主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Fel Mwclis
Cadwyn o atgofion synhwyrus
Adolygiad Caron Wyn Edwards o Fel Mwclis gan Mary Hughes. Gwasg y Bwthyn. 拢5.95.

Fel Mwclis, teitl hynod addas i gyfrol sy'n bytiau o atgofion a phob un fel perl neu em ar gadwyn.
Dyma geir yng nghyfrol ddiweddaraf Mary Hughes.

Clawr y llyfrYn addas efallai, 芒 hithau'n gyn enillydd coron yr Urdd, a ninnau'n edrych ymlaen i'r Eisteddfod yng Nghanolfan y Mileniwm draw ym Mae Caerdydd dros wythnos Sulgwyn.

Trwy lygad plentyn
Dyma'r wythfed cyfrol o'i llaw, ac mae Fel Mwclis yn edrych yn 么l ar bethau trwy lygad plentyn, gan fynd 芒 ni'r darllenwyr yn 么l i ddiwedd y Pedwardegau a'r Pumdegau yng nghymdeithas Arfon.

O afon Gwyrfai yn y mynyddoedd ar draws at Ddyffryn Nantlle - dyma fyd plentyndod yr awdures.

Atgofion merch fferm sydd yma - merch fferm yng ngogledd ddwyrain Cymru ac er y byddai'n apelio mwy at y bobl sy'n tarddu o'r cyffiniau hynny, mae hon hefyd yn nofel goeth sy'n berwi o gyffelybiaethau a throsiadau, 芒'r rheiny'n tasgu i bob cyfeiriad.

Yn wir, yn y cyflwyniad o gydnabyddiaeth ar ddechrau'r gyfrol dywed yr awdur, "Roedd hon yn gyfrol oedd yn mynnu cael ei 'sgrifennu, a'r atgofion yn sboncio i'r wyneb o hyd ac o hyd."

Ei mam
Mae'n amlwg o sensitifrwydd y 'sgwennu a sensitifrwydd y dweud, fod y testun yn agos iawn galon at yr awdur a chanddi'r ddawn o gyfleu sefyllfaoedd, ac o wneud hynny mewn ffordd fyw sy'n peri i'r darllenydd dybio ei fod ef neu hi yn rhan, neu o leiaf yn dyst, i'r datblygiadau sy'n mynd rhagddynt.

Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i ddawn dweud Mary Hughes a'r ieithwedd fyw a ddefnyddia - o'r disgrifiad o'i pherthynas 芒'i mam:
"Mae mam yn tylino fy nhraed yn ei barclod." (t 18)

Yn y frawddeg fer yna o ymson, cawn wybod yn union y berthynas rhwng y siaradwr a'r fam.

Yn yr un modd y mae ei darluniau o fyd natur wastad yn fyw ac yn lliwgar - disgrifiadau megis yr afon yn llifo yn "wyrdd, foliog o dan y bont" gyda'r ansoddair annisgwyl yn dod 芒'r darlun yn fyw o flaen y llygaid.

Felly hefyd y disgrifiad hyfryd, synhwyrus, o gi'r teulu pan oedd yr awdur yn ferch ifanc.

Hen gi ydoedd, "hen gi nobl efo blew llac llwyd ac un llygad o liw gwahanol i'r llall. Yr oedd yn ddigon bodlon i mi gael reid ar ei gefn llydan, ac y mae gen i ddarlun yn fy mhen ohono yn gorwedd ar deils y gegin yn llyfu ei draed gan wneud s诺n snychian dros y lle..." (t.10)

Synhwyrus
Mae'r ieithwedd a ddefnyddir ganddi'n apelio at bob un o'r pum synnwyr.

Y glust gyda, "s诺n raspio bwyta'r anifeiliaid" ac "esgidiau hoelion yn clecian ar gerrig y buarth"; a'r ffroenau, "Ffroeni aroglau sur-gynnes y stabal ac aroglau cynnes y gwartheg a'r gwair, arogl rwdins a mangolds..." yn ogystal 芒'r synhwyrau eraill.

Fel yr 芒'r gyfrol rhagddi, cawn gwrdd 芒 rhagor o aelodau'r teulu, gan gynnwys ei hewythrod a chaiff hyn ei wneud yn gywrain ac yn gytbwys.

O Huw, 芒'i "st么r o wybodaeth ddiarffordd ac annisgwyl, ac weithiau heb hanner ei dreulio", i Jac "y cym锚r o frodyr fy mam, yn pitran a phatran 芒 pheiriannau ac yn dyfeisio pethau" gyda'i "lais mawr, dwfn, a hwnnw'n gras gan Wdbein".

A Bob wedyn, Bob oedd yn "cario straeon y gymdogaeth adref i'r lleill".

Adnabod ei phobl
Heb os nac oni bai, mae'r awdur yn adnabod y cymeriadau hyn tu chwith allan.

Daw hynny'n amlwg o'r pytiau o ddeialog a gyflwynir. Sgyrsiau megis geiriau Wil wrth iddo ddisgyn oddi ar y landar, gan weiddi: "Arglwydd mawr, arbad fi," ac o beidio cael achubiaeth, "Y cachwr uffar!"

Agwedd plentyn
Yn yr un modd mae'r awdur yn llwyddo i ddal agwedd plentyn mewn sawl modd.

Daw'r cyntaf ar ddechrau'r gyfrol, gyda'r disgrifiad o Gel, y ci teulu unwaith yn rhagor.

Dywed yr awdur yr arferai ddweud pan yn ifanc, pan oedd Gel yn llyfu ei bawennau ei fod yn "byta'i draed". Mary HughesDelwedd fendigedig sy'n dod yn syth o fyd plentyn ac yn cyfleu darlun cwbl fyw ym meddwl y darllenydd.

Mae'r gyfrol yn gyforiog o enghreifftiau o'r fath.
Un arall sy'n aros yn y cof yw'r atgof o glywed y fam yn "rhugno'r gr芒t". Eto, mae'r symlrwydd yn ychwanegu at effeithiolrwydd y dweud.

Fy nghwyn am y gyfrol yw'r golygu, fodd bynnag.
Yn gwbl wallus, ceir hirnodau bron bob yn ail air! Mae hirnod ar eiriau megis "c么f", "b么d" a "gl芒s", i enwi dim ond tri allan o sawl dwsin, yn gamgymeriadau elfennol na ddylai'r un gwasg ei wneud.

Fodd bynnag, serch y gwallau ieithyddol yn y nofel, fyddwn i ddim yn oedi cyn ei hargymell i unrhyw un, ac edrychaf ymlaen at ddarllen y nesaf gan Mary Hughes.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy