y lle yn berwi o lygod mawrMae'n nodi un o arweinwyr y glowyr fu'n hyfforddi'r Irish Citizen Army ac yn s么n am Lewis Valentine a myfyrwyr Bangor yn sefyll mewn parch ar blatfform gorsaf y ddinas wrth i gorff Terence MacSwiney - Maer Corc ac un a fu'n garcharor yn y Fron-goch - gael ei gludo adref i Iwerddon wedi iddo farw wedi 74 diwrnod ar streic newyn.

Eu rhyddhau
Saith mis a hanner fu'r 1,800 yn y Fron-goch, a dywedir mai'r rheswm iddyn nhw gael eu rhyddhau oedd fod Lloyd George eisiau plesio'r Americanwyr gan obeithio y bydden nhw'n ymuno 芒'r rhyfel yn erbyn yr Almaenwyr.

Dychwelodd y Gwyddelod gan fynd ati i roi'r hyn y buon nhw'n ei drafod yn y Fron-goch ar waith a llwyddo i gael y Saeson, dan arweiniad Lloyd George, i'w gwahodd i Lundain i drafod hunanlywodraeth.

Collins oedd yn arwain y trafodaethau, ond wedi iddo ddychwelyd i Iwerddon gyda chytundeb Lloyd George oedd yn cadw chwe sir y gogledd yn rhan o Brydain datblygodd rhyfel cartref rhwng y rhai oedd o blaid y cytundeb a'r rhai oedd yn ei wrthwynebu.

Lladdwyd Collins gan hanner dwsin o filwyr oedd yn erbyn y Cytundeb, yn eu plith un oedd gydag o yn y Fron-goch, a cheir sawl enghraifft o filwyr gwrth-Gytundeb yn cael eu lladd a'u dienyddio gan rai fu gyda nhw yn y gwersyll yng Nghymru.

Criw arall
Ond nid 1916 oedd yr unig dro i griw o Wyddelod ddod i wersyll ar lan yr afon Tryweryn.

Yn 1960, Gwyddelod oedd mwyafrif y rhai fu'n gweithio ar y cynllun i greu cronfa i gyflenwi dwr i Lerpwl, a'r rheiny'n codi eu cabanau ar fwy neu lai union leoliad gwersyll 1916.

Cafwyd llythyr o gefnogaeth gan Eamonn de Valera, Arlywydd Iwerddon ar y pryd - ond na fu yn y Fron-goch, i'r rhai oedd yn gwrthwynebu'r gronfa.

Ond yn eironig, fel y noda'r awdur, codwyd cofeb tairieithog ar safle'r gwersyll i gofio am y Gwyddelod yn y Fron-goch, cofeb y talwyd amdani gan gangen Lerpwl o Conrad na Gaeilge

.Mae hwn yn llyfr yr oedd gwir angen amdano. Nodir yma bwysigrwydd y gwersyll yn y Fron-goch i Iwerddon rydd.

Yma yr heuwyd y chwyldro, yma y taniwyd llawer o'r arweinyddion ac yma y ffurfiwyd yr IRA.

Lyn EbeneserOs oes yna unrhyw feirniadaeth o'r llyfr, y feirniadaeth honno yw fod y bennod ar ystad y Rhiwlas - ar ble codwyd y gwersyll, er mor ddifyr yn ei hun, yn rhy hir ac efallai yn amherthnasol.

Ac mae yna ddwy neu dair tudalen wedi cael eu hailadrodd - tudalennau'n rhestru'r carcharorion.

Mae yma 么l gwaith trylwyr, gwaith sydd wedi cymryd dros ddeng mlynedd ar hugain.

Mae'r awdur wedi cyfarfod rhai fu yn garcharorion yn y gwersyll, mae wedi darllen a holi yn helaeth. Mae'n arbenigwr ar ei bwnc ac mae'r llyfr yn sicr yn un y dylai unrhyw un sydd 芒 diddordeb yn Iwerddon ei brynu.

Cysylltiadau Perthnasol



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy