主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Sm么c Gron Bach
Argraffiad newydd sbon 2005
Adolygiad Lowri Rees o argraffiad newydd o Sm么c Gron Bach. Y Lolfa. 拢6.95.

Mae'r profiad o ddarllen y nofel Sm么c Gron Bach yn parhau yn fyw yn y cof er iddi gael ei chyhoeddi gyntaf dros ddeng mlynedd yn 么l, ym 1994 - a minnau yn dal yn fyfyrwraig ar y pryd.

Clawr y llyfr Ac er bod hwnnw'n gyfnod anodd iawn cydio mewn llyfr a'i ddarllen i'w ddiwedd, llwyddodd Sm么c Gron Bach i ddal fy niddordeb o'i dechrau i'w diwedd a braf iawn oedd gweld Y Lolfa yn argraffu'r nofel o'r newydd yn awr gan fy sbarduno i droi at y gwaith eto i weld a yw'n dal i blesio.

Yr ap锚l yn parhau
Ac, yn wir, mae'n ap锚l yn parhau a phwnc y nofel mor berthnasol ag erioed yn ymdrin 芒 thrais, rhyw a llosgach.

Mae'r stori yn troi o gwmpas cymeriadau stryd Crychlyn Uchaf, pedwar tŷ^ traddodiadol Gymreig - mewn rhes, gyda dwy ffenest llofft, ffenest barlwr i lawr y grisiau, a drws ffrynt i bob un ac, fel y dywedir yn y broliant, gyda chymysgfa dra gwahanol o gymeriadau yn byw ynddynt.

Colli mab
Caiff y darllenydd ei gyflwyno'n araf i holl gymeriadau Crychlyn Uchaf gan gychwyn gyda Tom a Martha Ellis yn rhif pedwar sydd wedi bod yn briod am bymtheng mlynedd ar hugain , ac wedi colli eu mab, Gron Bach, yn ystod y cyfnod hwn.

Ceir disgrifiadau byw iawn o fywyd y ddau - nhw sy'n cynrychioli'r Cymry cyffredin yn y nofel.

"Yn y munudau hyn, roedd amser yn aros yn stond i Tom. Wedi'r ddefod o lunio llinyn tew brown ar ei bapur Rizla, a rhoi llyfiad sydyn 芒 blaen ei dafod i gaethiwo'r baco yn ei sm么c, roedd yn amser am y taniad cynta'.
"Ni syflai ei lygaid o ryw smotyn anweledig filltiroedd lawer draw. Yr unig arwydd o fywyd o'i gwmpas oedd ambell gwmwl o f诺g a phan grwydrai ei feddwl at Gron Bach, gloywai'r llygaid am ennyd a deuai'r hunllef y nosweithiau enbyd hynny i gof."

Drwy Tom cawn ein cyflwyno i Padi, rhif dau, llipryn main, tal, hefo dannedd cwningen, plorod a sbectol pot jam, ac mae'n synnu'r darllenydd pan fu iddo ddenu llygad Tracey, merch y Cynghorydd Winstone Mason.

Yn rhif un mae Magi Sent a'i mab Robat John yn byw - y ddau yn berchen siop y pentref.

Bron nad yw'r darllenydd yn cydymdeimlo 芒'r mab am iddo fod yn byw dan amgylchiadau eithaf sinistr a'i fagwraeth wedi creu dyn gwan sydd yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn y cwt yn sbecian gan fyw mewn byd o freuddwydion ff么l am Tracey.

Ond mae landlord rhif dau a rhif pedwar, y Cynghorydd Mason, yn arglwyddiaethu dros y rhes i gyd ac mae cynlluniau a'r droed i droi Crychlyn Uchaf yn stiwdio deledu a hynny heb unrhyw ystyriaeth i fywydau a theimladau unigolion y rhes.

Yn amlwg mae'r diweddar Eurig Wyn wedi defnyddio a chreu gwahanol gymeriadau nodweddiadol o'r gymdeithas gyfoesl.

Mae gan bob ardal ei Tom Saer ei hunan, y dyn call, cyfrifol, egwyddorol, y Magi Sent sydd yn bowdwr a cholur i guddio hen bechodau ei bywyd yn arbennig ei pherthynas losgach 芒'i mab, ac, wrth gwrs, y Winstone Mason, y cynghorydd sy'n credu bod arian yn prynu pob dim ac yn teyrnasu dros y rhes a'r ardal.

Mae Sm么c Gron Bach yn nofel afaelgar, hawdd ei darllen.

Ac er bod deng mlynedd ers ei chyhoeddi gyntaf mae'n parhau yn gwbl gyfoes a pherthnasol.

Cefais . fwynhad mawr o'i darllen eto a phrofi'r un wefr ag arfer wrth ddarllen unrhyw beth gan y diweddar Eirug Wyn.

Gwerthu'r cyfan
Gwerthwyd yr holl gop茂au o'r argraffiad cyntaf o fewn ychydig fisoedd iddo gael ei gyhoeddi a bu'r llyfr allan o brint ers hynny.

Cafodd y nofel ymateb gwych pan y'i cyhoeddwyd yn Awst 1994 gyda Golwg yn ei disgrifio fel:
"Nofel dditectif, stori serch erotig, dadansoddiad cymdeithasol, sylwebaeth ddeifiol ar stad ein eiconau cenedlaethol cyfoes, comedi, trasiedi... Mae'r hyn sy'n weddill ar y diwedd yn codi'r nofel i lefel uchel iawn sy'n llwyddo i gyffwrdd yn emosiynol."

Dywedodd Y Lolfa i nifer o ysgolion fod yn holi am gopiau Yn sgil y ffaith fod nofel arall gan Eirug Wyn, I Ble'r Aeth Haul y Bore ar faes ysgolion uwchradd.

Yn gynharach eleni bu'n rhaid i'r Lolfa ail-argraffu cyfrol goffa Eirug Wyn, Cofio Eirug wedi i'r 2,000 copi a argraffwyd gael eu gwerthu yn syth.

Cysylltiadau Perthnasol



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy