主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Yn Nes at Baradwys
Broliant i'w ganmol
Adolygiad Caron Wyn Edwards o Yn Nes at Baradwys - goreuon Stori Fer Radio Cymru. Golygydd: Angharad Dafis. Carreg Gwalch. 拢6.50.

Anaml yr wyf yn canfod fy hun yn talu unrhyw sylw i'r 'blyrb' ar gefn cyfrol o ryddiaith ddiweddar ond rhaid cyfaddef imi gytuno gant y cant 芒 phwy bynnag sy'n berchen ar y geiriau ar gefn Yn Nes at Baradwys.
Maent yn llygaid eu lle.

Clawr y llyfr Yn 么l y geirda hwnnw, ceir yma gyfrol o ddeuddeg stori sydd yn "well na dwsin o wyau ac yn fwy amrywiol hefyd."

Ychwanegir, "Nid oes yr un clwcyn eu plith ac er bod dyddiad dodwy wedi ei argraffu ar bob 诺y, ni bydd terfyn ar y blas y cewch arnynt."

Mae'n ddweud mawr, ond nid un heb ei haeddiant.

Yn wir, y mae pob un o'r straeon yn ennill eu plwyf, ac er imi ganfod fod rhai ohonynt, wrth reswm, yn fwy at fy nant nag eraill canlyniad chwaeth bersonol oedd hynny.

Gallwn werthfawrogi ac edmygu'r dawn dweud ymhob un ohonynt.

Ffrwyth cystadleuaeth
Mae hi'n gyfrol eithaf anarferol o fewn traddodiad llenyddol y dyddiau hyn ac yn sicr dyma'r gyntaf o'i bath yn y Gymraeg ers tro.

Cystadleuaeth a osodwyd gan raglen 主播大秀 Radio Cymru, Y Celfyddydau, oedd y symbyliad a chyda'r grafitas llenyddol a gynigiai'r tri beirniad, Aled Islwyn (Sara Arall, Nid yw Seth yn Angel, Unigolion, Unigoleddau) Angharad Price (O Tyn y Gorchudd, Tacsi i'r Tywyllwch) a Robin Llywelyn (Un Dydd yn yr Eisteddfod, Seren Wen ar Gefndir Gwyn, O'r Harbwr Gwag i'r Cefnfor Gwyn), roedd y disgwyliadau'n uchel.

Ac ni siomwyd.

Yn gymysg oll i gyd
Mae yma awduron sefydledig ochr yn ochr ag ysgrifenwyr llai adnabyddus ac enwau cwbl newydd yn gymysg oll i gyd, ac wedi eu dyfarnu ar sail y darn penodol hwn o waith, a hynny'n gwbl anhysbys i'r beirniaid.

Ymhellach, mae pob un wedi hawlio eu lle ymysg tudalennau'r gyfrol oherwydd eu dawn dweud a'u gallu i grefftio geiriau, yn gwbl annibynnol ar unrhyw sail arall.

Nid tasg hawdd fyddai cyfuno cymaint o leisiau ac arddulliau gwahanol mewn un gyfrol a bu'r newid cywair a'r newid arddull yn rhywfaint o boendod i mi ar brydiau - yn enwedig ar yr adegau hynny pan wyf yn symud o waith awdur y cefais flas aruthrol arno at waith awdur arall.

Serch hynny, anaml iawn y ceir y fath wledd o antholeg hyd yn oed yn y Saesneg heb s么n am y Gymraeg y dyddiau hyn - felly ni ddylid cwyno'n ormodol.

Yr unig beth y byddwn yn ei ddweud - heb enwi neb - yw imi deimlo fod dwy stori yn fwy llafurus na'r gweddill.

Hynod gywrain
Am eu cymdogion, mae'n rhaid cyfaddef mai fy ffefrynnau oedd; Y Wraig a Garai 芒'i Geiriau gan Annes Glyn, Y Bont gan Sian Owen, Briallu gan B.S. Reeves a Byd Hud gan Eurgain Haf.

Mae'r mynegiant yn y pedair stori yma'n benodol, yn hynod gywrain heb awgrym o ormodiaeth.

Fel y gymhariaeth estynedig a gawn gan Annes Glyn am eiriau fel ceriach yng ngwaelod bag llaw, "yn nhryblith carpiad-bag llwythog ei geiriau", fel rhyw Mary Poppins y byd geiriau, gyda rhai'n fwy beiddgar na'i gilydd, "yn mynnu gwthio i'w llaw heb fawr o gymell . . . [tra bod] eraill wedyn yn swatio'n swil ym mhlygion leinin y bag yn prin gyffwrdd blaenau ei bysedd."

Dylai'r stori hon dawelu unrhyw un sy'n amau talent y wraig a ddaeth i'r brig yng Nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaeth gyda Symudliw y llynedd.

Yn wir, bron nad yw hon yn enghraifft o L锚n Meicro estynedig - os yw'r ffasiwn beth yn bosibl! - yn yr ystyr fod iddi naws delynegol iawn.

Plethu dwy stori
Eraill y byddwn i'n eu neilltuo fel rhai a fwynheais yn arbennig, fyddai Briallu, gan B.S Reeves , y buddugol yn y gystadleuaeth ac yn llawn cyffyrddiadau cynnil tu hwnt, yn ogystal 芒 bod yn plethu dwy stori ynghyd.

Mae iddi sawl ystyr a sawl thema hefyd, ac mae ei darllen, eilwaith, deirgwaith fel plicio a rhywun yn canfod haen arall gyda phob darlleniad.

Ar gyrion cymdeithas
Dwy arall a greodd argraff arnaf oedd Byd Hud Eurgain Haf ac Y Bont gan Sian Owen gyda'r ddwy stori fel ei gilydd yn ymwneud 芒'r tristwch a'r trasiedi o fod yn unig, o droedio ar gyrion cymdeithas, a'r distryw a ddaw o ganlyniad.

Mae Eurgain Haf yn chwilio'r angen sydd gan ddynol ryw am drefn ac arfer a chanolbwyntio ar bethau bychain er mwyn gallu anwybyddu'r pethau mwy.

Tristwch Byd Hud yw fod rhai pethau na ellir eu trwsio unwaith y maent yn deilchion.

Dyma hefyd sydd i'w gael gan Sian Owen gydag unigedd y prif gymeriad yn ei gyrru i eithafion i geisio cael mymryn o gydnabyddiaeth.

Pethau bychain
Ar y cyfan, ymdrin 芒 phethau bychain bywyd er mwyn egluro'r pethau mwy oedd y straeon a fwynheais fwyaf.

Ar y llaw arall, y rhai na chefais gystal blas arnynt oedd rhai a geisiai gyflawni gormod, naill ai o ran cynnwys neu neges.

Serch hynny, os yw'r gwaith hwn yn arwydd o'r hyn sydd i ddod, mae'r dyfodol yn ddisglair i lenyddiaeth yng Nghymru.

Adolygiad Gwales o Yn Nes at Baradwys:

Cysylltiadau Perthnasol
Y gystadleuaeth a'r feirniadaeth


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy